Join to apply for the Rheolwr Cyfreithiol role at Crown Prosecution Service
1 week ago Be among the first 25 applicants
Join to apply for the Rheolwr Cyfreithiol role at Crown Prosecution Service
Get AI-powered advice on this job and more exclusive features.
Contents
Location
Cardiff, Mold, Swansea
About The Job
Job summary
Crynodeb o’r swydd
Fel rheolwr cyfreithiol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydych chi’n ganolog i lwyddiant ein timau erlyn. Rydych yn cynnig arweiniad arbenigol ar amrywiaeth o waith achos, yn enwedig ar gyfer achosion troseddol cymhleth.
Rydych yn arwain tîm o gyfreithwyr, paragyfreithwyr a gweinyddwyr, gan archwilio ansawdd eu gwaith, a gan roi cyngor a chyfarwyddyd ar achosion a materion polisi. Mae eich arweinyddiaeth yn hanfodol i’n gallu i gael cyfiawnder i ddioddefwyr a thystion troseddau - felly mae’n rhaid i chi flaenoriaethu eich llwyth gwaith a wastad fod yn wrthrychol mewn sefyllfaoedd llawn emosiwn.
Mae eich rôl yn ddylanwadol ac yn wobrwyol, gan gynnig ichi’r cyfle i chi siapio’r ffordd rydyn ni’n gweithio a meithrin perthynas gadarnhaol ar draws y system cyfiawnder troseddol a gyda dioddefwyr. Rydych chi'n cyfrannu at y gwaith o greu cynlluniau strategol a pholisïau, yn arwain hyfforddiant arfer gorau, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid o rannau eraill o'r system cyfiawnder troseddol gan gynnwys yr heddlu a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF i gynyddu cyfraddau euogfarnau a hyder y cyhoedd yn ein gwaith.
Ar gyfer y swydd rheolwr cyfreithiol, byddwch yn edrych ar ba sgiliau arwain sydd gennych chi i’w rhoi i’r swydd hon. Efallai nad ydych mewn rôl arwain ar hyn o bryd ond gallwch feithrin sgiliau arwain mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys ond nid yn unig, fentora, goruchwylio, arwain ar waith neu gynrychioli eich sefydliad. Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau hyn, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i’ch twf proffesiynol ac mae’n eich cefnogi gydag amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu i sicrhau eich bod yn gallu ffynnu yn eich rôl. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan fentor mewnol, a rydych yn cofrestru ar ein rhaglen reoli i helpu i feithrin eich sgiliau, eich hyder a'ch gallu. Rydych chi hefyd yn elwa o gyfrif dysgu unigol i’w wario ar ddatblygiad personol a hefyd y cyfle i gysgodi cydweithwyr ar draws y sefydliad.
Sylwch - mae eich swydd yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron hefyd yn cael ei galw’n ‘erlynydd rhanbarth y goron’.
Mae Sudara yn siarad am fod yn rheolwr cyfreithiol. Gallwch hefyd wylio dau reolwr cyfreithiol arall, Neill a Matt, yn siarad am eu swyddi ar Youtube
Job Description
Disgrifiad swydd
Chi sy’n arwain ac yn rheoli eich tîm sy’n cynnal erlyniadau troseddol mewn achosion yn y llys ynadon a Llys y Goron. Rydych chi’n delio â blaenoriaethau gwaith ac anghenion dydd i ddydd eich erlynwyr a’ch cydweithwyr, gan weithio dan bwysau i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, gyda ffocws allweddol ar safonau eiriolaeth, sicrwydd, cydymffurfiaeth ac ansawdd data.
Mae ein rheolwyr cyfreithiol yn arwain tîm o erlynwyr, gan roi cyngor ar achosion cymhleth a chynnig arweiniad cyfreithiol arbenigol. Rydych hefyd yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio strategol a gwneud polisïau, gan ddarparu hyfforddiant arfer gorau i'ch tîm a'ch cydweithwyr. Rydych chi’n cydweithio â rhanddeiliaid o rannau eraill y system cyfiawnder troseddol a sefydliadau allanol i wella cyfraddau euogfarnau a hyder y cyhoedd yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron.
