Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Internal applicants only - senior library assistant

Library assistant
Posted: 18 December
Offer description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Uwch-gynorthwyydd Llyfrgell Mae swydd Uwch-Gynorthwyydd Llyfrgell yn rôl amrywiol sy’n cynnig gwasanaethau i gwsmeriaid. Byddwch yn ymdrin ag amryw o ymholiadau gan gynnwys rhai wyneb yn wyneb, dros y ffôn, a thrwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we - mae pob diwrnod yn wahanol. Byddwch yn helpu i wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn cael y llyfrau a'r cylchgronau y mae arnynt eu hangen ar adegau priodol, gan gynnwys copiau caled ac electronig. Byddwch hefyd yn cefnogi ein gwasanaethau o bell, gan gynnwys y cyfleuster sgwrsio gwib ar-lein. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau TG i gynorthwyo cwsmeriaid a chydweithwyr, gan gynnwys staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a GIG Cymru, staff academaidd y brifysgol, myfyrwyr, ac aelodau'r cyhoedd. Lleolir y swydd yn bennaf yn Llyfrgell iechyd, ond bydd disgwyl i chi weithio yn llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd pan fo angen. Mae'r swydd yn un rhan amser (21 awr yr wythnos) a cyfnod penodol tan 7 Medi 2026. Patrwm sifftiau: Dydd Mawrth 09:00 - 14:30 Mercher 09:00 - 14:30 Dydd lau 09:00 - 14:00 Gwener 09:00 - 14:00 Cyflog: £25,249 - £26,093 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 3). Fe fyddwch yn rhan o dîm sy’n sicrhau bod gwasanaethau’r llyfrgelloedd yn: cael eu cynnig mewn modd cyfeillgar sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf, yn unol ag Addewid Gwasanaeth y Llyfrgell; ymateb i anghenion newidiol staff a myfyrwyr Ymddiriedolaethau'r GIG a rhai o'r Byrddau Iechyd sy'n bartneriaid i ni yn cefnogi rhaglenni addysgu, dysgu ac ymchwil y Brifysgol; cefnogi strategaeth y Brifysgol Byddwch yn glynu wrth werthoedd ac ymddygiadau Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol. (Gweler y wybodaeth ychwanegol). Rydym yn cynnig pecyn talu ardderchog, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd ag 8 gŵyl fanc, pro rata ar gyfer staff rhan-amser, yn ogystal â mynediad at amrywiaeth o ostyngiadau a chyfleoedd datblygu staff trwy hyfforddiant achrededig. Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi gymryd camau ymlaen yn eich gyrfa. Rydym am gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm, a fydd yn cydweithio ag eraill i ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer y staff a’r myfyrwyr. Nid oes rhaid eich bod wedi gweithio mewn prifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyddiad cau: Dydd Sul, 4 Ionawr 2026 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Prif Ddyletswyddau Ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol (staff a myfyrwyr), Defnyddwyr GIG Cymru ac allanol (aelodau'r cyhoedd) mewn ffordd broffesiynol, gan ddarganfod eu hanghenion ac addasu'r ymatebion safonol yn unol â hynny. Gweithio gyda phobl eraill i wneud argymhellion i ddatblygu a gwella prosesau a gweithdrefnau presennol y Brifysgol. Creu perthnasoedd gwaith da â chysylltiadau allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth. Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran. Casglu ac adolygu data i ddiweddaru systemau gweinyddol megis cronfeydd data a thaenlenni, gan wneud yn siŵr bod y wybodaeth yn gywir, a thynnu sylw eich rheolwr/goruchwyliwr at dueddiadau a phatrymau sylfaenol. Cyfrannu’n weithredol at lwyddiant y tîm a chefnogi gyda goruchwylio a rheoli, gan roi cyngor, arweiniad ac adborth i gydweithwyr fel y bo’n briodol. Dyletswyddau Penodol cynorthwyo Rheolwr Gweithrediadau’r Llyfrgell/Is-reolwr Gweithrediadau’r Llyfrgell gyda’r gwaith o oruchwylio a gweithredu’r llyfrgell; helpu i ddarparu gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid, gan gynnwys cyhoeddi, dychwelyd a gwneud cais am eitemau. Gallai hyn fod wrth y ddesg neu drwy ddefnyddio’r peiriannau hunanwasanaeth. cymryd cyfrifoldeb dros gadw’r llyfrgell a’i chasgliadau’n drefnus ac yn daclus, a dirprwyo gwaith llenwi silffoedd a thasgau eraill lle bo angen; mynd ati i gefnogi cwsmeriaid y llyfrgell drwy helpu i ateb ymholiadau sylfaenol am TG a’r llyfrgell, mynd i’r