Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Gweithiwr cymorth lle bo'r angen

Rhyl
Permanent
The Salvation Army
Posted: 25 September
Offer description

Oriau Gwaith: 40 awr yr wythnos (ROTA)

Dyddiad Cyfweliad: I’w gadarnhau

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a hyblyg i ymuno â’n tîm newydd, fel rhan o’r Prosiect STEP yn Sir Ddinbych.

Nod y prosiect hwn yw darparu profiad gwell yn gyffredinol, o fyw mewn llety dros dro yn Sir Ddinbych, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i wella eu lles ac adeiladu ar eu dyfodol.

Bydd STEP yn cefnogi hyd at 50 o aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd ac o fewn ein cyfleusterau byw â chymorth pwrpasol.

Mae STEP yn chwilio am berson unigryw a thalentog sy'n awyddus i gefnogi o fewn ein cyfleuster byw â chymorth

Cyfrifoldebau Allweddol:

Gweithio fel rhan o dîm sy’n cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am gyflwyno ein rhaglen o gefnogaeth gyfannol sy’n canolbwyntio ar denantiaeth i deuluoedd a phobl sengl, sy’n byw mewn llety argyfwng dros dro ar draws sawl safle yn y Rhyl ac o fewn ein Cyfleusterau byw â chymorth.

Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu:

1. Dangos gwybodaeth am ddigartrefedd a'r anghenion allweddol a brofir gan bobl ddigartref bregus.
2. Dangos gwybodaeth gadarn o'r systemau budd-daliadau
3. Dangos sgiliau cyfathrebu a TG gwych
4. Mwynhau gweithio fel rhan o dîm a hefyd bod â'r hyder i fod yn hunan-gyfeiriedig a gweithio ar eich pen eich hun yn ôl yr angen.
5. Meddu ar y gallu i weithio mewn cydymdeimlad ag egwyddorion ysbrydol Byddin yr Iachawdwriaeth

Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.

Ym mhroffil y swydd fe welwch y meini prawf sydd eu hangen ar gyfer y rôl, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i'r afael â hyn yn eich datganiad ategol gan mai hwn yw sail ein rhestr fer.

Penodiad yn amodol ar dystlythyrau boddhaol, prawf o hawl i weithio yn y DU, Datgeliad Manwl/Safonol y DBS//Mynediad GI (Diwygiwch fel y bo’n briodol)

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hwn yn gynharach os teimlwn ein bod wedi derbyn digon o geisiadau.

Gan hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun hyderus o ran anabledd, rydym yn gwarantu cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd wag.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Rhyl
jobs Denbighshire
jobs Wales
Home > Jobs > Gweithiwr Cymorth lle bo'r Angen

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save