Domestic Assistant (Cleaner - University Accommodation)
Join to apply for the Domestic Assistant (Cleaner - University Accommodation) role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Continue with Google Continue with Google
Domestic Assistant (Cleaner - University Accommodation)
1 month ago Be among the first 25 applicants
Join to apply for the Domestic Assistant (Cleaner - University Accommodation) role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
* Gwisg a Hyfforddiant
* Gofal plant am bris gostyngol
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cynorthwy-ydd Domestig (Glanhawr – Llety'r Brifysgol) – Rhan amser
Byddwn yn chwilio am unigolion brwdfrydig, cadarnhaol a dibynadwy i ddarparu gwasanaeth glanhau effeithiol ar safle neuaddau preswyl.
Mae gwahanol swyddi ar gael, gan ddibynnu ar ba bryd y byddwch ar gael, ac mae’r oriau’n amrywio o 16 i 21 awr yr wythnos ar gyfartaledd, sy’n cael eu gweithio fel arfer rhwng 8.30am a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyflog cychwynnol: £12.60 yr awr
Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw.
Mae'r pecyn yn cynnwys 32 diwrnod o wyliau'r flwyddyn ynghyd ag 8 gŵyl banc, pro rata ar gyfer y rhai sy’n gweithio rhan amser, yn ogystal ag amrywiaeth o ostyngiadau i’r staff.
Bydd angen bod yn hyblyg o ran yr oriau gwaith a gweithio 5 diwrnod allan o 7 bob wythnos yn ôl y gofyn (fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener) er mwyn ein helpu i gyflawni nodau’r adran. Pan fydd myfyrwyr yn cyrraedd/gadael, ac yn ystod cynadleddau a chyfnodau prysur eraill, efallai y bydd gofyn i chi weithio oriau ychwanegol.
Nodwch fod angen i chi weithio ar y campws yn y swydd hon.
Rydym yn cynnig pecyn buddion staff blaenllaw a gwerth chweil:
* 32 diwrnod o wyliau'r flwyddyn ynghyd ag 8 gŵyl banc, pro rata ar gyfer staff rhan amser gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i ffwrdd
* Gwisg a Hyfforddiant
* Rydym yn cynnig dau gynllun pensiwn cyfrannol, a chewch eich dewis yn awtomatig i'r cynllun perthnasol ar gyfer eich math o swydd
* Mae ein cynllun Beicio i'r Gwaith yn galluogi gweithwyr i brydlesu beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig hyd at werth o £3,000 trwy gynllun Aberthu Cyflog
* Mae cynllun Benthyciadau Teithio Tocyn Tymor Blynyddol yn eich galluogi i wneud cais am fenthyciad di-log gan y brifysgol, a fydd wedyn yn prynu tocyn teithio blynyddol ar eich rhan. Bydd y swm hwn yn ad-daladwy dros 10 mis
* Cyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon
* Mynediad i 90 a mwy o ostyngiadau a bargeinion staff
* Gofal plant am bris gostyngol
Yn ystod cyrraedd / gadael, cynadleddau a chyfnodau prysur eraill efallai y bydd gofyn i chi weithio oriau ychwanegol.
Efallai y bydd swyddi ychwanegol ar gael yn y dyfodol agos, a bydd y dyddiadau cychwyn yn amrywio.
Os byddwch yn ei chael yn anodd dod o hyd i gyfrifiadur, ffoniwch 029 2087 6369.
