Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Gweithiwr man addasiadau / small repairs operative

Penygroes
Posted: 19 August
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweithiwr Man Addasiadau / Small Repairs Operative efo "Canllaw". ​ ​ Pwrpas y swydd: Gosod canllawiau, rampiau, cadeiriau cawod ayyb yn unol â gofynion yr asesydd a’r unigolyn. ​ Asesu anghenion a pheryglon i unigolion o amgylch eu cartrefi a gweithio’n fedrus ac yn ddiwyd i ddarparu gwasanaeth ymarferol i ddiogelu’r unigolyn o fewn amgylchedd ei gartref. ​ Disgrifiad swydd llawn i gael isod. ​ Mae "Canllaw" yn is-gwmni i Grŵp Cynefin. Nod " Canllaw" yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: "Canllaw Addasu" - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. "Canllaw Technegol" - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. 'Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn ' – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. ​ Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Gwenno Jones, Rheolwr Canllaw Addasu ar 0300 1110210. Mwy o wybodaeth - E wch ar ein gwefan : www.grwpcynefin.org ​ ​ Y Swydd: Math o gytundeb: Parhaol ​ Cyflog Spot: £30,244 y flwyddyn Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddio cerbyd, a ddarperir gan y cwmni, sy’n cyd-fynd â’r dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Canllaw yn unig. Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad Swydd: DS Gweithiwr Man Addasiadau 08.2025.pdf Buddiannau: Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf ​ ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. ​ Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Pembrokeshire
jobs Penygroes
jobs Wales
Home > Jobs > Gweithiwr Man Addasiadau / Small Repairs Operative

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save