DescriptionSupporting documentsEmployerLocation
Athro/Athrawes Cymraeg
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Athro/Athrawes Cymraeg i gychwyn Medi 2026.
Ysgol Bro Preseli yw un o ysgolion blaenllaw Cymru, gyda thraddodiad cryf o ragoriaeth academaidd a chyfraniad eithriadol i fywyd diwylliannol yr ardal. Rydym yn falch o’n safonau uchel, ein hymrwymiad i addysg Gymraeg, a’n hamgylchedd cefnogol sy’n meithrin doniau disgyblion ym mhob maes.
Rydym yn chwilio am athro neu athrawes frwdfrydig i ymuno â’n Adran Gymraeg yn y sector Uwchradd. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ddysgu disgyblion ar draws ystod oedrannau, gyda’r posibilrwydd i addysgu hyd at Safon Uwch i’r rhai profiadol.
Rydym yn cynnig:
1. Cymuned ysgol gynnes a chefnogol
2. Disgyblion ymroddedig sy’n gwerthfawrogi’r Gymraeg
3. Cyfleoedd datblygiad proffesiynol rhagorol
4. Cyfle i gyfrannu at weithgareddau diwylliannol a chymunedol
Meini prawf:
5. Cymhwyster addysgu cydnabyddedig
6. Brwdfrydedd dros y Gymraeg a’i diwylliant
7. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm
8. Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon i ymgeiswyr addas yn ôl profiad a chymwysterau.
9. Bydd yr Awdurdod yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth Mrs Rhonwen Morris. Manylion pellach ynglŷn â’r swydd uchod oddi wrth y Pennaeth ac yna ceisiadau drwy gwblhau’r ffurflen gais, llythyr ac enwau dau ganolwr, i'r Pennaeth, Ysgol Bro Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH, erbyn dydd Llun, 5ed o Ionawr 2026.
Safeguarding Statement
Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.
This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone's business whether they work for, or on behalf of the Council.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu'r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a'r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.