afael â’r rhai mwy cymhleth ac sydd wedi’u cyfeirio gan Gynorthwy-wyr Llyfrgell, yn ogystal â chyfeirio ymholiadau nad oes modd eu hateb ar unwaith at y staff cymorth technegol perthnasol; helpu cwsmeriaid i ddefnyddio adnoddau electronig, e.e. e-lyfrau, cyfnodolion electronig a chronfeydd data; cefnogi’r defnydd o ddyfeisiau symudol; cefnogi cwsmeriaid drwy’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein gan fynd i’r afael ag ymholiadau sylfaenol a mwy cymhleth sy’n ymwneud â’r llyfrgell, a chyfeirio’r rhai na ellir eu hateb ar unwaith; trin taliadau arian parod a cherdyn ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau’r llyfrgell; cynorthwyo gyda gweithredu offer argraffu, llungopïo, sganio, lamineiddio a rhwymo meddal (lle bo'n berthnasol); helpu i esbonio wrth ddefnyddwyr y llyfrgell sut i ddefnyddio adnoddau, fel cynnig teithiau tywys i fyfyrwyr newydd a/neu gynorthwyo mewn gweithdai Llythrennedd Gwybodaeth; Cynorthwyo gyda rheoli a datblygu casgliadau yn y llyfrgelloedd. Gallai hyn gynnwys dileu hen rifynnau, gwirio rhestrau darllen a stoc. cymryd rhan mewn gweithgorau a grwpiau prosiect Gwasanaeth y Llyfrgelloedd (gall hyn gynnwys trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion fel aelod o grŵp); Dyletswyddau Cyffredinol Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o’r dyletswyddau cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gwasanaethau Proffesiynol a'r hyn sy'n cyfateb yn lleol (lle bo'n berthnasol). cyfrannu’n weithredol at wasanaeth cwsmeriaid rhagorol/ardderchog yn unol ag Addewid Gofal Cwsmeriaid Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol a Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid. Cadw at bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol. Gwneud yn siŵr y cedwir at Reoliadau Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol. Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol sydd ddim wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn mwy nag un llyfrgell yn ystod eich cyflogaeth. Ein gwerthoedd Mae pob un o’n gwerthoedd yn diffinio’r ymddygiad a ddisgwylir gan ein staff a’n rheolwyr llinell: Cydweithio Rwy’n ymwybodol o fy ymddygiad fy hun a sut mae'n effeithio ar bobl eraill Rwy’n gweithio gyda phobl eraill ac yn rhannu gwybodaeth berthnasol er mwyn cyflawni amcanion Rwy’n ystyried y manteision ehangach i’n cwsmeriaid Rwy’n rhannu problemau ac yn chwilio am atebion sy’n gweithio i bawb Cysondeb a rhagoriaeth Rwy’n rhoi gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid allanol a mewnol Rwy’n awgrymu meysydd i’w gwella lle gallai prosesau fod yn well Nid ydw i’n gweithredu heb ystyried anghenion fy nghydweithwyr a’r cwsmeriaid Nid ydw i’n osgoi tasgau anodd fyddai’n rhoi’r gwerth gorau i’m cwsmeriaid Dysgu Rwy’n dangos ymrwymiad i’m datblygiad fy hun, gan gynnwys technoleg newydd Rwy’n cydnabod camgymeriadau, yn chwilio am atebion ac yn dysgu o’r broses honno Rwy’n gweithio’n greadigol i ddadansoddi problemau a datblygu atebion arloesol ac ymarferol Effeithlonrwydd Rwy’n cynllunio fy llwyth gwaith i wneud yn siŵr bod gweithgareddau ystyrlon yn cael eu blaenoriaethu Rwy’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys pobl, gwybodaeth, data, technoleg, rhwydweithiau a chyllidebau mewn modd effeithiol Rwy’n gweld cyfleoedd mewn newidiadau, ac rwy’n agored i syniadau newydd Cynhwysiant Rwy’n parchu safbwyntiau a barn pobl eraill Rwy’n dangos ymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau Rwy’n cefnogi cydweithwyr ac yn ystyried ac yn addasu fy agwedd Rwy’n cynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd ac yn cefnogi pobl eraill i wneud yr un peth Nid ydw i’n amharchu barn pobl eraill nac yn eu hanwybyddu Nid ydw i’n methu ystyried effeithiau fy iaith a’m hymddygiad ar bobl eraill bob amser Nid ydw i’n anwybyddu gwerth prifysgol amrywiol Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn un o naw o adrannau o fewn Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd. Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn rhan o Adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr y Brifysgol. Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn cynnwys nifer o lyfrgelloedd ledled Prifysgol Caerdydd, gan ddarparu mynediad i 1.1 miliwn o lyfrau printiedig, mynediad i fwy nag 1.5 miliwn o lyfrau, cyfnodolion ac adnoddau ar-lein, ac ystod eang o lyfrau ac archifau prin a hanesyddol.Mae pob llyfrgell yn cydweithredu'n agos â'u hysgolion academaidd i sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn parhau i fodloni anghenion pob grŵp addysgu, dysgu ac ymchwil. Mae gwasanaeth llyfrgell y Brifysgol hefyd yn darparu gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a phartneriaeth gwasanaeth llyfrgell GIG Cymru. Yn ogystal â bod yn gartref i lyfrau a chyfnodolion printiedig ac electronig, mae'r llyfrgelloedd hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau i alluogi ymchwil arbenigol, gan gynnwys tîm adolygwyr rheolaidd SURE a chasgliadau ymchwil unigryw megis Casgliadau ac Archifau Arbennig, y Ganolfan Ddogfennaeth Ewropeaidd, a chyfleusterau archif eraill. Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn ymrwymo i wasanaeth cwsmeriaid gwych. Dyfarnwyd 'nod barcud' safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid ® Llywodraeth y DU i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, sy’n cydnabod bod gwasanaeth cwsmeriaid wrth wraidd ein gwasanaethau. Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn cynorthwyo ac yn ymateb i anghenion ein cwsmeriaid gan wneud popeth sy'n rhesymol bosibl i sicrhau dibynadwyedd ein gwasanaethau. Manyleb Unigolyn Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut yr ydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny trwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i'r rôl. Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW - XXXXXBR - TEITL SWYDD] a'i rhoi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio. Yn ogystal, nodwch mai dyma'r meini prawf yr asesir ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unol â hwy mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau) lle bo’n berthnasol. Meini Prawf Hanfodol Tystiolaeth o weithio'n effeithiol mewn gwasanaeth llyfrgell, gwasanaeth cwsmeriaid neu rôl weinyddol, gyda'r gallu i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno. Y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl yn effeithiol ac yn gwrtais tra'n cynnal safonau proffesiynol, gan addasu eich iaith a'ch arddull cyfathrebu yn dibynnu ar bwy rydych chi'n cyfathrebu, gan gymhwyso cyfrinachedd a disgresiwn. Y gallu i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid pan fo hynny'n briodol, neu’n gallu uwch-gyfeirio lle bo angen. Gallu siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu. Profiad o ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (ee MS Word, Excel, e-bost ac ati). Y gallu i sefydlu gweithdrefnau a systemau gweinyddol safonol a’u cynnal, gan gynnwys defnyddio systemau'r Brifysgol i gasglu a chofnodi data ar-lein ac ar ffurf copi caled. (Darperir hyfforddiant ble fo angen). Y gallu i weithio’n dda gyda'ch tîm, gan wybod sut i roi cyngor, arweiniad ac adborth (i gyd-weithwyr a'r cyhoedd) fel y bo'n briodol. Y gallu i gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith yn unol ag amserlenni a bennir gan eich Rheolwr Llinell/goruchwyliwr. Y gallu i gymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan ddod o hyd i'r ateb gorau, a'i gynnig. Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), gyda pharodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi, gan gynnwys TG, a dangos tystiolaeth o ymagwedd hyblyg at rôl sy'n datblygu'n barhaus. Meini Prawf Dymunol Profiad o weithio mewn gwasanaeth llyfrgell. Dealltwriaeth o adnoddau electronig, e.e. e-lyfrau, cyfnodolion electronig a chronfeydd data. Dealltwriaeth o dechnolegau symudol.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Flexible casual library assistant — capel & 3 branches
Capel (TN12 6)
Permanent
Shire of Capel
Library assistant
€13,000 - €81,807 a year
Similar job
Multi-branch library assistant — flexible shifts
Compton Dando
Permanent
North Somerset Council
Library assistant
€12.5 an hour
Similar job
School library assistant
London
Madison Reign Ltd
Library assistant
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Education jobs > Library assistant jobs > Internal Applicants Only - Senior Library Assistant

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save