DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Bennaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg ysbrydoledig sydd a gweledigaeth i arwain ein Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) deinamig o fis Medi 2026. Mae hon yn gyfle eithriadol i lunio datblygiad strategol Gwyddoniaeth a Thechnoleg mewn ysgol flaengar sy’n ymrwymedig i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Fel Pennaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg, byddwch yn:
1. Darparu arweinyddiaeth strategol a rheolaeth o ddydd i ddydd o’r MDaPh, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Gwyddor Feddygol a Thechnoleg.
2. Gyrru arloesi’r cwricwlwm a sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar draws pob cyfnod allweddol.
3. Arwain a chefnogi tîm talentog o weithwyr proffesiynol, gan feithrin cydweithredu a gwelliant parhaus.
4. Hyrwyddo disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr a’u hysbrydoli i gyflawni eu llawn botensial.
Rydym yn chwilio am arweinydd sy’n cyfuno arfer dosbarth rhagorol, sgiliau arwain cryf, a brwdfrydedd dros addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd gennych y gallu i gyfathrebu gweledigaeth glir, ysgogi eraill, a chyfrannu’n gadarnhaol at fywyd ac ethos ehangach yr ysgol. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol, a darperir hyfforddiant pwrpasol i gefnogi datblygiad yn unol â’n nodau strategol.
.
Os ydych yn frwdfrydig am arwain addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg a gwneud effaith barhaol ar brofiadau dysgwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Safeguarding Statement
Ysgol Bro Dinefwr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.