£125,000 per
annum + bonus + generous pension + benefits | Wales /
Hybrid WPP IM Co is being
established as an FCA-regulated investment management company to
serve the eight Welsh Local Government Pension Scheme funds,
managing more than £25 billion for 412,000 members. This is a
once-in-a-generation opportunity to help shape a permanent,
world-class investment institution for Wales and to design and lead
the investment capability of a new, regulated company at the heart
of UKLGPS reform. With
Government backing, and authorisation targeted for March 2026, WPP
IM Co will operate to global standards with a Welsh purpose -
combining professional excellence with a clear public mandate. Over
time, WPP IM Co will help channel long-term pension capital into
clean energy, affordable housing, innovation and other investments
that strengthen Wales and the UK - demonstrating how responsible
investment can serve members and the communities they live
in. The organisation is now
seeking its first ever Director of Finance to serve as Executive
Director and hold FCA Senior Management Function (SMF3) approval on
authorisation. Reporting to the CEO and working closely with the
Audit & Risk Committee Chair and Director of Financial Risk,
the Director of Finance will lead financial management, planning
and control across the company - establishing robust frameworks
that ensure transparency, prudence and accountability in a
regulated environment. You
will join a compact, high-calibre executive team and play a pivotal
role through mobilisation, authorisation and launch, building the
financial systems, reporting and governance that will underpin a
£25 billion organisation with a public purpose.
You may already be a Finance Director in an
FCA-regulated setting or a senior finance professional ready to
take that next step. You will bring a strong command of
financial-control frameworks, statutory and prudential reporting,
and audit oversight. A qualified accountant (CIPFA, ACA, ACCA, CIMA
or equivalent), you will also bring experience designing or
overseeing MIFIDPRU, ICAAP or liquidity-management
frameworks. Experience
within the LGPS or public sector is not required. Welsh
connectivity or experience would be advantageous but is not
essential. Welsh language proficiency is also not essential but
would be an advantage. To
have a confidential conversation about the role with Odgers’ team
in Wales, please call Jemma Terry, Leighton Freeman or Steffan
Griffiths on 02922 947009 or email us at Odgers Wales Practice@odgers.com. All
applications will be acknowledged, and we particularly welcome
applications from diverse candidates.
To apply, please submit a CV by 07 November
2025.
£125,000 y flwyddyn + bonws + pensiwn hael + buddion |
Cymru / Hybrid Mae Cwmni
Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei sefydlu
fel cwmni rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod
Ymddygiad Ariannol i wasanaethu’r wyth cronfa Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol yng Nghymru, gan reoli mwy na £25 biliwn ar gyfer
412,000 o aelodau. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu i
lunio sefydliad buddsoddi parhaol, o'r radd flaenaf i Gymru ac i
ddylunio ac arwain gallu buddsoddi cwmni newydd a reoleiddir sydd
wrth wraidd diwygio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y DU.
Gyda chefnogaeth y
Llywodraeth, gan dargedu awdurdodiad ar gyfer mis Mawrth 2026, bydd
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gweithredu yn ôl safonau byd-eang
gyda phwrpas Cymreig - gan gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â mandad
cyhoeddus clir. Dros amser, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn
helpu i sianelu cyfalaf pensiwn hirdymor i ynni glân, tai
fforddiadwy, arloesi a buddsoddiadau eraill sy'n cryfhau Cymru a'r
DU - gan ddangos sut y gall buddsoddi cyfrifol fod o fudd i aelodau
a'r cymunedau lle maent yn byw.
Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am ei Gyfarwyddwr
Cyllid cyntaf erioed i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol a
chael cymeradwyaeth Swyddogaeth Uwch-reolwr (SMF3) gan yr Awdurdod
Ymddygiad Ariannol ar ôl awdurdodiad. Gan fod yn atebol i'r Prif
Swyddog Gweithredol a gweithio'n agos gyda Chadeirydd y Pwyllgor
Archwilio a Risg a'r Cyfarwyddwr Risg Ariannol, bydd y Cyfarwyddwr
Cyllid yn arwain rheolaeth ariannol, cynllunio a rheoli ar draws y
cwmni - gan sefydlu fframweithiau cadarn sy'n sicrhau tryloywder,
darbodaeth ac atebolrwydd mewn awyrgylch a reoleiddir.
Byddwch yn ymuno â thîm gweithredol
bach, o'r radd flaenaf ac yn chwarae rôl allweddol drwy ysgogi,
awdurdodi a lansio, ynghyd ag adeiladu'r systemau ariannol ac
adrodd a llywodraethu, a fydd yn sail i sefydliad gwerth £25 biliwn
sydd â phwrpas cyhoeddus.
Efallai eich bod eisoes yn Gyfarwyddwr Cyllid mewn
lleoliad a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'n
uwch-weithiwr cyllid proffesiynol sy'n barod i gymryd y cam nesaf
hwnnw. Bydd gennych reolaeth gref ar fframweithiau rheoli ariannol,
adroddiadau statudol a darbodus, a goruchwylio archwilio. Byddwch
yn gyfrifydd sydd wedi cymhwyso (CIPFA, ACA, ACCA, CIMA neu
gyfwerth), a bydd hefyd gennych brofiad o ddylunio neu oruchwylio
MIFIDPRU, ICAAP neu fframweithiau rheoli hylifedd.
Nid oes angen profiad o fewn Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol neu yn y sector cyhoeddus. Byddai
cysylltiad â Chymru neu brofiad o Gymru yn fanteisiol ond nid yw'n
hanfodol. Nid yw hyfedredd yn y Gymraeg yn hanfodol chwaith, ond
byddai'n fanteisiol. I
gael sgwrs cyfrinachol am y rôl gyda’r thîm Odgers Cymru,
cysylltwch â Jemma Terry, Leighton Freeman neu Steffan Griffiths ar
02922 947009 neu ebostiwch Odgers Wales Practice@odgers.com. Bydd pob cais
yn cael ei gydnabod, a rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr
amrywiol.
I ymgeisio, danfonwch CV erbyn 07 Tachwedd
2025.