Department: Maintenance Salary: £26,714 per annum Location: St Asaph Business Park (with the ability to work from home when required) Hours: 39 hours per week Working pattern: 8:00am – 4:30pm, Monday to Friday No weekends About the role We have an opportunity for an organised and motivated individual to join our Maintenance Department within the Responsive and Voids Team. This role exists to help our Maintenance service run smoothly, efficiently and fairly — ensuring homes are safe, repairs are completed on time and customers receive a reliable, high-quality service. You will play a key role in planning, organising and coordinating maintenance work across ClwydAlyn’s properties. This includes responsive repairs, void works and planned improvement programmes. Working closely with managers, supervisors and trade teams, you will help schedule work, monitor progress and keep programmes running effectively. Your contribution will support improved productivity, reduced delays and the best use of available resources. You will also help maintain clear systems and accurate data. This includes updating programmes, producing reports and reviewing information so that decisions can be made using reliable, up-to-date information. This role supports ClwydAlyn’s commitment to Working Together to End Poverty, helping to deliver safe, well-maintained homes and a positive customer experience. What you’ll be doing Planning and coordinating maintenance activity across responsive, void and planned works Supporting managers, supervisors and trade teams with scheduling and workload planning Monitoring progress and helping identify and resolve delays Maintaining accurate systems, programmes and records Producing and reviewing reports to support informed decision-making Communicating with colleagues across the Maintenance Department to support smooth delivery Is this role right for you? This role would suit someone who: Enjoys structure, organisation and planning Is able to manage and prioritise tasks, with clear processes and support in place Takes pride in helping others do their jobs well Is comfortable working independently, while also working closely with colleagues Communicates in a clear and respectful way that supports good teamwork Previous maintenance or planning experience is helpful, but not essential — we’re more interested in your approach, organisation skills and willingness to learn. Training, guidance and reasonable adjustments are available where needed. Why apply? A role with clear purpose and visible impact Monday to Friday working — no weekends Hybrid working available when required Supportive team environment Opportunity to build experience within maintenance planning and coordination Work that directly supports safe homes and positive customer experiences If you’re interested in developing your skills and supporting an essential service behind the scenes, we’d love to hear from you. Hysbyseb Fewnol – Cynlluniwr / Cydlynydd Cynnal a Chadw Adran: Cynnal a Chadw Cyflog: £26,714 y flwyddyn Lleoliad: Parc Busnes Llanelwy (gyda’r gallu i weithio gartref pan fo angen) Oriau: 39 awr yr wythnos Patrwm gweithio: 8.00yb – 4.30yp, dydd Llun i ddydd Gwener Dim gwaith penwythnos Am y rôl Mae cyfle ar gael i unigolyn trefnus a chymhellol ymuno â’n Hadran Cynnal a Chadw o fewn y Tîm Ymatebol a Thai Gwag. Mae’r rôl hon yn bodoli i helpu’r gwasanaeth Cynnal a Chadw i redeg yn esmwyth, yn effeithlon ac yn deg — gan sicrhau bod cartrefi’n ddiogel, bod atgyweiriadau’n cael eu cwblhau ar amser, a bod cwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth dibynadwy o safon uchel. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynllunio, trefnu a chydlynu gwaith cynnal a chadw ar draws eiddo ClwydAlyn. Mae hyn yn cynnwys atgyweiriadau ymatebol, gwaith tai gwag a rhaglenni gwelliannau wedi’u cynllunio. Gan weithio’n agos gyda rheolwyr, goruchwylwyr a thimau crefft, byddwch yn cefnogi amserlennu gwaith, monitro cynnydd, a helpu i gadw rhaglenni’n rhedeg yn effeithiol. Bydd eich cyfraniad yn helpu i leihau oedi, gwella cynhyrchiant a sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau. Byddwch hefyd yn helpu i gynnal systemau clir a data cywir. Mae hyn yn cynnwys diweddaru rhaglenni, cynhyrchu adroddiadau ac adolygu gwybodaeth fel bod penderfyniadau’n gallu cael eu gwneud ar sail data cyfredol a dibynadwy. Mae’r rôl hon yn cefnogi ymrwymiad ClwydAlyn i Gydweithio i Ddileu Tlodi, gan helpu i ddarparu cartrefi diogel sydd wedi’u cynnal yn dda a phrofiad cadarnhaol i gwsmeriaid. Beth fyddwch chi’n ei wneud Cynllunio a chydlynu gweithgarwch cynnal a chadw ar draws gwaith ymatebol, tai gwag a gwaith wedi’i gynllunio Cefnogi rheolwyr, goruchwylwyr a thimau crefft gyda chynllunio llwyth gwaith Monitro cynnydd a helpu i nodi a datrys oedi Cynnal systemau, rhaglenni a chofnodion cywir Cynhyrchu ac adolygu adroddiadau i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus Cyfathrebu’n glir gyda chydweithwyr ar draws yr Adran Cynnal a Chadw A yw’r rôl hon yn addas i chi? Gallai’r rôl hon fod yn addas i rywun sy’n: Mwynhau strwythur, trefn a chynllunio Yn gallu blaenoriaethu tasgau, gyda phrosesau clir a chefnogaeth ar gael Yn cymryd balchder mewn helpu eraill i wneud eu gwaith yn dda Yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol, ac hefyd fel rhan o dîm Yn cyfathrebu mewn ffordd glir a pharchus sy’n cefnogi gwaith tîm da Mae profiad blaenorol mewn cynnal a chadw neu gynllunio yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol — mae gennym fwy o ddiddordeb yn eich agwedd, eich sgiliau trefnu a’ch parodrwydd i ddysgu. Mae hyfforddiant, arweiniad ac addasiadau rhesymol ar gael lle bo angen. Pam gwneud cais? Rôl gyda phwrpas clir ac effaith weladwy Gwaith dydd Llun i ddydd Gwener — dim penwythnosau Gweithio hybrid ar gael pan fo angen Amgylchedd tîm cefnogol Cyfle i ddatblygu profiad mewn cynllunio a chydlynu cynnal a chadw Gwaith sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at gartrefi diogel a phrofiad cadarnhaol i gwsmeriaid Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau a chefnogi gwasanaeth hanfodol y tu ôl i’r llenni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.