Dyddiad hysbysebu’r swydd: Dydd Iau, 13 Mehefin 2024
Dyddiad cau: 31 Awst 2025
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
PRIF DDYLETSWYDDAU
* Glanhau mannau dynodedig yn y neuaddau preswyl, h.y. astudfeydd/ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi, mannau cymunedol, ceginau, toiledau, cawodydd, coridorau, cynteddau, grisiau, pennau grisiau, ffenestri, waliau, lifftiau, ystafelloedd teledu, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân ac yn hylan, gan gynnwys glanhau carpedi â siampŵ lle bo’n berthnasol
* Glanhau pob pwynt cyffwrdd, e.e. handlenni, nobiau, cloeon, platiau gwthio, rheiliau, canllawiau grisiau, botymau lifftiau, peiriannau gwerthu bwyd a diod, switshis golau ac ati, a hynny’n effeithiol
* Edrych a oes angen ail-lenwi’r mannau hylif diheintio dwylo ar draws y safle
* Defnyddio'r offer a deunyddiau glanhau mwyaf priodol sydd wedi’u cymeradwyo
* Symud dodrefn, cwcerau/oergelloedd ac offer arall yn ôl yr angen er mwyn ei gwneud yn bosibl glanhau’n effeithiol
* Dadrewi oergelloedd/rhewgelloedd pan ofynnir i chi wneud hynny
* Darparu gwasanaeth ystafell, gan gynnwys glanhau ystafelloedd ymolchi a cheginau, newid dillad gwely, mynd â dillad gwely i/o’r storfa ganolog, symud sbwriel ymaith ac ati
* Symud sbwriel ymaith a'i waredu yn y biniau priodol
* Glanhau bariau, swyddfeydd gweinyddol ac unrhyw fannau eraill, lle bo'n berthnasol
* Cario deunyddiau ac offer glanhau angenrheidiol o fan i fan a sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr glân a’u bod yn gweithio’n ddiogel
* Rhoi gwybod i'r goruchwyliwr am unrhyw ddifrod a/neu anghenion cynnal a chadw
* Dilyn gweithdrefnau fflysio legionella a chadw cofnodion cywir yn ôl yr angen
* Mynd i bob sesiwn hyfforddiant a nodir yn y Matrics Hyfforddiant a chymryd rhan mewn sesiynau o’r fath
* Nodi eich anghenion hyfforddiant personol ar y cyd â'ch rheolwr, a sicrhau bod dysgu'n cael ei drosglwyddo yn y gweithle
* Cadw at arferion gwaith a deddfwriaeth Iechyd, Diogelwch/Hylendid perthnasol, a defnyddio dim ond y deunyddiau ac offer glanhau a roddwyd i chi
* Bod yn ymwybodol o unrhyw beryglon posibl yn y gweithle i iechyd a diogelwch a rhoi gwybod am unrhyw beryglon o’r fath
* Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch
* Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a materion ariannol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol, fel sy’n briodol
* Darparu gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd/gadael ac yn ystod cynadleddau a chyfnodau prysur eraill, a all olygu gweithio oriau ychwanegol ac mewn neuaddau preswyl eraill
* Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
Bydd angen bod yn hyblyg o ran yr oriau gwaith a gweithio 5 diwrnod allan o 7, a fydd yn cynnwys nosweithiau a phenwythnosau, er mwyn ein helpu i gyflawni nodau’r adran.
GWYBODAETH AM WASANAETHAU'R CAMPWS
Mae Gwasanaethau'r Campws yn darparu ystod o wasanaethau cymorth proffesiynol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r gwasanaeth Preswylfeydd yn rheoli llety ar gyfer dros 5,500 o fyfyrwyr mewn lletyau arlwyo a hunanarlwyo.
O ran arlwyo, mae caffis a bwytai wedi'u lleoli'n gyfleus ar draws campysau'r brifysgol, yn ogystal â gwasanaeth lletygarwch a ddarperir.
Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwasanaeth chwaraeon cytbwys ac integredig o safon uchel i fyfyrwyr a staff, ac yn diwallu anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr.
Mae'r Feithrinfa yn cynnig cyfleusterau i blant rhwng 10 wythnos a 5 mlynedd oed, ac mae'r ganolfan wedi'i rhannu'n adrannau sy'n briodol i oedran a datblygiad y plant.
Defnyddir y cyfleusterau preswyl ac arlwyo ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn ystod gwyliau'r Brifysgol. Mae canolfan gynadleddau a adeiladwyd ac a ddyluniwyd at y diben ar gael hefyd drwy gydol y flwyddyn.
Mae gwaith Gwasanaethau’r Campws wedi'i gefnogi gan ei wasanaeth gweinyddol mewnol sy'n ymdrin â neilltuo lleoedd mewn preswylfeydd, adnoddau dynol ac ansawdd, prynu, cyfleusterau, cyllid, a gwaith gweinyddol cyffredinol.
Manyleb Unigolyn
Mae Manyleb yr Unigolyn wedi’i rhannu’n ddwy adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut rydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble rydych wedi defnyddio’r profiad, y wybodaeth, y sgiliau penodol a’r gallu sydd gennych ac sydd eu hangen ar gyfer y swydd benodol hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy greu dogfen newydd sy'n cynnwys eich datganiad ategol (cyfeiriwch at y cynllun sampl isod), rhestru’r HOLL FEINI PRAWF a nodi wrth bob un sut rydych yn eu bodloni.
