Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Digital journalist (welsh language content)

Cardiff
Screen Alliance Wales
Journalist
Posted: 14 October
Offer description

Overview

Newyddiadurwr Digidol (Cynnwys Cymraeg)

Lleoliad : Caerdydd

Cyflog : 30246 – 34326 (yn ddibynol ar brofiad)

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â TalkingCareers@itv.com

Cymraeg? Newyddiadurwr? Yn byw a bôd ar gyfryngau cymdeithasol?

Mae’r rôl hon i chi. Mae gennym gyfle anhygoel i newyddiadurwr digidol i ymuno â’n tîm cynnwys Cymraeg yn ITV Cymru Wales. Gan weithio ochr yn ochr â dau newyddiadurwr dan hyfforddiant, yn y rôl hon byddwch yn cyflwyno ac yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer ein platfform – Hansh Dim Sbin (@hanshdimsbin). Byddwch hefyd yn wyneb ymgyrch Etholiad Senedd 2026 ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.


Rwy’n chwilio amdano

Rhywun â syniadau gwreiddiol ac uchelgeisiol gydag angerdd dros gynhyrchu cynnwys materion cyfoes hygyrchol sy’n berthnasol i bobl ifanc Cymru. Rydym eisiau rhywun sydd â dealltwriaeth ardderchog o faterion cyfoes Cymru sy’n frwd i ddod o hyd i amrywiaeth o leisiau a straeon newydd o bob cwr o’r wlad, yn enwedig straeon y rhai sydd weithiau’n cael eu tangynrychioli. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o weithio fel newyddiadurwr neu grewr cynnwys. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg i safon uchel yn hanfodol.


Beth mae’r rôl yn ei gynnwys

Bydd eich diwrnod o ddydd i ddydd yn cynnwys ymateb i straeon y newyddion trwy greu cynnwys ffres i bobl ifanc ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd gennych hefyd gyfle i ymchwilio ac adrodd ar straeon newyddiadurol gwreiddiol eich hun ar bynciau all amrywio o ddiwylliant poblogaidd i wleidyddiaeth.


Gofynion ar gyfer ymgeisio

Ynghyd â’ch cais, hoffem i chi gyflwyno’r canlynol:

* Cyflwynwch fideo ffurf fer sy’n addas ar gyfer TikTok/Instagram Reels (uchafswm 2 funud) ar stori newyddion neu bwnc materion cyfoes o’ch dewis. Meddyliwch am y demograffeg 16-24 oed a’r math o stori fyddai’n apelio at gynulleidfa Hansh Dim Sbin. Dylai hyn gael ei gynhyrchu yn yr iaith Gymraeg.
* Gallwch recordio’ch clip trwy ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais gyfatebol, uwchlwytho’r deunydd fideo i YouTube (canllaw pellach yma YouTube) neu debyg (a fydd yn cynhyrchu dolen i’w chyflwyno).
* Cofiwch labelu’r clip yn glir gyda’ch enw.

Gallwch hefyd wneud cais gyda chynnwys ayrsddi asesiad gref; sgwrs: deallir y cysyniadau a phriodau niwroamrywiol, addedig i brofiad y swydd.


Sgiliau allweddol

* Rhuglder yn yr iaith Gymraeg (llafar ac ysgrifenedig)
* Profiad mewn adrodd straeon digidol a/neu newyddiaduraeth
* Gwybodaeth wleidyddol a chyfathrebu gydag hanes profedig o ddidueddrwydd
* Dealltwriaeth wych o lwyfannau a strategaethau digidol
* Angerdd i weithio ym myd newyddion a materion cyfoes
* Ymrwymiad i gynyddu cynrychiolaeth a gwella hygyrchedd cynnwys newyddion Cymraeg i gynulleidfaoedd ifanc
* Meddyliwr creadigol
* Chwaraewr tîm

Mae amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni’n eisiau adlewyrchu ein cynulleidfa – ar y sgrin ac yn ein gweithle. Mae ITV ar gyfer pawb, ac rydyn ni’n annog pobl Fyddar, pobl anabl, pobl niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y swydd yma.

Mae’r ystafell newyddion yn lle prysur, gyda rhaglenni newyddion byw, sy’n aml yn gofyn i gydweithwyr wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Mae angen pobl sydd yn gallu cymryd camau ar eu liwt eu hunain, ac yn enwedig ar gyfer swyddi golygyddol, pobl sy’n gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen a sut i fynd ati i’w chwilio.

Mae’n rhaid i ni brofi’r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw’n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld – er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny’n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol – ond eto gan sicrhau ein bod ni’n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio’n effeithiol yn yr ystafell newyddion.

Yn ITV, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r defnydd o dechnoleg ar gyfer ymchwil wrth wneud cais. Rydyn ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol. Ond, mae gwirionedd a chywirdeb yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain.

Gall ceisiadau sy’n ymddangos eu bod wedi’u copïo’n uniongyrchol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI gael eu gwrthod. Rydyn ni’n credu mewn proses asesu deg a gonest – ac mae eich unigoliaeth yn allweddol i sefyll allan yn ein dewis.

Nodwch mai 2 fis yw’r cyfnod rhybudd ar gyfer y rôl hon (bydd hyn yn cynnwys unrhyw gontractau/secondiadau newydd)

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Video journalist - extend
Cardiff
BBC
Journalist
Similar job
Digital journalist
Cardiff
ITV
Journalist
Similar job
Senior journalist
Cardiff
BBC Group and Public Services
Journalist
See more jobs
Similar jobs
Media jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Media jobs > Journalist jobs > Journalist jobs in Cardiff > Digital Journalist (Welsh Language Content)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save