Fixed-term | 6 months
Make an impact where great recruitment truly matters.
About the Role
We're looking for an enthusiastic and proactive Internal Recruiter to join our team and play a key role in shaping how we attract, select and hire the talent that drives our organisation forward. You'll be the expert our Hiring Managers rely on and the trusted advisor who ensures every recruitment experience is fair, smooth and engaging.
In this role, you'll manage recruitment activity from start to finish — from crafting compelling job descriptions and sourcing brilliant candidates, to guiding interview panels and ensuring we maintain strong recruitment governance. If you thrive in a varied role where no two days look the same, this is the perfect opportunity to make a real difference.
What You'll Be Doing
Owning the full recruitment lifecycle — managing attraction, shortlisting, interviews and selection to deliver a seamless and inclusive candidate experience.
Sourcing talent creatively, using a mix of channels to engage both active and passive candidates, including for specialist and senior roles.
Partnering with Hiring Managers to create accurate, well‑written job descriptions and supporting documents that stand up to audit requirements.
Championing recruitment best practice, offering clear guidance and confidently challenging decisions to ensure fairness and consistency.
Supporting our job evaluation process, hosting sessions and advising Hiring Managers to ensure accurate job levelling and alignment with our pay and performance framework.
Who we're looking for
Proven experience delivering end‑to‑end recruitment processes
Strong sourcing capability, ideally including experience headhunting specialist roles
Ability to write clear, engaging and accurate job descriptions
Experience using an Applicant Tracking System
Confidence challenging and influencing Hiring Managers at all levels
A continuous‑improvement mindset and passion for enhancing recruitment processes
Welsh Language Skills
While not essential for this role, Welsh language skills would make a great addition to your application.
TfW support anyone who wants to learn Welsh or improve their skills. We offer online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Equal Opportunities
We're changing the way the transport industry looks. By celebrating and embracing differences, we're building a workforce that represents Wales. We need talented people from all backgrounds and cultures to bring their perspectives and experiences. Diverse teams make better decisions and drive innovation. Join us in transforming the way Wales travels."
Who we are
Transport for Wales is changing the way Wales travels, making sustainable transport the first choice. We're building a multimodal integrated transport network called the T Network, making it easier for people to travel by train, bus, walking, wheeling and cycling.
Next steps
See attached Job Description for further details and how to apply. If you want to find out more about what we're doing in Wales, see our Annual Report.
We're a Disability Confident Leader. Let us know about any reasonable adjustments you may need in the recruitment process and as part of the role if you are successful.
This advert will close at 23:59 on the day of the application closing date stated above. However, we reserve the right to close this vacancy early if we receive enough applications. We encourage you to submit your application as early as possible.
Sylwch: contract am gyfnod penodol o 6 yw hwn
**Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Y Swydd
Bydd y Cynghorydd Recriwtio'n gyfrifol am y broses recriwtio gweithredol a'r gweithgareddau dethol er mwyn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gael y bobl briodol i gyflawni ei amcanion.
Cyfrifoldebau'r swydd
Cyflawni prosesau recriwtio a dethol o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys denu, llunio rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr drwy roi'r cyngor priodol i baneli cyfweld a chynnal cyfweliadau i sicrhau bod gan TrC broses recriwtio deg ac effeithiol.
Mynd ati'n rhagweithiol i recriwtio ar gyfer swyddi gwag agored, gan gynnwys rolau uwch ac arbenigol, drwy ddod o hyd i ymgeiswyr gan ddefnyddio amrywiol lwyfannau ac atebion creadigol i sicrhau bod TrC yn gallu recriwtio rolau arbenigol a chymryd camau cadarnhaol.
Llywodraethu'r broses recriwtio drwy weithio'n agos gyda, herio a chynghori Rheolwyr Penodi i greu Disgrifiadau Swydd a darparu dogfennau ychwanegol sy'n darparu llwybr cofnodi effeithiol.
Hwyluso a chefnogi proses gwerthuso swyddi TrC drwy roi cyngor ac arweiniad i Reolwyr Penodi wrth ysgrifennu disgrifiadau swydd a chynnal amrywiol sesiynau gwerthuso swyddi i sicrhau bod swyddi'n cael eu rhoi ar y lefel gywir a model cyflog a pherfformiad effeithiol.
Am beth rydyn ni'n chwilio
Profiad amlwg o gyflawni prosesau recriwtio o'r dechrau i'r diwedd.
Profiad o fynd ati'n rhagweithiol i ganfod adnoddau ar gyfer rolau arbenigol.
Profiad o ddefnyddio System Tracio Ymgeiswyr.
Gallu ysgrifennu disgrifiadau swydd clir a gafaelgar.
Profiad o wella prosesau recriwtio.
Profiad o herio'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r Rheolwr Penodi ynghylch penderfyniadau recriwtio.
Sgiliau Cymraeg)
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.