Nid tasg hawdd yw sicrhau cyfiawnder ac mae’n holl bwysig eich bod wastad yn wrthrychol yn y sefyllfaoedd mwyaf emosiynol. Rydych chi’n chwarae rhan ganolog yn llwyddiant ein timau erlynwyr a gwaith achos – gan wneud penderfyniadau dan bwysau, peidio â chynhyrfu a meddwl yn glir wrth ichi roi cyfarwyddyd a chefnogaeth.
Eich rolau a’ch cyfrifoldebau:
* Rydych chi’n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ystod eang o waith achos troseddol, gan sicrhau eich bod yn rhoi cyngor cyn cyhuddo yn effeithiol ac yn ymyrryd yn gynnar mewn achosion mawr a chymhleth.
* Chi sy’n atebol am yr ymddygiad yn achosion y tîm, gan gynnwys asiantau a chwnsleriaid, a hefyd am benderfyniadau a wneir mewn gwaith achos cysylltiedig.
* Rydych chi’n chwarae rhan flaenllaw yn y system cyfiawnder troseddol leol, gan ddylanwadu ar yr heddlu a phartneriaid eraill ac ennyn eu hyder - mae hyn yn helpu i feithrin perthynas â grwpiau cymunedol ac i ennyn hyder yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron a’r system cyfiawnder troseddol ehangach.
* Rydych yn arwain tîm o gyfreithwyr i erlyn achosion troseddol, gan roi arweiniad a chyngor cyfreithiol - gan ddatblygu, goruchwylio a rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu a’ch arbenigedd.
* Rydych chi’n drafftio ac yn cymeradwyo ymatebion i gwynion ac i ymholiadau Seneddol.
* Rydych chi'n arwain eich tîm drwy gyfnodau o newid ac yn cynnwys staff yn llawn wrth ddarparu a gweithredu hyn.
* Rydych chi’n ymddangos fel eiriolwr o bryd i’w gilydd er mwyn cynnal eich sgiliau eiriolaeth.
Mae dogfen disgrifiad swydd fanylach ynghlwm wrth yr hysbyseb hon.
Person specification
I fod yn gymwys i wneud cais, mae angen i chi feddu ar y canlynol:
* profiad o’r gyfraith droseddol ar ôl cymhwyso a dealltwriaeth o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y system cyfiawnder troseddol ehangach
* sgiliau a phrofiad o arwain
* cymhelliant cryf i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus a chyfiawnder gan gynnwys cefnogi dioddefwyr a thystion troseddau, ynghyd ag awydd i wneud gwahaniaeth a chael effaith yn y gymuned leol
Applicants for this campaign must be fluent in Welsh and English.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr ymgyrch hon fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Qualifications
Cymwys yn gyfreithiol: Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr cymwys sy'n ymarfer ac yn gymwys i gael tystysgrif ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr o 21 Gorffennaf 2025 ymlaen.
Academaidd: Rhaid i chi fod â gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin a/neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.
Proffesiynol: Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Hyfforddi Proffesiynol y Bar a'r contract disgyblaeth a hyfforddiant perthnasol – neu fod wedi derbyn eithriad llawn gan y corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol, naill ai'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu'r Bwrdd Safonau Bar.
NEU
CILEx: Rhaid i chi fod yn Gymrawd CILEx, ac yn ogystal â bod yn Eiriolwr/Ymgyfreithiwr CILEx sy'n dal y tri thystysgrif eiriolaeth sy'n rhoi 'cymhwysedd cyffredinol' iddynt o fewn ystyr adran 71 (3) (c) Deddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990. Rhaid i chi gael hawl i ymddangos mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth o achosion mewn unrhyw ran o'r Llysoedd Uwch, neu bob achos yn y Llys Sirol neu lysoedd ynadon i fodloni'r gofynion ar gyfer Erlynydd y Goron a bennir gan adran 1 Deddf Erlyn Troseddau 1985.
