Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Athro / athrawes ac arweinydd dysgu mathemateg a rhifedd (ysgol bro caereinion)

Welshpool
Powys County Council
Posted: 8 December
Offer description

Athro / Athrawes ac Arweinydd Dysgu Mathemateg a Rhifedd (Ysgol Bro Caereinion)

Job description

Welsh Language Skills are essential for this position

Athro / Athrawes ac Arweinydd Dysgu
Mathemateg a Rhifedd
Prif raddfa cyflog a CAD2C
(Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn + CAD 2c o £8,285)
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi Arweinydd Dysgu Mathemateg a Rhifedd ymroddedig i
ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg f laenllaw ym Maldwyn, Gogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig
o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad disgyblion o
fewn ysgol arbennig sydd ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair
Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o’r Trallwng ac o fewn awr
o daith o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion ‘yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn
mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau’r ysgol. Maent yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu’. I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024
Dymunwn benodi athro deinamig, uchelgeisiol a chymwys iawn sydd â hanes o godi safonau a chynnydd dysgwyr. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm brwdfrydig a phroffesiynol. Byddwch yn meddu ar hanes o addysgu rhagorol i gyflawni dyheadau uchel Ysgol Bro Caereinion, Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau arholiadau newydd. Fel Arweinydd Dysgu, byddwch yn gyfrifol am ddarpariaeth mathemateg a rhifedd ar draws yr ysgol (Derbyn – Ôl 16) ac yn angerddol dros wneud
gwahaniaeth i addysg a phrofiadau dysgu ein holl ddisgyblion.
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol ddwyieithog ac mae’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C – Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio
Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person isod.
Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda’r ysgol os dymunwch sgwrs gyda’r pennaeth neu i ddod i ymweld â’r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda’ch cais.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Qualified social worker – powys county council – learning disabilities team
Welshpool
Permanent
Liquid Personnel
Qualified social worker
€40,000 a year
See more jobs
Similar jobs
jobs Welshpool
jobs Powys
jobs Wales
Home > Jobs > Athro / Athrawes ac Arweinydd Dysgu Mathemateg a Rhifedd (Ysgol Bro Caereinion)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save