Cydymaith Ymchwil mewn Peirianneg Protein
Rydym yn chwilio am ymchwilydd sydd â chefndir mewn dylunio a pheirianneg protein i ymuno â grŵp Dafydd Jones, yn yr Isadran Biowyddorau Moleciwlaidd, Ysgol y Biowyddorau.
Nod y prosiect hwn, sydd wedi'i ariannu gan BBSRC, yw mynd i'r afael â rhywbeth sydd ar goll o ran rhyngweithedd celloedd, sef hunan-gysylltiad proteinau. Mae rhyngweithio rhwng proteinau (PPI) yn chwarae rhan allweddol mewn bioleg, a gall camreoli hyn arwain at lu o gyflyrau afiechydion. Mae cyflymwyr genetig, sy'n cael eu galw'n broteinau fflworoleuol, wedi chwarae rhan allweddol o ran archwilio PPI yn y gell. Er hyn, dim ond monitro rhyngweithio rhwng dau brotein gwahanol y gall y dulliau fflworoleuol ategol ei wneud ar hyn o bryd. Dyw hi ddim yn hawdd mesur hunan-gysylltiad yr un proteinau. Mae hyn yn broblem fawr oherwydd mae llawer o PPIau, ac o bosib y rhan fwyaf, yn cynnwys hunan-gysylltu proteinau sydd union yr un fath.
Gan adeiladu ar waith diweddar yn y labordy Jones, bydd eich prosiect yn creu amrywiadau proteinau fflworoleuol newydd i'w defnyddio yn y gell, a fydd yn adweithio wrth lynu at darged protein sy'n hunan-gysylltu.
Yn y swydd hon, byddwch chi'n gwneud y canlynol:
* Ymchwilio ym maes dylunio a pheirianneg proteinau, cynhyrchu proteinau ailgyfunol, cynnal dadansoddiad moleciwlaidd o broteinau, a delweddu celloedd gyda ffocws penodol ar broteinau fflworoleuol
* Ymchwilio gyda'r nod o gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o safon uchel a/neu greu data ar gyfer ffeilio patent
* Cyfrannu at weithgareddau a gwaith cyffredinol yn y labordy
* Rhyngweithio a chysylltu ag ymchwilwyr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd.
* Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol Ysgol y Biowyddorau a'r Brifysgol drwy gynhyrchu allbynnau y gellir eu mesur gan gynnwys cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd a chyflwyno mewn cynadleddau, a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
* Adolygu a chyfuno llenyddiaeth ymchwil gyfredol yn y maes.
* Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil Ysgol y Biowyddorau.
Hoffen ni glywed oddi wrthoch chi os oes gyda chi'r canlynol:
* Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu bron â'i chwblhau/cyflwyno) mewn biocemeg proteinau/peirianneg proteinau neu brofiad diwydiannol perthnasol.
* Arbenigedd a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad perthnasol ym myd diwydiant yn y meysydd ymchwil canlynol:
o Dadansoddiad cyfrifiadol o strwythur moleciwlaidd proteinau gan gynnwys agweddau dylunio (e.e. Rosetta, deinameg moleciwlaidd).
o Peirianneg proteinau a thechnegau moleciwlaidd cysylltiedig (mwtagenesis, clonio, dadansoddiad moleciwlaidd proteinau, cynhyrchu proteinau ailgyfunol).
o Dadansoddiad sbectrosgopig o broteinau (e.e. amsugnedd a sbectrosgopeg fflworoleuedd).
Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy'n cynnig pecyn manteision sylweddol a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydyn ni'n falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Yn rhan o'r swydd hon, gellir ystyried rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus gael mynediad at hyfforddiant pellach.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig trefn gweithio hyblyg, lle bynnag bydd anghenion y swydd a'r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Cysylltwch â Dafydd Jones ) i gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol ynghylch y swydd.
Swydd lawn amser yw hon (35 awr yr wyhtnos), am gyfnod penodol o 5 Feb 2026.
Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 24 Tachwedd 2025
Dyddiad cau: Dydd Llun, 15 Rhagfyr 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o'r farn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. O ganlyniad, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned, ni waeth beth fo'u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu'r swydd neu weithio'n hyblyg.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau i gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail y metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesiad ymchwil gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Prif swyddogaeth
Cynnal gwaith ymchwil ym maes dylunio a pheirianneg proteinau a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol, gan gyflawni gwaith ymchwil a fydd yn arwain at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o safon uchel. Byddwch yn sicrhau rhagoriaeth ym maes ymchwil ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Ymchwil
* Ymchwilio ym maes dylunio a pheirianneg proteinau, cynhyrchu proteinau ailgyfunol, cynnal dadansoddiad moleciwlaidd o broteinau, a delweddu celloedd gyda ffocws penodol ar broteinau fflworoleuol.
* Ymchwilio gyda'r nod o gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o safon uchel a/neu greu data ar gyfer ffeilio patent.
* Cyfrannu at weithgareddau a gwaith cyffredinol yn y labordy.
* Rhyngweithio a chysylltu ag ymchwilwyr eraill yn y Brifysgol.
* Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol Ysgol y Biowyddorau a Phrifysgol Caerdydd drwy gynhyrchu allbynnau y gellir eu mesur gan gynnwys cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd a chyflwyno mewn cynadleddau, a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
* Adolygu a chrynhoi llenyddiaeth ymchwil sy'n bodoli eisoes yn y maes.
* Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil Ysgol y Biowyddorau.
Dyletswyddau eraill
* Byddwch yn anelu at ragoriaeth a gonestrwydd ym maes ymchwil ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
* Cyflawni tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi'r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith i sicrhau adroddiadau cywir a phrydlon.
* Paratoi rhaglenni moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel y bo'n briodol.
* Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
Mae'r Brifysgol yn defnyddio manyleb yr unigolyn wrth lunio rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo hynny'n berthnasol. Yn rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol.
Dylech arbed eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân gyda'r teitl [EICHENW-RHIF BR-TEITL SWYDD] a'i atodi i'ch cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu bron â'i chwblhau/cyflwyno) mewn biocemeg proteinau/peirianneg proteinau neu brofiad diwydiannol perthnasol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
Arbenigedd sefydledig a phortffolio ymchwil diamheuol a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y maes ymchwil canlynol:
a Dadansoddiad cyfrifiadol o strwythur moleciwlaidd proteinau gan gynnwys agweddau dylunio (e.e. Rosetta, deinameg moleciwlaidd)
b Peirianneg proteinau a thechnegau moleciwlaidd cysylltiedig (mwtagenesis, clonio, dadansoddiad moleciwlaidd proteinau, cynhyrchu proteinau ailgyfunol)
c Dadansoddiad sbectrosgopig o broteinau (e.e. amsugnedd a sbectrosgopeg fflworoleuedd).
Gwybodaeth am statws presennol ymchwil ym maes arbenigol dylunio a pheirianneg proteinau
Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion dibynadwy.
Cyfathrebu a gweithio mewn tîm
Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i lywio ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolion
Arall
Y gallu diamheuol i fod yn greadigol, bod yn arloesol a gweithio yn rhan o dîm yn y gwaith
Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
Meini Prawf Dymunol
Gwybodaeth ymarferol o ddulliau peirianneg proteinau cyffredinol gan gynnwys datblygiad dan arweiniad
Gwybodaeth ymarferol o'r strwythur moleciwlaidd a swyddogaeth proteinau fflworoleuol
Diddordeb mawr mewn bioleg strwythurol a dadansoddiad bioffisegol, yn enwedig ynghylch rhyngweithio rhwng proteinau
Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
Tystiolaeth o'r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil y prosiect a'r Ysgol.