Tŷ Storrie is a Children’s Home for children and young people aged between 8 -17 with disabilities and complex needs.
One of Cardiff’s Children’s Homes, it is located in the west of Cardiff, in proximity of the city centre and accessible by all major traffic routes in and out of Cardiff. The home provides a comfortable and welcoming environment where children feel safe and cared for.
Ty Storrie’s team offers support to families by providing an individual package of support and care to children and young people on an emergency basis, short breaks away from their family home and longer-term accommodation, which enables the children to develop skills, friendships and gain new experiences.
The team works from a strengths-based and trauma-informed approach meeting the needs of the resident children, young people and their families. We work as a team around the child and in close co-operation with parents and other professionals. All staff undertake a broad range of training and qualifications in Health and Social Care, registering with Social Care Wales.
Cartref i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sydd ag anableddau ac anghenion cymhleth yw Tŷ Storrie.
Ac yntau’n un o Gartrefi Plant Caerdydd, mae wedi'i leoli yng ngorllewin Caerdydd, yn agos at ganol y ddinas ac yn hygyrch i bob prif lwybr traffig i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae gan y cartref amgylchedd cyfforddus a chroesawgar lle mae'r plant yn teimlo'n ddiogel a bo pobl yn gofalu amdanynt.
Mae tîm Tŷ Storrie’n cynnig cymorth i'r teuluoedd trwy ddarparu pecyn unigol o gymorth a gofal i blant a phobl ifanc ar sail argyfwng, seibiannau byr i ffwrdd o'u cartref teuluol a llety tymor hwy, sy'n galluogi plant i feithrin sgiliau a chyfeillgarwch a chael profiadau newydd.
Mae’r tîm yn defnyddio dull o weithio sy’n seiliedig ar gryfderau a thrawma i ddiwallu anghenion y plant a phobl ifanc preswyl a’u teuluoedd. Rydym yn gweithio fel tîm o amgylch y plentyn ac mewn cydweithrediad agos â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae'r holl staff yn ymgymryd ag ystod eang o hyfforddiant a chymwysterau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.