Dewch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i werthfawrogi parch, cydraddoldeb a pherthnasau iach Oes gennych radd neu gymhwyster perthnasol ym maes addysg, gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid neu ymgysylltu cymunedol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn sesiwn addysgol? Rydym yn chwilio am aelod newydd (siaradwr Cymraeg) i ymuno â’n tîm Prosiect Spectrum, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan addysgu plant am berthnasau iach a phynciau VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol). Mae’r rôl hon yn amodol ar wiriad Datgeliad Manwl (Gweithlu Plant) gan y DBS, a delir gan y cwmni os oes angen. Croesewir ceisiadau gan unrhyw un sy’n byw yn ardal Gwynedd / Ynys Môn. Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr drwydded yrru lawn ac yn meddu ar gerbyd, gan fod y rôl hon, er ei bod wedi’i lleoli gartref, yn cynnwys teithio rhwng ysgolion ledled Gwynedd ac Ynys Môn. Rhaid i ymgeiswyr allu profi eu hawl i weithio yn y DU. Help shape the next generation’s understanding of respect, equality, and healthy relationships. Do you have a degree or relevant qualification in education, social work, youth work, or community engagement and experience of working with young people in an educational session? We are looking for a new member (Welsh speaker) to join our Spectrum Project team, working with primary and secondary schools in Wales, teaching children about healthy relationships and VAWDASV topics.