 
        
        Rheolwr Rhanbarthol
Er mwyn cefnogi ein cynlluniau twf uchelgeisiol, mae gennym gyfle gwych i ymuno â’n Hadran Adeiladu ac Eiddo Tiriog. SOCOTEC yw’r darparwr annibynnol arweiniol yn y farchnad ar gyfer Rheoli Adeiladu, ac rydym yn falch o’n harbenigedd ac o fod yn awdurdod blaenllaw yn y diwydiant hwn.
Gyda phortffolio sylweddol o brosiectau arbenigol bach i rai o’r cyfleoedd mwyaf yn y wlad, mae’r Tîm Rheoli Adeiladu yn gweithio ochr yn ochr â dylunwyr blaenllaw byd-eang, Rheolwyr Prosiect, datblygwyr a chleientiaid, gan gynnwys cewri technoleg a chyfryngau cymdeithasol, cwmnïau cyfreithiol ac ariannol gorau’r byd, ac asiantaethau’r llywodraeth. Rydym yn chwilio am Rheolwr Rhanbarthol sy’n awyddus i ddechrau gyrfa newydd werth chweil ac sydd wrth ei fodd yn gweithio o fewn tîm strwythuredig ac eithriadol.
Bydd y sawl llwyddiannus yn arwain ac yn datblygu Tîm yn seiliedig yng Nghaernarfon. Bydd y rôl hon yn cwmpasu ardal Caernarfon, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth i’r tîm. Byddwch yn gweithredu fel arweinydd y swyddfa leol, gan ddarparu cymorth technegol a masnachol i’r syrfewyr ac yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol i reoli a thyfu’r tîm yn llwyddiannus, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau.
Yma yn SOCOTEC Rheoli Adeiladu, rydym yn deall mai trwy gael y bobl orau y gallwn ddarparu rhagoriaeth i’n cwsmeriaid. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad personol a phroffesiynol, a byddwch yn cael eich cefnogi a’ch mentora drwy bob cam o’ch taith gyda ni. Byddwch yn ymuno â thîm mawr o weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant ac yn cael profiad o rai o’r cyfleoedd a’r heriau gorau sydd ar gael.
Y tasgau fyddwch chi’n eu cyflawni (ond nid yn gyfyngedig iddynt):
Arolygiadau ac Asesiadau:
 * Cynnal arolygiadau safle ar wahanol gamau o’r broses adeiladu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau adeiladu
 * Adolygu dyluniadau sy’n ymwneud â strwythur, pensaernïaeth a pheirianneg fecanyddol, deunyddiau adeiladu, manylebau dylunio a strategaethau tân er mwyn cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu perthnasol a deddfwriaeth gysylltiedig
 * Cefnogi ein cleientiaid gyda chyngor ymgynghori Rheoliadau Adeiladu pan nad ydym yn gweithredu fel y Corff Rheoli Adeiladu Cofrestredig
Cydymffurfiaeth a Rheoliadau:
 * Gweithredu fel Arolygydd Adeiladu Cofrestredig a chyflawni’ch dyletswyddau o fewn eich cymhwyster, sgiliau a dosbarth cofrestredig
 * Goruchwylio eraill sy’n gweithredu mewn dosbarth RBI is neu sydd yn raddedigion dan hyfforddiant
 * Dehongli a gorfodi rheoliadau adeiladu cenedlaethol a lleol, gan gynnwys diogelwch tân, effeithlonrwydd ynni, hygyrchedd a gofynion amgylcheddol
 * Cyhoeddi hysbysiadau ffurfiol ac adroddiadau am unrhyw dorri ar y Rheoliadau Adeiladu neu Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022
 * Cydymffurfio â chod ymddygiad yr Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig
Dogfennaeth ac Adrodd:
 * Paratoi adroddiadau arolygu manwl, tystysgrifau cydymffurfiaeth a dogfennaeth ar gyfer prosesau cymeradwyo rheoleiddiol