Ni dderbynnir cymwysterau cyfatebol. Os byddwch yn gwneud cais ac yn cael ei ganfod nad oes gennych unrhyw un o'r cymwysterau hyn, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn cael ei dynnu'n ôl neu bydd eich contract yn cael ei derfynu.
Os ydych yn ansicr ynghylch eich cymhwysedd, cysylltwch â NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk
Os oes unrhyw gyfyngiadau neu drefniadau arbennig ynghylch eich tystysgrif ymarfer, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, trwy e-bost.
Behaviours
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
* Leadership
* Managing a Quality Service
* Communicating and Influencing
* Developing Self and Others
Technical skills
We'll assess you against these technical skills during the selection process:
* Rhaid bod gennych dystysgrif ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd naill ai gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau'r Bar. Rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd erbyn dydd Llun 21 Gorffennaf 2025.
* Mae'n hanfodol bod gennych brofiad ôl-gymhwyso ym maes cyfraith droseddol.
* Sgiliau a phrofiad arwain
Benefits
Alongside your salary of £64,640, Crown Prosecution Service contributes £18,726 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.
Ochr yn ochr â’ch cyflog o £64,640, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyfrannu £18,726 tuag at ichi fod yn aelod o gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil â Buddion wedi’u Diffinio. Pa fuddion y mae Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn frwd dros sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n perfformio ar ei orau ac yn lle gwych i weithio. Rydyn ni’n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig, sy’n creu diwylliant lle gall pawb ddod â’u hunan yn gyflawn i’r gwaith, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi unigoliaeth.
Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu ac agwedd hyblyg at leoli. Mae gennym bolisi gweithio hybrid. Rhaid i chi dreulio o leiaf 40% o’ch oriau contract dros gyfnod o bedair wythnos yn y llys, mewn swyddfa neu mewn gweithle swyddogol arall yn dibynnu ar anghenion y busnes a’r math o waith rydych chi’n ei wneud.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymrwymo i gynnig y profiad canlynol i’w weithwyr.
* Gallwch wneud gwaith effeithiol a phwrpasol sy’n gwneud gwahaniaeth i’ch cymunedau lleol.
* Rydych chi’n gallu dysgu a thyfu, gyda mynediad at y cyfleoedd a’r adnoddau iawn.
* Mae eich lles yn bwysig i ni.
* Rydyn ni eisiau i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch cynnwys, a’n bod yn ymddiried ynoch.
Mae’r diwylliant cynhwysiant hwn wedi’i ategu gan ein rhwydweithiau staff sy’n cynnwys anabledd, ffydd a chred, LHDTCRh+, hil, a symudedd cymdeithasol yn ogystal â’n swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a’n sesiynau llesiant.
Mae darparu cyfiawnder yn weithgaredd cymhleth gyda gwaith sydd weithiau’n heriol yn emosiynol, a dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys:
* pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.97%
* 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
* Rhaglen hyfforddi cyfreithwyr
* diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
* absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni
* trefniadau gwaith hyblyg sy’n cynnwys oriau gweithio hyblyg ac agwedd at waith sy’n ystyriol o deuluoedd
* cynllun Seiclo i'r Gwaith, cynilion gweithwyr
* amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu, cyfrif dysgu unigol, a chyfleoedd datblygu canolog a lleol.
Amrediad cyflog
Mae cyflog yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad.
