Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Senior lecturer - occupational therapy

Occupational therapy lecturer
Posted: 17 December
Offer description

Uwch Ddarlithydd Therapi Galwedigaethol Rydym yn chwilio am Uwch-ddarlithydd amser llawn i ymuno â thîm Therapi Galwedigaethol Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn y swydd hon, byddwch yn cael cefnogaeth i gynnig addysg o safon ac yn cyfrannu at ddatblygu ein meysydd pynciol at y lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch yn cael y cyfle i wneud ymchwil sy’n berthnasol i Therapi Galwedigaethol, i wella rhagoriaeth ymchwil gyffredinol yr Ysgol. Rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd dros addysgu arloesol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn ogystal â chefndir addysgol cryf. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar hanes diamheuol o gynnal a chyhoeddi ymchwil mewn maes perthnasol. Dylech fod yn drefnus, yn gydweithredol ac yn meddu ar rinweddau arweinyddiaeth. Dylai ymgeiswyr fod â PhD (neu gymhwyster cyfatebol) a meddu ar brofiad clinigol perthnasol. Mae bod yn gofrestredig yn Therapydd Galwedigaethol gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn hanfodol. Byddwn yn gofyn am ddatganiad uwch o gofnodion troseddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi i gymryd rhan yn Rhaglen Addysg a Chymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd a fydd yn rhoi achrediad i chi fel Cymrawd Academi Addysg Uwch ar ôl cwblhau'r rhaglen. Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio at Steve Evans, Arweinydd Atebolrwydd Proffesiynol (Therapi Galwedigaethol). E-bost: evansd71@cardiff.ac.uk Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn benagored ac wedi'i lleoli ym Mharc y Mynydd. Cyflog: £61,759 - £67,468 y flwyddyn (Gradd 8). Fel arfer, gwneir penodiadau i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa oni bai mewn amgylchiadau eithriadol. Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2025 Dyddiad cau: Dydd Sul, 4 Ionawr 2026 Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned waeth beth fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swyddi. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd DIBEN Y SWYDD (at ddibenion swydd Addysgu ac Ymchwil) Cyflwyno addysgu dan arweiniad ymchwil ar lefel israddedig ac ôl-raddedig a chyfrannu at ddatblygu a gwella darpariaeth addysg yr Ysgol. Dilyn rhagoriaeth ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. Cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau allweddol ar y lefel israddedig a/neu ôl-raddedig. PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU Addysgu Cyflwyno addysgu o safon a chyfrannu at ddatblygiad addysgegol y maes pynciol. Canfod ac arwain ar gyfleoedd i wneud newidiadau a gwella’r cwricwlwm, er enghraifft modiwlau a rhaglenni newydd, cynnal gwerthusiadau o raglenni ac adolygu cynnwys cyrsiau a deunyddiau’n rheolaidd. Bod yn arweinydd modiwl, gan sicrhau bod yr addysgu yn unol â gofynion y cwricwlwm presennol, datblygu a defnyddio deunyddiau a thechnegau addysgu arloesol a phriodol sy'n ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymhlith y myfyrwyr. Ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig ag arholiadau, megis gosod a marcio asesiadau a rhoi adborth i fyfyrwyr. Bod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio gwaith myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig, cyd-oruchwylio Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a bod yn aelod o banel adolygu cynnydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn ôl y gofyn. Ymchwil Ymgymryd ag ymchwil sy'n berthnasol i'r maes sy'n cyfrannu at ragoriaeth ymchwil gyffredinol yr Ysgol a’i harwain. Cyhoeddi cyhoeddiadau o safon mewn cyfnodolion academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid. Gwneud ceisiadau am gyllid ymchwil allanol i gynnal gweithgarwch ymchwil. Cyfrannu at gynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i rannu canlyniadau eich ymchwil eich hun a datblygu rhwydweithiau ymchwil. Cymryd rhan yng ngweithgarwch ymchwil y Brifysgol a’r Ysgol. Arweinyddiaeth Darparu arweinyddiaeth academaidd drwy gydlynu gwaith pobl eraill i sicrhau bod meysydd penodol o gyrsiau gradd/ymchwil yn cael eu trefnu a'u cyflwyno'n effeithiol. Bod ynghlwm wrth gynllunio strategol adrannol a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol ehangach y Brifysgol. Cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu, a hynny er mwyn gwella sgiliau a gwybodaeth ymchwil a dysgu ac addysgu. Arall Ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol gweithredol, a'u harwain, ar gais Pennaeth yr Ysgol a'r uwch-dîm rheoli Cydweithio'n effeithiol â chyrff proffesiynol, masnachol a chyhoeddus a sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol er mwyn codi proffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws sawl gweithgarwch. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd. Gwybodaeth Ychwanegol Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol gyda gweledigaeth feiddgar a strategol Ein dyfodol, gyda'n gilydd - Ynglŷn â - Prifysgol Caerdydd ac mae wedi'i lleoli ym mhrifddinas hardd a ffyniannus Cymru. O ran ymchwil mae Prifysgol Caerdydd yn safle 11eg yn y DU o ran effaith ymchwil gyda 90% o'i hymchwil wedi'i dosbarthu fel un sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol Ymchwil - Prifysgol Caerdydd. Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi'i lleoli ar gampws y Waun ochr yn ochr â'r Ysgolion Meddygaeth a Deintyddiaeth ac mae'n rhannu'r safle gydag Ysbyty Prifysgol Cymru, gan ddod â thimau addysg, ymchwil a chlinigol ynghyd. Mae'r Ysgol yn darparu rhaglenni cyn-gofrestru ar gyfer Nyrsio Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig a Radiotherapi ac Oncoleg. Mae ganddi raglenni ôl-raddedig amlddisgyblaethol a addysgir ac ymchwil. Mae'r Ysgol yn hyrwyddo iechyd a lles drwy addysg ac ymchwil o'r radd flaenaf. Mae ein darpariaeth amlddisgyblaethol yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn dod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus ac arloesol sy'n ymrwymedig i ethos o ofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ledled y DU a ledled y byd. Mae gan ein portffolio o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gymhwysol effaith glinigol uniongyrchol, gyda chryfderau penodol mewn iechyd meddwl, canser ac adsefydlu a gweithgaredd corfforol. Mae gennym ddull cydweithredol cryf o weithio gydag Ysgolion eraill yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ac ar draws y Brifysgol gyfan. Mae'r Coleg yn ffurfio amgylchedd delfrydol ar gyfer ymchwil iechyd a biolegol gyda chwe chryfder ymchwil thematig sy'n cwmpasu Canser; Bioleg Datblygiad ac Adfywiol; Haint, Llid ac Imiwnedd; Mecanweithiau Systemau Byw; Meddwl, Ymennydd a Niwrowyddoniaeth ac Iechyd y Boblogaeth. NODYN PWYSIG: Wrth gyflwyno eich datganiad ategol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o sut rydych chi'n bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol (a dymunol os yn berthnasol) isod. Awgrymwn eich bod chi'n gwneud hynny trwy ddefnyddio pob un o'r meini prawf fel is-benawdau, gan ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o'ch sgiliau perthnasol oddi tano. Cyn uwchlwytho'r atodiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys BR o fewn enw'r ffeil. Meini Prawf Hanfodol (swydd Addysgu ac Ymchwil) Cymwysterau ac Addysg Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig a phrofiad clinigol perthnasol. Tystysgrif Ôl-raddedig Addysgu a Dysgu yn y Brifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Profiad sylweddol o addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig, gan arloesi wrth addysgu a datblygu a llunio cyrsiau. Y gallu diamheuol i gynllunio, cyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ar draws rhaglenni addysgu’r Ysgol. Arbenigedd sefydledig a hanes diamheuol o ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol mewn perthynas â Therapi Galwedigaethol. Enw sefydledig yn genedlaethol, ac enw da cynyddol yn rhyngwladol yn y maes academaidd, a hanes diamheuol o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol a/neu allbynnau ymchwil eraill. Hanes diamheuol o gyfrannu at geisiadau ymchwil llwyddiannus a'u harwain Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm Hanes diamheuol o arweinyddiaeth academaidd Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn diwtor personol iddynt. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i rannu syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill gan ddefnyddio sgiliau o’r radd flaenaf ac ystod o gyfryngau. Meini Prawf Dymunol Tystiolaeth o gydweithio yn y maes/byd diwydiant ehangach. Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio, a hynny i wella gweithgarwch addysgu ac ymchwil yr Ysgol. Hanes diamheuol o fod yn gyfrifol am waith gweinyddol academaidd.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Senior lecturer in occupational therapy
Sheffield
Permanent
NHS
Occupational therapy lecturer
€40,000 a year
Similar job
Occupational therapy lecturer — teach, research & flexible working
London
Permanent
London South Bank University
Occupational therapy lecturer
Similar job
Lecturer occupational therapy
London
Permanent
London South Bank University
Occupational therapy lecturer
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Education jobs > Occupational therapy lecturer jobs > Senior Lecturer - Occupational Therapy

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save