Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Internal - research associate (aviation engine emissions measurement

Research associate
Posted: 26 January
Offer description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cydymaith Ymchwil: Mesur Allyriadau Peiriannau Hedfan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd Bydd deiliad y swydd Cydymaith Ymchwil yn gyfrifol am gaffael a dehongli data i ddeall effaith gweithrediad peiriannau awyrennau a chyfansoddiad tanwydd ar allyriadau rheoledig (deunydd gronynnol nad yw’n anweddol a nwyol) ac allyriadau go iawn ar y ddaear ac wrth hedfan. Byddwch yn ymuno â thîm ymchwil sefydledig, sy’n gyfrifol am gynnal a gweithredu system Ewrop i gyfeirio samplu a mesur deunydd gronynnol nad yw’n anweddol, a byddwch yn gyfrifol am gasglu, dadansoddi a dehongli data yn uniongyrchol o raglen ymchwil GRIM-SAF NERC UKRI, er mwyn ei gyhoeddi mewn erthyglau cyfnodolion rhyngwladol o safon uchel. Cynhelir y rhaglen ymchwil hon ar y cyd â phrifysgolion Manceinion ac Efrog, felly mae’n bosibl y bydd gofyn am gydweithio allanol a theithio, gyda'r disgwyliad y bydd y canfyddiadau a'r deilliannau perthnasol yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol perthnasol. Bydd hyn yn ehangu effaith y gwaith ac amlygrwydd yr ymchwilydd a benodir. Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae ar gael o 1 Ebrill 2026 am gyfnod penodol tan 9 Mai 2027. Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Nid ydym yn rhagweld y byddwn yn penodi rhywun i’r swydd hon uwchlaw pwynt 32, Pwynt Cychwyn cyflog Gradd 6, sef £41,064 y flwyddyn. Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dr A Crayford drwy e-bostio CrayfordAP1@caerdydd.ac.uk I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio Enginadmin@caerdydd.ac.uk Mae gan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd Wobr Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod yn enwedig i ymgeisio am y swydd hon. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer cyfleoedd i rannu swydd neu weithio’n hyblyg. Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2026 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau ynghylch cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y cyhoeddir ymchwil ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesiad o ymchwil gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd Cynnal ymchwil ar samplu, mesur, cywiro, ansicrwydd a rheoli allyriadau peiriannau awyrennau, a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol drwy gynhyrchu allbynnau mesuradwy gan gynnwys ceisiadau am gyllid, cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd cenedlaethol a chynadleddau, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Adolygu a choladu llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes. Adolygu codau efelychu moethus rhifiadol presennol Rolls-Royce (datryswr Reynolds pwrpasol) a modelau Elfen Cyfyngedig strwythurol (gan ddefnyddio ANSYS), i nodi cyfyngiadau perfformiad. Datblygu fersiynau diwygiedig neu well o'r modelau rhifiadol ac efelychiadau strwythurol sy'n addas ar gyfer efelychu amodau pwmp fel sy'n ofynnol gan Rolls-Royce. Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid. Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau yn y rhain yn ôl yr angen. Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod adroddiadau manwl gywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon. Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel y bo’n briodol. Adolygu a chywain llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes. Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol. Meithrin a chreu rhwydweithiau yn y Brifysgol a’r tu allan iddi, gan gynnwys dylanwadu ar benderfyniadau, ystyried gofynion ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil. Arall Cynorthwyo â’r gwaith o gynnal, gwella a gweithredu system samplu a mesur deunydd gronynnol nad yw’n anweddol Ewrop. Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella’r perfformiad. Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd. PWYSIG: Tystiolaeth o Fodloni'r Meini Prawf Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni POB UN maen prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’ch cais, gofynnir ichi roi’r dystiolaeth honno ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei rhoi ynghlwm wrth broffil eich cais, dylech sicrhau mai cyfeirnod y swydd yw enw’r ddogfen. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 21233BR Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD ym maes mesur a rheoli allyriadau peiriannau hedfan. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Arbenigedd a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a phrofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol: Gwyddor aerosol Mesur allyriadau hedfan Samplu a mesur ansicrwydd a chywiro yng nghyd-destun safonau rheoleiddio Gwybodaeth o statws cyfredol yr ymchwil yn eich maes arbenigol Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion/cynadleddau rhyngwladol ym maes gwyddor aerosol (e.e. AS&T, ES&T) a chyflwyno mewn gweithdai data a chyfarfodydd technegol perthnasol (e.e. SAE E31) Gallu profedig i fod yn llwyddiannus wrth geisio am gyllid ymchwil cystadleuol Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm 6. Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol 7. Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill er mwyn rhoi ffocws i waith y tîm, ac ysgogi unigolion Arall 8. Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith 9. Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl Meini Prawf Dymunol 10 Cymwysterau proffesiynol perthnasol – gradd mewn disgyblaeth peirianneg (Mecanyddol/ Trydanol/ Integredig) 11.Tystiolaeth o gydweithio/profiad gwaith mewn diwydiant perthnasol (hedfanaeth yn ddelfrydol). 12. Tystiolaeth o’r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Research associate in advanced cryo-imaging
The Rosalind Franklin Institute
Research associate
Similar job
Research associates - banking & retail technology, cards and payments (languages required)
London
DATOS INSIGHTS
Research associate
Similar job
Graduate research associate
London
Permanent
Research associate
£30,000 a year
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Science jobs > Research associate jobs > Internal - Research Associate (Aviation Engine Emissions Measurement

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save