Birmingham, Bryste, Caergrawnt, Caerdydd, Caerliwelydd, Caerwysg, Caerlŷr, Lincoln, Manceinion, Middlesbrough, Yr Wyddgrug, Newcastle, Northampton, Norwich, Nottingham, Preston, Stoke on Trent, Abertawe, Truro: £64,640 (cyflog cychwynnol), £73,540 (uchafswm cyflog)
Brighton, Caergaint, Chelmsford, Guildford, Reading: £71,270 (cyflog cychwynnol), £78,290 (uchafswm cyflog)
St Albans: £71,270 + £1,050 (cyflog cychwynnol), £78,290 + £1,050 (uchafswm cyflog)
Llundain: £71,270 + £3,150 (cyflog cychwynnol), £78,290 + £3,150 (uchafswm cyflog)
Things you need to know
Selection process details
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Experience and Technical skills.
Manylion y broses ddethol
Mae’r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant (yn agor mewn ffenestr newydd), a bydd yn asesu eich Ymddygiad, eich Profiad a’ch Sgiliau Technegol.
Camau’r broses recriwtio
Ceisiadau
Caiff ceisiadau eu hystyried yn ddienw, felly gofynnwn i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i’ch adnabod.
Eich cyfrifoldeb chi yw darparu’r wybodaeth benodol ar gyfer y cais yn y fformat y gofynnir amdano er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer y swydd.
CV – llwythwch CV cyfredol i fyny
Dylech lwytho CV i fyny i roi gwybodaeth am eich hanes cyflogaeth a'ch profiad. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth bellach yn eich datganiad personol, i asesu eich profiad o’r gyfraith droseddol.
Sylwch, os na allwch gwmpasu tair blynedd drwy eirdaon cyflogaeth/academaidd, bydd geirda cymeriad yn ofynnol at ddibenion clirio.
Datganiad personol – gan ddefnyddio’r blychau testun a ddarperir ar-lein
Rydych chi’n cael eich profi yn erbyn arweinyddiaeth ac eich profiad cyfraith droseddol.
Gofynnir i chi roi sylw i’r canlynol:
* Arweinyddiaeth – 250 o eiriau
Ar gyfer swydd y rheolwr cyfreithiol, mae sgiliau arwain yn allweddol a gellir eu meithrin mewn sawl ffordd, megis drwy fentora, goruchwylio, arwain ar waith neu gynrychioli eich sefydliad. Rhowch rywfaint o fanylion ynghylch pa sgiliau a phrofiad o arwain y gallwch eu cyfrannu i'r swydd.
* Profiad cyfraith droseddol – 250 o eiriau
Efallai y bydd eich CV yn rhoi tystiolaeth o’ch profiad o’r gyfraith droseddol, ond defnyddiwch yr adran hon i ymhelaethu ar eich profiad a’ch gwybodaeth. Gallwch fformatio hwn fel rydych chi’n meddwl sy’n addas, gan mai edrych ar y cynnwys fyddwn ni nid ar yr arddull ysgrifennu.
Data personol
Yn unol â GDPR, peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth atom sy’n gallu datgelu hunaniaeth plant, nac unrhyw ddata personol sensitif amdanoch chi eich hun fel hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig a/neu fiometrig yn eich CV a dogfennau eich cais.
Asesiad a chyfweliad
* Asesiad o allu cyfreithiol a sgiliau arweinyddiaeth yna gyfweliad sy’n edrych ar ymddygiad (7 - 18 Gorffennaf 2025)
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfarfod Microsoft Teams ar-lein i gwblhau asesiad sy’n profi gallu cyfreithiol a sgiliau arwain, yna cynhelir cyfweliad byr sy’n edrych ar ymddygiadau. Os nad ydych ar gael, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn ceisio aildrefnu – er na allwn warantu hynny.
Os cewch eich gwahodd i asesiad, byddwch yn cael awgrymiadau ymchwil cyffredinol ymlaen llaw. Cynhelir yr asesiad a’r cyfweliad ar Microsoft Teams.
Rydych yn trefnu eich slot asesiad a chyfweliad eich hun drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl i chi ddewis eich slot amser, byddwn yn anfon dolen Microsoft Teams atoch
Amserlen
Gall y dyddiadau sy’n cael eu hysbysebu newid. Efallai na fydd yn bosibl cynnig dyddiadau eraill ar gyfer y cyfweliadau a'r asesiadau.
