Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 - Merched yn unig fydd yn cael eu hystyried Chwilio am swydd ym maes cefnogi? Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin sydd wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau o safon i: gefnogi pobl sy’n dioddef trais yn y cartref gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir g ogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein prosiectau’n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol. Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych a Dolgellau. Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Môn gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched a’u plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref. Cynllun Cefnogaeth Symudol Mae’r Cynllun Cefnogaeth Symudol yn cefnogi merched, dynion a’u teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Y Swydd Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £24,493 - £26,762 y flwyddyn Lwfans A r–alwad £20 y diwrnod / £48 ar benwythnos a gŵyl y banc Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol Teithio: Trwydded Yrru Gyfredol Lawn Pensiwn : Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Disgrifiad swydd: DS Gweithwraig Cefnogi Lloches 06.2025.pdf Job Description: JD Domestic Abuse Refuge Support Worker 06.25.pdf Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Sut i Ymgeisio am y swydd: Canllawiau cwblhau cais.pdf Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) B yddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gwybodaeth Ychwanegol Ni allwn ystyried ceisiadau os ydych wedi dioddef o gam drin domestig a wedi derbyn gwasanaeth Gorwel am 2 flynedd ar ôl ir berthynas ddod i ben. Mae hyn i ddiogelu a gwarchod yr unigolyn a rhoi digon o amser iddynt ddod i dermau hefo y gamdriniaeth a chael symud ymlaen yn ei bywydau. Mae’r gwaith yn gallu bod yn anodd ac yn gallu effeithio ar llesiant pobl os yn ymgymryd a gwaith cefnogi yn rhy fuan. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â’r swydd a'r lleoliad yna mae croeso i chi gysyllt u â Elizabeth Ephraim, Rheolwr Gwasanaethau Cam-drin Domestig ar 0300 111 2121 neu 07789403122