Bydd angen i chi wneud hyn cyn dechrau paratoi eich cais ar-lein, gan y bydd angen i chi ei lanlwytho. Cyn lanlwytho’r datganiad ategol, mae angen rhoi’r teitl ‘datganiad ategol’ arno. Dylai’r teitl hefyd nodi cyfeirnod y swydd sy’n gorffen â ‘BR’ (sy’n berthnasol i’r swydd dan sylw).
MEINI PRAWF HANFODOL
* Profiad o gyflawni dyletswyddau domestig o fewn cartref neu amgylchedd masnachol
* Profiad o gyfleu gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod eang o bobl
* Y gallu i ymateb i anghenion cwsmeriaid mewn modd cwrtais ac addasu i'w gofynion yn unol â hynny
* Gallu diamheuol i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau
* Dealltwriaeth o’r defnydd cywir o ddeunyddiau glanhau mewn cartref neu amgylchedd masnachol, a'r gallu i ddefnyddio offer glanhau sylfaenol
* Profiad o weithgareddau codi a chario
MEINI PRAWF DYMUNOL
* Tystiolaeth o'r gallu i ddefnyddio ebost a chymwysiadau ar y rhyngrwyd
* Y gallu i siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu
Mae'r meini prawf dymunol yn rhestru’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad a fyddai’n fanteisiol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yr holl benderfyniadau wrth lunio rhestr fer yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol. Bydd y meini prawf dymunol yn cael eu defnyddio i ddewis neu ddad-ddewis ymgeiswyr yn dilyn hynny, fel sy'n briodol. Byddwn yn cyfweld â'r ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r meini prawf dynodedig orau.
Mae Enghraifft o Sut i Baratoi Eich Dogfen Sy’n Mynd I’r Afael Â’r Meini Prawf Hanfodol a Dymunol Ar Gael Isod
HANFODOL
* Profiad o gyflawni dyletswyddau domestig o fewn cartref neu amgylchedd masnachol
Rhowch dystiolaeth
* Profiad o gyfleu gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod eang o bobl
Rhowch dystiolaeth
* Y gallu i ymateb i anghenion cwsmeriaid mewn modd cwrtais ac addasu i'w gofynion yn unol â hynny
Rhowch dystiolaeth
Parhewch yn y modd hwn drwy restru’r holl feini prawf hanfodol a dymunol a rhoi tystiolaeth o dan bob pennawd.
Seniority level
* Seniority level
Entry level
Employment type
* Employment type
Full-time
Job function
* Job function
Management and Manufacturing
* Industries
Higher Education
Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x
Get notified about new Cleaner jobs in Greater London, England, United Kingdom.
Day Cleaner Required for Manor House (N4 2TG)
London, England, United Kingdom 2 days ago
London, England, United Kingdom 1 day ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom 10 hours ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Cleaning Attendant- Westfield, White City, London
London, England, United Kingdom 4 weeks ago
London, England, United Kingdom 6 days ago
Erith, England, United Kingdom 1 week ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
Camden Town, England, United Kingdom 5 days ago
Night Cleaner Required in Little Venice, London
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Night Cleaner Required for London Shepherds Bush (W12 8PP)
London, England, United Kingdom 2 days ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 1 day ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 1 day ago
London, England, United Kingdom 5 hours ago
London, England, United Kingdom 1 day ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Cleaner - Full-Time or Part-Time - Immediate Start - Cleaning Job
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 1 day ago
London, England, United Kingdom 2 days ago
Cleaner - Full-Time or Part-Time - Immediate Start - Cleaning Job
Edgware, England, United Kingdom 1 year ago
Cleaner - Full-Time or Part-Time - Immediate Start - Cleaning Job
Bromley, England, United Kingdom 10 months ago
Cleaner - Full-Time or Part-Time - Immediate Start - Cleaning Job
Sutton, England, United Kingdom 1 year ago
Cleaner - Full-Time or Part-Time - Immediate Start - Cleaning Job
Wembley, England, United Kingdom 1 year ago
Cleaner - Full-Time or Part-Time - Immediate Start - Cleaning Job
Harrow, England, United Kingdom 1 year ago
We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.
#J-18808-Ljbffr