Un Llais Cymru
Swyddog Bioamrywiaeth – Gogledd Cymru
Rhan-Amser 4 diwrnod yr wythnos (30 Awr)
Cyflog: £29,937 y flwyddyn (£36,922 CLlA)
(Codiad Cyflog yn yr Arfaeth)
Cyfnod sefydlog tan fis Mawrth 2027
(Caiff y rôl hon ei hariannu’n llawn gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru)
Un Llais Cymru yw’r prif gorff aelodaeth ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Yn dilyn 4 blynedd o lwyddiant yn datblygu a hyrwyddo bioamrywiaeth ac adferiad natur o fewn rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym yn ehangu ein tîm.
Bydd Swyddog Bioamrywiaeth newydd Gogledd Cymru yn cynorthwyo Rheolydd y Rhaglen i gyflawni nodau ac amcanion rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ar draws y sector Cynghorau Cymuned a Thref.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig ac sydd â lefel uchel o gymhelliant am adferiad natur, rhywogaethau brodorol a hyrwyddo bioamrywiaeth. Byddwch yn cynnig cefnogaeth ymarferol, cyngor arbenigol a hyfforddiant i’r sector ar adferiad natur a glasu’r stad gyhoeddus, ac yn eu cynorthwyo i reoli tir yn effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth. Byddwch yn eiriolydd ar ran y sector, yn cynrychioli eu hanghenion, ac yn hwyluso perthnasoedd cadarnhaol rhwng Cynghorau Cymuned a Thref a mudiadau eraill.
Bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle ichi wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws Cymru, trwy weithio gyda gwirfoddolwyr a chynghorwyr ymroddedig i greu, gwella ac adfer natur ar y trothwy.
Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm, ac yn adrodd yn uniongyrchol i Reolydd Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Fel aelod gwerthfawr o staff Un Llais Cymru, cewch eich cefnogi’n llawn gan y Prif Weithredwr a’r tîm yma.
Byddwch yn gweithio gartref, ond bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio’n bennaf ar Siroedd Gogleddol Cymru, ac bydd angen teithio rheolaidd, ynghyd â gwaith ar y Sul a gyda’r nos. Bydd angen ichi weithio yn yr awyr agored ymhob tywydd ac ar dirwedd o bob math. Mae bod yn siaradwr Cymraeg rhugl yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol; mae sgiliau iaith Gymraeg o Lefel 1-3 neu’r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Croeso i chi wneud cais yn Gymraeg neu’n Saesneg, a bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Er mwyn gofyn am becyn gwneud cais, ewch i wefan Un Llais Cymru. Ni dderbynnir dogfennau CV. Dyddiad Cau: Ganol nos ar y 23ain Mai 2025.
Mae Un Llais Cymru yn Gynrychiolydd Cyfleoedd Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
#J-18808-Ljbffr