Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Rheolwr adfer cerbydau

Carmarthen
Dyfed-Powys Police
Posted: 18h ago
Offer description

Overview

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Ymgyrchoedd Arbenigol
Lleoliad Arall
Lleoliad - Arall Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog a GweithredolGradd G
Cyflog £41,907 - £45,147
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau\'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu\'n y Gymraeg sy\'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 6 Hydref 2025
Dyddiad cau 15/09/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Rheolwr Adfer Cerbydau yn Gweithrediadau Arbenigol.


Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Datblygu, gweithredu, monitro ac adolygu strategaethau, systemau a phrosesau er mwyn sicrhau bod yr Heddlu’n rheoli ei gyfrifoldebau o ran Adfer Cerbydau yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Datblygu ac archwilio i gyfleoedd mewn perthynas â’r cydweithrediad adfer cerbydau, gan gynnwys cynhyrchu incwm ac arbed costau.


Elfen Rwyf am i chi wneud

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.


Beth allwch chi ddisgwyl?

* Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
* 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
* 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
* Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
* Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
* Gostyngiadau gan Sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
* Cynllun Beicio i’r Gwaith
* Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
* Cynllun pensiwn
* Rhwydweithiau Cymorth Staff
* Cyfleoedd gweithio hyblyg
* Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
* Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf


Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.y. – 11:30y.b. fan hyn.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Carmarthen
jobs Carmarthenshire
jobs Wales
Home > Jobs > Rheolwr Adfer Cerbydau

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save