 * Cadw cofnodion cywir o arolygiadau, canfyddiadau ac argymhellion, gan sicrhau olrheiniad a chydymffurfiaeth â gofynion yr awdurdod lleol
Dysgu a Datblygiad Parhaus:
 * Cadw’n gyfredol â newidiadau i godau adeiladu, rheoliadau ac arferion gorau’r diwydiant
Datblygu Busnes:
 * Paratoi dyfynbrisiau a delio ag ymholiadau a chyfleoedd
 * Cefnogi cleientiaid drwy ddarparu diweddariadau ar ddeddfwriaeth, rheoliadau ac arweiniad
 * Trosolwg / cadw cyfrifoldeb am elw a cholled y swyddfa
 * Cefnogi’r cyfarwyddwr gyda chyllidebau swyddfa, adnoddau ac amcanion incwm
Cyffredinol:
 * Goruchwylio dosbarthiad teg ac effeithiol o waith ar draws aelodau’r tîm
 * Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pryderon y tîm, gan wneud penderfyniadau pan fo’n briodol ac esgyn materion difrifol i’r uwch-reolwyr
 * Monitro cydymffurfiaeth â gweithdrefnau SOCOTEC a systemau Sicrwydd Ansawdd
 * Hybu cyfathrebu agored i wella effeithlonrwydd y tîm
 * Nodi cyfleoedd i wneud y gweithrediadau’n fwy effeithlon
 * Darparu mentora a chefnogaeth i aelodau’r tîm, gyda ffocws arbennig ar ddatblygiad staff iau
 * Cynnal adolygiadau perfformiad a chyfarfodydd 1:1 rheolaidd mewn cydweithrediad â rheolwyr llinell uniongyrchol
 * Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw gwynion ffurfiol
I lwyddo yn y rôl hon, bydd gennych:
 * Aelodaeth o RICS, CABE neu gymhwyster cyfwerth (neu gymhwyster trwy brofiad addas), gan sicrhau bod gofynion CPD yn cael eu bodloni
 * Yn ddelfrydol, cydymffurfiaeth drwy gofrestru fel RBI
 * Sgiliau cyfathrebu a chreu perthynas rhagorol
 * Gallu i adeiladu perthnasau cadarnhaol â chleientiaid a darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
 * Agwedd hunanysgogol a’r gallu i weithio’n annibynnol ac o fewn tîm prosiect mawr
 * Profiad o ddatrys materion cymhleth drwy ddadansoddi, datblygu atebion priodol a’u gweithredu
-----------------------------------
Pam SOCOTEC?
Yma yn SOCOTEC UK, mae gennym dros 2,000 o gydweithwyr ar draws ein sectorau yn darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i’n cwsmeriaid. Rydym yn darparu ystod heb ei ail o wasanaethau profi, archwilio ac ardystio ledled y DU, ac rydym yn cyflawni rhagoriaeth drwy recriwtio a chadw’r doniau gorau yn y diwydiant.
Rydym yn cynnig llwybrau gyrfa trawslinellol yn ogystal â llwybrau llinol, ac fe’ch cefnogir i ddatblygu gyrfa bortffolio mewn un lle. Heb sôn am y posibilrwydd o weithio’n lleol, yn genedlaethol neu’n fyd-eang, yn y swyddfa neu o bell. Rydym yn ymrwymedig i’ch datblygiad personol a phroffesiynol, a byddwch yn cael cefnogaeth drwy bob cam o’ch taith gyda ni. #YouGrowWeGrow
Ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r hyn sydd ei angen i ychwanegu gwerth at ein llwyddiant?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ac yn edrych ymlaen at dderbyn eich cais.
Adeiladu byd mwy diogel a chynaliadwy yw ein cenhadaeth graidd yma yn SOCOTEC mae’n greiddiol i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo i fod yn chwaraewr allweddol yn y gymdeithas, gan fuddsoddi mewn datrysiadau arloesol i sicrhau bod materion cymdeithasol ac amgylcheddol yn flaenllaw ym mhob agwedd ar ein gweithrediadau.