Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Gweithredol Mae’r is-adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr am benodi unigolyn brwdfrydig sy'n cymryd y cam cyntaf mewn sefyllfaoedd i ymuno â'r Swyddfa Gyllid. Dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cyllid, bydd deiliad y swydd yn helpu Swyddfa Gyllid yr is-adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr i reoli’n ariannol gyfrifon yr is-adran, yn enwedig rhai’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes, ac yn cyfrannu at weithgareddau cyllidebu a chynllunio ariannol yn ôl yr angen. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) (pro-rata ar gyfer y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser), cynllun pensiwn lleol, trefniadau gweithio cyfunol (sy’n golygu y byddwch yn cael gweithio gartref rywfaint o’r amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw. I gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol ynghylch y swydd, cysylltwch â Laura Churchlow, Rheolwr Cyllid, drwy e-bostio ChurchlowL@caerdydd.ac.uk. Swydd ran-amser (21 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 31 Mai 2026 oherwydd secondiad. Mae'r swydd ar gael o 1 Ebrill 2025. Cyflog: £33,482 – £36,130 y flwyddyn, pro-rata yn ôl nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio (Gradd 5) Croesewir ceisiadau i gael secondiad – os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar sail secondiad, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gan eich rheolwr llinell cyn gwneud cais. I gael rhagor o wybodaeth am gydbwysedd bywyd-gwaith, manteision ariannol, datblygiad a lles a rhai o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael i staff Prifysgol Caerdydd, ewch i Yr hyn y gallwn ei gynnig - Swyddi - Prifysgol Caerdydd. Dyddiad cau: Dydd Iau, 1 Mai 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Diben y Swydd Gan weithio’n unol â’r amcanion a blaenoriaethau y cytunwyd arnynt gan y Rheolwr Cyllid, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol o ddydd i ddydd am yr holl weithgarwch cyfrifyddu ariannol sy’n digwydd yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes (LEARN) a’r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD), gan gynnwys rhannau eraill o’r is-adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr (AcSSS) yn ôl yr angen. Prif Ddyletswyddau Gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn adrannau AcSSS a’r Adran Gyllid Ganolog i sicrhau bod y Swyddfa Gyllid yn cyflawni cyfrifoldebau gweinyddu ariannol yn y ffordd fwyaf effeithiol Sicrhau bod arferion a phrosesau ariannol LEARN yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau a gweithdrefnau ariannol y Brifysgol, gan helpu’r staff ym mhob rhan o’r ganolfan i’w rhoi ar waith Cynnal ac adolygu gweithdrefnau gweithredol a dogfennau cysylltiedig i sicrhau bod safonau’r gwasanaeth yn diwallu anghenion rhanddeiliaid yn barhaus Rhoi cyngor ac arweiniad priodol i fyfyrwyr a chydweithwyr ar bolisïau, prosesau a gweithdrefnau ariannol Sicrhau bod amcanion yn cael eu bodloni a bod gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd drwy gydol y flwyddyn academaidd Datblygu dealltwriaeth drylwyr o system reoli ariannol y Brifysgol Datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r cofnodion ariannol ar system rheoli gwybodaeth myfyrwyr y Brifysgol (SIMS) Cyfrannu at asesu a gweithredu prosiectau a pholisïau perthnasol sy’n cael eu creu gan y Brifysgol yn ganolog, gan gynnwys datblygiadau perthnasol mewn perthynas â gwasanaethau Monitro a chymeradwyo archebion (yn llofnodwr awdurdodedig) a monitro cofnodion mewn cyfriflyfrau sy’n cael eu creu gan staff cyllid yr is-adran Paratoi datganiadau ariannol cyfnodol ar gyfer y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes a’r Rheolwr Cyllid, gan gynnwys cyfrifon incwm a gwariant, dadansoddiadau amrywiant ac esboniadau Sicrhau bod y tîm yn ymateb yn brydlon i geisiadau am wybodaeth ariannol gan wasanaethau canolog y Brifysgol ac uwch-swyddogion, gan gynnwys cyrff rheoleiddio a chyllido allanol perthnasol Cwblhau’r cysoniad asedau sefydlog blynyddol ar gyfer LEARN, CPD, yr Academi Dysgu ac Addysgu a swyddfa’r Cyfarwyddwr Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Cyllid i reoli staff tîm cyllid AcSSS a’u helpu i gyflawni eu swyddi’n effeithiol Cymryd rhan yn rhwydweithiau a fforymau perthnasol yr is-adran a’r Brifysgol, gan gynnwys rhwydweithiau a fforymau perthnasol y tu allan i'r Brifysgol, dan arweiniad y Rheolwr Cyllid Dyletswyddau Cyffredinol Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd Gwybodaeth Ychwanegol Mae'r is-adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr yn cynnwys adrannau a gwasanaethau amrywiol, gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Gydol Oes, yr Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yr Academi Dysgu ac Addysgu, Tîm Gweithrediadau'r Gofrestrfa, y Tîm Llywodraethu Addysg, y Tîm Rhaglenni Iaith Saesneg, y Tîm Bywyd Myfyrwyr a Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol. Mae’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes a’r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn datblygu, yn hyrwyddo ac yn cyflwyno cyrsiau datblygiad academaidd a phroffesiynol rhan-amser i oedolion. Mae'r cyrsiau’n amrywiol ac yn ceisio diwallu anghenion a diddordebau unigolion, boed yn eu bywydau personol neu eu bywydau proffesiynol. Mae rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Dysgu Gydol Oes a’r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gan gynnwys ehangder eu darpariaeth a’u meysydd pwnc, ar gael yn www.cardiff.ac.uk/learn a www.cardiff.ac.uk/professional-development. Pwysig: Meini Prawf Tystiolaeth Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth lunio’r rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol a, lle bo’n berthnasol, y meini prawf dymunol. Yn rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Sicrhewch eich bod yn rhoi tystiolaeth sy’n cyd-fynd â'r meini prawf isod. Byddwn yn ystyried eich cais ar sail y wybodaeth a roddwyd o dan bob elfen. Wrth atodi’r datganiad ategol i’ch cais, sicrhewch eich bod wedi rhoi cyfeirnod y swydd wag yn enw iddo, e.e. ‘Datganiad Ategol ar gyfer xxxxx BR’. Meini Prawf Hanfodol Profiad perthnasol a diamheuol o ymgymryd â gweithgareddau cyfrifyddu ariannol, gan gynnwys paratoi adroddiadau a dogfennau hynod gywir Profiad o weithio’n unol â gweithdrefnau monitro a rheoli priodol a dyfeisio gweithdrefnau o’r fath Profiad diamheuol o adrodd ar gyfrifon rheoli Profiad o gyfleu gwybodaeth ariannol yn effeithiol i’r staff hynny nad ydynt yn gweithio ym maes cyllid Sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i reoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith eich tîm yn effeithiol er mwyn cwblhau gwaith mewn pryd Gallu diamheuol i gymryd y cam cyntaf mewn sefyllfaoedd a bod yn greadigol er mwyn gwneud penderfyniadau, datrys problemau a nodi ac asesu opsiynau ymarferol Y gallu i ddefnyddio rhaglenni TG yn ddi-drafferth, gan gynnwys Microsoft Excel Cymhwyster cydnabyddedig ym maes cyllid, megis cymhwyster y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) neu Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), neu brofiad cyfatebol Profiad o reoli personél Meini Prawf Dymunol Profiad o ddefnyddio systemau cyfrifiadurol ariannol pwrpasol, e.e. Oracle a SIMS Profiad o roi systemau a newidiadau ym mhrosesau busnes ar waith Profiad o weithio yn y sector addysg uwch