1 month ago Be among the first 25 applicants
Radiograffydd MR
Ysgol Seicoleg – CUBRIC
Rydym yn ceisio penodi Radiograffydd MR yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) i gefnogi treialon clinigol ac ymchwil. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi gweithgareddau sganio yn yr Ystafelloedd MR. Bydd yr ymgeisydd yn Radiograffydd Diagnostig cymwysedig, wedi'i gofrestru yn y wlad, gyda phrofiad mewn delweddu trawsdoriadol (MR, neu MR a CT). Darperir hyfforddiant ar gyfer gweithredu a defnyddio ein systemau MR. Byddai'r swydd yn addas ar gyfer Radiograffydd hunangymhellol sydd â diddordeb mewn ymchwil a threialon clinigol MR ac a fydd yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol gyda chydweithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd clinigol ac ymchwil.
Bydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran diwrnod/amser bod yn gyfrifol am weithredu’r sganwyr, fel y cytunwyd gyda'r rheolwr llinell. Mae hefyd yn dibynnu ar y galw amrywiol am y sganwyr.
Mae CUBRIC yn ganolfan delweddu ac ymchwil flaenllaw yn y byd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r cyfleusterau presennol yn cynnwys sganiwr MR 7T Siemens, 2 x sganiwr MR Siemens Prisma 3T, a sganiwr MR 3T Siemens Connectom, wedi'u lleoli mewn cyfleuster delweddu yn Heol Maendy, Caerdydd.
Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar gefnogi gwaith treialon clinigol ar ein system Prisma 3 Tesla, gyda rhywfaint o sganio ar y systemau eraill, gan ddilyn protocolau diffiniedig. Byddwch yn ymuno â thîm MR sy'n cynnwys dau radiograffydd, ffisegydd MR a Rheolwr Labordy MR, ynghyd â thîm ehangach o staff craidd yn CUBRIC.
Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.
Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6). Bydd unigolion a benodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 4 Mehefin 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 22 Mehefin 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
* Darparu gwasanaeth MR radiograffig clinigol ac ymchwil proffesiynol i gleifion a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn CUBRIC ac sy’n dod iddi
* Ymarfer gwasanaeth proffesiynol a diogel ym mhob agwedd ar sgrinio diogelwch MR CUBRIC, wrth weithredu’r sganwyr a phob gweithgaredd arall sy'n gysylltiedig ag MR. Gweithredu'r sganwyr yn gymwys, gan ddefnyddio protocolau safonol a thrwy hynny gynhyrchu data/delweddau o ansawdd uchel a chyson iawn.
* Gwybodaeth gadarn am ddiogelwch MR i gyfranogwyr a chleifion. Rhoddir hyfforddiant ar brosesau CUBRIC a Phrifysgol Caerdydd fel rhan o'r broses ymsefydlu i weithwyr.
* Rhoi cefnogaeth gyda bwcio a rheoli amser gweithgaredd sganio CUBRIC
* Cyfleu gwybodaeth a chyfarwyddiadau cymhleth i safon briodol a phroffesiynol i’r canlynol: cyfranogwyr/cleifion/perthnasau neu warcheidwaid y sawl sy’n cael sgan; pobl o dan 16 oed; oedolion agored i niwed; pobl ag anabledd corfforol neu feddyliol neu anabledd gwybyddol.
* Cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o Ddeddf y Gymraeg yn y gweithle. Fel gweithiwr, cydnabod, ymarfer a deall polisi Prifysgol Caerdydd ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a Diogelu Data wrth gyfathrebu a rhyngweithio â gweithwyr y brifysgol, cyfranogwyr, cleifion, myfyrwyr, ymwelwyr ac eraill bob tro.
* Gwneud yn siŵr bod rhywun ar gael i weithredu’r sganwyr bob dydd yn ystod cyfnodau gwyliau blynyddol cydweithwyr sganio
* Sicrhau bod dulliau amddiffyn rhag ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio, rheoli diogelwch amgylchedd MR, a holl bolisïau a gweithdrefnau diogelwch CUBRIC, yr Ysgol, y Coleg a Phrifysgol Caerdydd yn cael eu dilyn yn llym bob amser. Adrodd am bob digwyddiad y dylid adrodd amdano i'r rheolwr llinell mewn modd amserol a chymryd camau priodol lle bo angen.
* Cyfrannu at bolisïau a gweithdrefnau MR, asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredu safonol.
* Gyda'r rheolwr llinell, pennu, cyflawni ac adolygu nodau realistig a heriol fel rhan o werthusiad blynyddol gweithwyr a datblygiad gyrfa personol.
* Rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, damweiniau neu ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd y mae angen hysbysu amdanynt o ran iechyd a diogelwch i'r rheolwr llinell. Gwneud cofnod priodol ac amserol o'r holl weithgaredd sganio yn y cofnodion logio sganiau.
* Wedi’ch cofrestru’n radiograffydd diagnostig gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal y DU
* Mynd i'r holl sesiynau diogelwch perthnasol, datblygiad proffesiynol, a chyrsiau/diweddariadau hyfforddi gorfodol Prifysgol Caerdydd, a diweddaru’ch gwybodaeth yn gyson amdanynt.
* Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a gyfarwyddir gan y rheolwr llinell/Cyfarwyddwr CUBRIC, neu uwch-gydweithwyr radiograffig, a ystyrir yn gymesur ac yn briodol â disgrifiad y swydd.
DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL
* Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei chymhwyso wrth gyflawni pob dyletswydd
* Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
* Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn cyd-fynd â'r rôl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gan Ysgol Seicoleg Caerdydd (gan gynnwys Canolfannau Ymchwil: CUBRIC, WICN, Deall Risg, a Seicoleg Galwedigaethol ac Iechyd) gyfanswm o dros 50 o staff academaidd, ac mae 24 ohonynt yn Athrawon. Mae 84 o staff ymchwil amser llawn a rhan amser (gan gynnwys Cymrodyr Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol, BBSRC, RCUK ac ESRC). At hynny, mae nifer o staff cymorth technegol (12 aelod o staff) a gweinyddol (25 aelod o staff). Dyma un o'r adrannau Seicoleg mwyaf yn y DU.
NODYN PWYSIG: Wrth gyflwyno eich datganiad ategol, mae’n rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ynglŷn â sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol (a dymunol lle bo hynny’n berthnasol) isod. Rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny drwy ddefnyddio’r meini prawf yn is-benawdau, gan roi tystiolaeth ysgrifenedig o'ch sgiliau perthnasol o dan bob un. Cyn lanlwytho'r datganiad ategol hwn, gofalwch eich bod yn cynnwys ****BR yn enw’r ffeil.
Meini Prawf Hanfodol
* Radiograffydd Diagnostig cymwys iawn ac wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal y DU. Deiliad DCR(R) neu BSc mewn Radiograffeg Ddiagnostig.
* Tystiolaeth o ddiddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd MR a phrofiad sylweddol o hyn
* Y gallu i weithio'n ddiogel mewn amgylchedd MR
* Y gallu i gaffael data delweddu i fodloni safonau rheoli ansawdd, gan ddilyn protocolau diffiniedig, mewn modd effeithlon a phroffesiynol.
* Y gallu i weithio yn sesiynau treial clinigol CUBRIC (ar hyn o bryd ar ddydd Mawrth a/neu ddydd Iau, ond gyda diwrnodau ychwanegol yn dod ar gael).
* Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol, yn broffesiynol ac yn briodol i amrywiaeth eang o bobl. Y gallu i gyfathrebu'n briodol â phobl oedrannus, plant, perthnasau’r bobl sy’n cael sgan, pobl agored i niwed, pobl bryderus sy’n cael sgan.
* Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau eang drwy achub y blaen a bod yn greadigol, gan nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol a gweithio i ddyddiadau cau tynn.
* Gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor
Meini Prawf Dymunol
* Diddordeb mewn niwroddelweddu a threialon clinigol
* Profiad o sgrinio diogelwch MR cymwys a chynnal sganiau MR ar gleifion neu gyfranogwyr fel rhan o dreial clinigol neu ymchwil
* Achrediad cenedlaethol neu leol ar gyfer defnyddio cwniwlâu mewnwythiennol ar gyfer rhoi Gadoliniwm
* Profiad blaenorol neu ddiddordeb amlwg mewn gweithio gydag ymchwilwyr, prosiectau ymchwil neu dreialon clinigol.
* Profiad o optimeiddio protocolau MR i wella ansawdd delweddau. Gwybodaeth am y ffactorau sy'n dylanwadu ar ansawdd delweddau.
Seniority level
* Seniority level
Entry level
Employment type
* Employment type
Full-time
Job function
* Job function
Health Care Provider
* Industries
Higher Education
Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x
Sign in to set job alerts for “Radiographer” roles.
London, England, United Kingdom 21 hours ago
London, England, United Kingdom £35,000.00-£45,000.00 18 hours ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Pharmaceutical Sales Integrated Account Specialist
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Pharmaceutical Sales Integrated Account Specialist
Merton, England, United Kingdom 2 weeks ago
Pharmaceutical Sales Integrated Account Specialist
Merton, England, United Kingdom 2 weeks ago
Affiliate & Influencer Marketing Executive- MR PORTER
London, England, United Kingdom 1 week ago
Radiology Consultant with interest in GI
London, England, United Kingdom 21 hours ago
London, England, United Kingdom 3 days ago
Consultant in General Radiology interest in Chest & Cardiac Imaging
Harrow, England, United Kingdom 1 week ago
Institutional Outside Sales Representative, UK
London, England, United Kingdom 1 day ago
Chessington, England, United Kingdom 2 days ago
London, England, United Kingdom 1 week ago
London, England, United Kingdom 13 hours ago
Fundamental Research Group Associate (Biotech & Pharma)
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Fundamental Research Group Associate (Biotech & Pharma)
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 41 minutes ago
EMEA Equity Research – Pharma & Biotech – Analyst or Associate
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.
#J-18808-Ljbffr