Lleoliad: Llandudno
Pwrpas y Rôl:
Darparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thenantiaeth i'r unigolion hynny sydd â phroblemau cymhleth a chyd-ddigwyddol gan gynnwys camddefnyddio sylweddau a dibyniaethau eraill, iechyd meddwl, tai a digartrefedd ac ymddygiad troseddol a helpu unigolion i symud ymlaen i fyw'n gynaliadwy. Darparu cymorth sy'n galluogi unigolion i fyw'n annibynnol a theimlo'n ddiogel gyda'r nod hirdymor iddynt fyw'n rhydd o sylweddau ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Gweithio gydag unigolion mewn meysydd fel cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg, rheoli dyledion a sgiliau byw bob dydd i hyrwyddo lles a ffordd iach o fyw, gan gynnwys gweithio asiantaethau partner.
Mae'r gwasanaeth tai yn gweithio i batrwm sifftiau sy'n cynnwys oriau anghymdeithasol a chysgu i mewn.
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siŵr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â'n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01792 816600
#J-18808-Ljbffr