Job Description
MANYLION Y SWYDD
BAND Y SWYDD: TRN
MATH O GONTRACT: Tymor Penodol, Llawn amser am 8 wythnos
ADRAN: Radio Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd neu Fangor
YSTOD CYFLOG: £24,552 y flwyddyn - mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
BBC EXTEND
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend d...