Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Gyrrwr a chydlynydd cyfleusterau - gogledd

Bangor (Gwynedd)
Posted: 20h ago
Offer description

Diben y Rôl: Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod prosesau logistaidd yn gweithredu’n ddidrafferth a chynnal ymarferoldeb cyfleusterau yn y sefydliad. Byddwch yn gyfrifol am gydlynu agweddau amrywiol, gan gynnwys rheoli stocrestrau, a chasglu a dosbarthu stoc, ar yr un pryd â goruchwylio gwaith i gynnal a chadw ein cyfleusterau. Mae’r dyletswyddau hefyd yn cynnwys rheoli gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio, goruchwylio diogelwch, trefnu casgliadau a danfoniadau, a sicrhau bod y cyfleuster yn cydymffurfio ag iechyd a diogelwch a gofynion rheoleiddiol eraill. Bydd hefyd yn cynnwys trefnu gwasanaeth/MOT/yswiriant blynyddol ar gyfer fan y cwmni. Bydd eich sylw i fanylion, eich sgiliau trefnu, a’ch gallu i ymgymryd â sawl tasg ar yr un pryd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Bydd gan ddeiliad y swydd ystod eang o gyfrifoldebau a fydd yn gofyn am gryn fenter, agwedd gadarnhaol a hyblygrwydd, gan sicrhau ei fod yn gweithio mewn modd proffesiynol a phrydlon bob amser. Byddwch yn gweithio’n frwd i hybu’r berthynas â chefnogwyr presennol, yn ogystal â chefnogi timau Ymchwil Canser Cymru, fel y bo angen. ​ Hanfodol Trwydded Yrru lân Y gallu i ddefnyddio sgiliau crefft cartref (DIY) helaeth i gynnal a chadw ein safleoedd Parodrwydd i deithio i holl safleoedd y sefydliad ym Mangor, Llandudno, Caernarfon a Wrecsam Ymweld â’n siopau yn ne Cymru weithiau, fel y bo angen (gan ddefnyddio fan y cwmni) Cefnogi unrhyw ddigwyddiadau a allai gael eu cynnal ar y penwythnos neu ar ôl gwaith (gyda’r nos) ​ Dymunol Y gallu i siarad Cymraeg ​ Pecyn penodi: ​ 0525 - Gyrrwr a Chydlynydd Cyfleusterau - Gogledd.docx ​ Buddion PECYN BUDDION.docx ​ Sut i wneud cais – ewch i wefan Ymchwil Canser Cymru i gael rhagor o fanylion. Cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol sy’n esbonio sut rydych yn bodloni manyleb yr unigolyn, ac yn crynhoi’r rhesymau pam rydych eisiau’r rôl a pham rydych yn credu eich bod yn ymgeisydd cryf ar gyfer y swydd.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Bangor (Gwynedd)
jobs Gwynedd
jobs Wales
Home > Jobs > Gyrrwr a Chydlynydd Cyfleusterau - Gogledd

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save