Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cynghorydd gwasanaeth cwsmer (x 2) / customer service advisor (x 2)

Penygroes
Customer service advisor
£24,939 - £28,069 a year
Posted: 6h ago
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. ​ Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. ​ Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn darparu gwasanaeth rheng flaen o ansawdd uchel ar draws amrywiol gyfryngau cyfeillgar i’r ​ cwsmer fel bod Grŵp Cynefin yn rhagori. Byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau cwsmeriaid gan ddatrys hyd at 80% o ymholiadau cwsmeriaid Byddwch yn g weithio fel rhan o Dîm sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol ac yn d arparu gwasanaeth llawn amser yn ystod oriau agor arferol y swyddfa.​ Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. ​ Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch ag Ann Vaughan Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cwsmer, ar 0300 111 2122. ​ ​ Y Pecyn Math o gytundeb: P arhaol Cyflog: £24,939 - £28,069 Lleoliad: Penygroes / Dinbych / Gweithio o gartref Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad Swydd DS Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer 0625.pdf JD Customer Service Advisor 0625.pdf ​ ​ Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Datblygiad Personol: ​ Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! ​ ​ Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: 18.07.25 ​ ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
Service jobs in Pembrokeshire
jobs Pembrokeshire
jobs Penygroes
jobs Wales
Home > Jobs > Service jobs > Customer service advisor jobs > Customer service advisor jobs in Pembrokeshire > Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer (x 2) / Customer Service Advisor (x 2)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save