Pennaeth Theatr, Perfformio, Celfyddydau a Theithio
Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cytundeb parhaol
Gradd E: Cyflog cychwynnol o £56,286
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Mae Pennaeth Theatr, Perfformio, Celfyddydau a Theithio yn rôl arweinyddiaeth strategol sy'n ymroddedig i hyrwyddo sectorau theatr a chelfyddydau perfformio Cymru. Gan adrodd i Ddirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, byddwch yn arwain y gwaith o weithredu argymhellion Adolygiad Theatr Saesneg 2025, gan yrru rhaglennu arloesol, modelau teithio a phartneriaethau. Byddwch yn hyrwyddo talent Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn datblygu fframweithiau cynaliadwy, ac yn ymgorffori blaenoriaethau trawsbynciol gan gynnwys yr iaith Gymraeg, gweithredu ar yr hinsawdd, ac amrywiaeth a chynhwysiant.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol ym maes theatre, perfformio a chelfyddydau gyda chefndir cryf mewn cynhyrchu, rhaglennu a datblygu sectorau. Mae gennych allu profedig i adeiladu ecosystemau creadigol gwydn ac amrywiol a llywio partneriaethau cymhleth ar draws lleoliadau a sefydliadau diwylliannol. Yn angerddol dros ddyrchafu celfyddydau perfformio Cymru, rydych yn dod â gweledigaeth strategol, gwybodaeth ddofn am y sector, ac ymrwymiad i gynhwysiant, cynaliadwyedd a rhagoriaeth artistig.
Yr Iaith Gymraeg
Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg yn sgil penodi os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Er nad oes disgwyl i chi fod yn gallu’r Gymraeg wrth geisio, rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Sut i ymgeisio
Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 5yh, Dydd Gwener 8fed Awst 2025
Cyfweliadau: 26ain a 27ain Awst 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd)
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Head of Theatre, Performing Arts and Touring
Full-time, 37 hours per week
Permanent Contract
Grade E: Starting salary of £56,286
Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay or Carmarthen. We are currently working in a hybrid way.
Our benefits include 30 days’ annual leave, 2.5 privilege days, flexible working hours/pattern, cycle to work scheme and a final salary pension (6%).
About this role
The Head of Theatre, Performing Arts and Touring is a strategic leadership role dedicated to advancing Wales’s theatre and performing arts sectors. Reporting to the Deputy Director of Arts, you will lead the implementation of the 2025 English Language Theatre Review recommendations, driving innovative programming, touring models, and partnerships. You will champion Welsh talent nationally and internationally, develop sustainable frameworks, and embed cross-cutting priorities including the Welsh language, climate action, and diversity and inclusion.
About you
We are seeking an experienced theatre and performing arts leader with a strong background in production, programming, and sector development. You have a proven ability to build resilient, diverse creative ecosystems and navigate complex partnerships across venues and cultural organisations. Passionate about elevating Welsh performing arts, you bring strategic vision, deep sector knowledge, and a commitment to inclusivity, sustainability, and artistic excellence.
Welsh language
We work in both English and Welsh. Fluency in Welsh (both written and spoken) is desirable but not essential for this post. However, a commitment to learning and speaking Welsh to a standard enabling its use in Council business is essential.
Diversity and Inclusion
The Arts Council of Wales is an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve.
The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet all the essential criteria set out in the person specification.
How to apply
If you would like to submit your application in an alternative format, such as voice note, video or British Sign Language video, please contact us first.
Closing date: 5pm Friday 8th August 2025
Interview date: 26th and 27th of August 2025 (In person in our Cardiff Office)
Flexible working
In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Please clearly state your proposal for working anything other than the advertised hours in your covering email upon submitting your application.
#J-18808-Ljbffr