Beth sy’n cael ei brofi a phryd
Cymhelliant - asesir yn y cyfweliad
Rydyn ni eisiau deall pam mae gennych chi ddiddordeb yn y gyfraith a pham rydych chi eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn disgwyl chi ymdrin â'r tri pheth canlynol yn y cyfweliad.
* Diddordeb amlwg ym maes erlyn troseddol a gwasanaeth cyhoeddus
* Cymhelliant cryf i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus a chyfiawnder gan gynnwys cefnogi dioddefwyr a thystion troseddau, ynghyd ag awydd i wneud gwahaniaeth a chael effaith yn y gymuned leol.
* Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.
* Ffocws cryf ar ddysgu parhaus a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth am gyfraith droseddol a gafwyd drwy astudio a phrofiad.
Ymddygiadau – asesir drwy’r cais, yr asesiad a’r cyfweld
Rydym yn defnyddio ymddygiadau i'n helpu i ddeall eich profiad, i'ch helpu chi i wneud gwaith gwych yn y rôl hon. Cewch eich asesu yn erbyn lefel 4 yn fframwaith ymddygiadau proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu pedwar ymddygiad.
Arweinyddiaeth – cais, asesiad a chyfweliad.
Datblygu eich hun ac eraill – cyfweliad yn unig.
Rheoli gwasanaeth o ansawdd - cyfweliad yn unig.
Cyfathrebu a dylanwadu - asesiad/cyfweliad.
Gallu: Dealltwriaeth gyfreithiol – asesir yn yr asesiad
Rydym eisiau deall eich galluoedd cyfreithiol a’ch dawn ym maes cyfraith droseddol. Rydym yn chwilio am y chwe pheth canlynol.
* Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o gysyniadau ac egwyddorion allweddol y gyfraith droseddol.
* Crebwyll cyfreithiol dibynadwy a gwerthfawrogiad o risg gyfreithiol.
* Yn gallu meddwl yn strategol ac yn greadigol, gweld materion cyfreithiol yn eu cyd-destun ehangach a chynghori yn unol â hynny.
* Sgiliau dadansoddi cadarn, gan ddefnyddio ymchwil gyfreithiol ddiogel i gynhyrchu cyngor amserol ac addas i’r diben.
* Sgiliau eiriolaeth llafar ac ysgrifenedig rhugl.
* Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.
Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Rydym eisiau i chi deimlo eich bod yn perthyn a’ch bod yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu eich diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech chi i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud i’n proses recriwtio, rhowch wybod i ni ar eich cais neu cysylltwch â nationallawyerrecruitment@cps.gov.uk.
Gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
Rhaid i chi arddangos gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron gydol y broses. Mae’r rhain i’w gweld ar ein gwefan.
Rhestr teilyngdod a chynigion (o 21 Gorffennaf 2025 ymlaen)
Gallwch ddewis tri lleoliad swyddfa o'r rhestr a ddarperir. Os byddwch yn llwyddiannus, rydym yn cynnig un o'ch dewisiadau yn unig ichi yn y lle cyntaf.
Mae ein system benodi yn defnyddio rhestr deilyngdod leoliadol. Gwneir cynigion ar sail y drefn deilyngdod ym mhob Ardal o Wasanaeth Erlyn y Goron sy’n cyfweld. Er enghraifft, mae Nottingham, Caerlŷr, Northampton neu Lincoln yn dod dan Wasanaeth Erlyn y Goron Dwyrain Canoldir Lloegr. Penodir yr ymgeisydd sydd â'r sgôr uchaf o'r ardal sydd â'r swydd wag.
Rhestr wrth gefn
Os bydd yr holl swyddi’n cael eu llenwi ar gyfer y lleoliad(au) o’ch dewis, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cewch gynnig cyfle mewn lleoliad nad yw’n ddewis cyntaf gennych. Gwneir cynigion bob amser yn nhrefn teilyngdod.
Os penderfynwch beidio â derbyn swydd a gynigir ichi, efallai y gallwch aros ar y rhestr wrth gefn a chael cynnig swydd ar gyfer y lleoliad(au) o’ch dewis os bydd swydd yn dod ar gael. Bydd y rhestr yn cael ei dileu 12 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf.
Sesiynau gwybodaeth
Rydym yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein tra bydd yr ymgyrch yn fyw. Dyma eich cyfle i deipio unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch y swydd neu’r broses recriwtio. Gallwch gofrestru ar gyfer hyn yma.
* Dydd Mercher 11 Mehefin rhwng 1pm a 1:45pm - https://meetandengage.com/ambakrqev
Arall
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir ceisiadau am weithio hyblyg, rhan-amser a rhannu swydd – gan ystyried anghenion gweithredol yr adran.
Mae’r rôl hon yn gymysgedd o weithio gartref, gweithio mewn swyddfa a theithio i’r llysoedd. Mae sut y bydd yn cael ei rhannu yn dibynnu ar anghenion y busnes.
Rydym yn eich annog i ystyried a yw’r daith o’ch cartref i’r swyddfa yn bellter teithio ymarferol cyn gwneud cais. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn trafod hyn cyn i chi ddechrau yn y swydd.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi’i leoli yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn gwneud cais am y swydd hon ac yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi roi gwybod i ni wrth dderbyn y cynnig hwn gan fod angen caniatâd arnoch i weithio o’ch cyfeiriad cartref os yw gweithio hybrid yn rhan o’ch rôl. Yn anffodus, does dim sicrwydd y bydd y gymeradwyaeth hon yn cael ei rhoi.
Mae’r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn dod o dan Erthygl 3(a) o Orchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, felly nid yw Adran 4(2) y Ddeddf honno’n berthnasol. Am y rhesymau a amlinellir uchod, mae’n ofynnol i chi ddatgelu pob euogfarn a rhybudd blaenorol, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod. Bydd methu â gwneud datganiad llawn yn arwain at dynnu cynnig swydd yn ôl os bydd ein gwiriadau yn datgelu euogfarnau nad ydynt wedi cael eu datgelu.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar y broses sgrinio cyn cyflogi, fod eu manylion personol – enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Ni fyddwn yn cyflogi unrhyw un sydd wedi’i gynnwys ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.
Mae’r tîm Adnoddau Strategol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, ar ran deiliad y swydd wag, yn rhoi gwybod i ymgeiswyr pan wrthodir cyflogaeth iddynt oherwydd bod eu henw ar y Gronfa Ddata Twyll Mewnol.
Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Os ydych chi’n anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â Strategic.Resourcing@cps.gov.uk gyda’ch pryderon.
Os ydych yn dal yn anfodlon a’ch bod eisiau gwneud cwyn arall, ewch i dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dyma egwyddorion recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil.
Dim ond os byddwch chi’n cael cyfweliad y byddwch chi’n cael adborth.
Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Experience and Technical skills.
Security
Successful candidates must undergo a criminal record check.
People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.
Successful candidates must undergo a criminal record check.
People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.
Nationality requirements
This job is broadly open to the following groups:
* UK nationals
* nationals of the Republic of Ireland
* nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
* nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
* nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
* individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
* Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)
Working for the Civil Service
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.
We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).
The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.
The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.
We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).
The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.
The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.
Diversity and Inclusion
The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see the Civil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).
Apply and further information
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.
Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.
Contact point for applicants
Job contact :
* Name : National Lawyer Recruitment Team
* Email : NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk
Recruitment team
* Email : strategic.resourcing@cps.gov.uk
Seniority level
* Seniority level
Entry level
Employment type
* Employment type
Full-time
Job function
* Job function
Other
* Industries
Law Practice
Referrals increase your chances of interviewing at Crown Prosecution Service by 2x
Sign in to set job alerts for “Rheolwr Cyfreithiol” roles.
We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.
#J-18808-Ljbffr