Hours: Full time or part time (minimum 0.6 FTE / 22.2 hours over 3 days a week) Purpose of the post The Data and Insight team is primarily responsible for delivering the IMA’s monitoring function by: Gathering timely, relevant and credible intelligence from a wide range of sources. Adopting analytical techniques in order to identify potential systemic issues. Using insights gained to inform key decision makers across the IMA. The team is also responsible for reviewing complaints about the delivery by the UK government and public authorities of the above commitments to citizens’ rights, including residency; work; social security and equal treatment. The Intelligence Officer will undertake research using a wide variety of sources to assess and evaluate information and inform the development of Preliminary Reviews and intelligence products to support decision making and the identification of possible systemic issues for consideration. The Intelligence Officer may also be responsible for managing a team of Administrators who will handle the initial assessment of complaints and intelligence received by the IMA. The post holder may also conduct day to day line management activities such as providing oversight of workloads and the timely assessment of complaints and intelligence received. The work will require close attention to detail, ability to assimilate information and produce clear and evidenced reports. Responsibilities Conducting focused research to produce intelligence and/ or inform analytical products, including collecting, collating and evaluating information from a wide variety of sources. Collaborating, engaging and corresponding with a wide range of internal and external stakeholders including members of the public, legal advisers, complainants, non-government organisations and lobby groups. Distributing information and communications in an appropriate manner, e.g. paper, e-mail, and to the correct area of the IMA. Maintaining accurate complaint information on a case management system and intelligence database. Collating, processing and allocating intelligence associated documentation on the intelligence database. Providing guidance and support to the administrators on assessment of complaints and intelligence received. Preparing, maintaining and collating complaint records, files and management information, in accordance with organisational procedures. Identifying, collecting and acquiring relevant and credible intelligence that can be developed to inform progression of work. Maintain and check established databases, manual filing systems and logs of information, responding within agreed timescales and producing reports as required. Act as secretary to meetings as required including organising agenda, taking, and distributing minutes and action points. The duties/responsibilities listed above describe the post and are not intended to be exhaustive. The Job Holder is expected to accept reasonable alterations and additional tasks of a similar level that may be necessary. Significant adjustments may require re-examination under Job Evaluation and shall be discussed in the first instance with the Job Holder. Essential Skills Proactively identify activities and people needed to progress work and allocate tasks appropriately. Have a clear understanding of information management and data integrity. Able to seek out information from a range of reliable sources, including engaging with others, to identify patterns, trends and options, to develop solutions for multifaceted and complex problems. Able to manage time effectively, setting goals and assessing workloads, to complete a programme of work. Strong verbal and written skills and ability to communicate effectively with a wide range of individuals, taking into consideration the best methods of communication for intended audiences. Attention to detail when conducting analysis and research to support decision making. Able to work flexibly as a member of a team to achieve performance targets. A strong commitment to delivering a high-quality service, being able to work on own initiative and offer support to colleagues where needed. Good level of numerical and IT skills including proficiency in MS Office Word, including basic skills in Excel. Confident building professional relationships to enable sharing of knowledge and information. Line management experience or willingness to develop this skill and/or experience. Willing to complete intelligence analysis training. Behaviours We'll assess you against these behaviours during the selection process: Delivering at Pace – Lead Behaviour Making Effective Decisions Working Together Communicating and Influencing Oriau: Llawn amser neu ran amser (lleiafswm 0.6 FTE / 22.2 awr dros 3 diwrnod y wythnos) Diben y swydd Cyfrifoldeb pennaf y tîm Data a Gwybodaeth yw cyflawni swyddogaeth fonitro’r Awdurdod Monitro Annibynnol (IMA) drwy wneud y canlynol: Casglu gwybodaeth amserol, berthnasol a chredadwy o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mabwysiadu technegau dadansoddi er mwyn canfod problemau systemig posibl. Defnyddio’r wybodaeth a geir i hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ar draws yr IMA. Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am adolygu cwynion gan lywodraeth y DU ac awdurdodau cyhoeddus am gyflawni’r ymrwymiadau uchod i hawliau dinasyddion, gan gynnwys hawliau preswyl; gwaith; nawdd cymdeithasol a thriniaeth gyfartal. Bydd y Swyddog Gwybodaeth yn cynnal ymchwil gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau i asesu a gwerthuso gwybodaeth, ac i lywio’r gwaith o ddatblygu Adolygiadau Rhagarweiniol a chynnyrch gwybodaeth – er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a nodi materion systemig posibl i’w hystyried. Efallai y bydd y Swyddog Gwybodaeth hefyd yn gyfrifol am reoli tîm o Weinyddwyr a fydd yn delio â’r broses gychwynnol o asesu’r cwynion a’r wybodaeth sy’n dod i law’r IMA. Gall deiliad y swydd hefyd gyflawni gweithgareddau rheoli llinell beunyddiol, fel goruchwylio llwythi gwaith ac asesu cwynion a gwybodaeth sy’n dod i law yn brydlon. Bydd y gwaith yn gofyn am roi sylw trylwyr i fanylion, yn ogystal â’r gallu i gasglu gwybodaeth a llunio adroddiadau clir gyda thystiolaeth. Cyfrifoldebau Cynnal ymchwil â ffocws i gynhyrchu gwybodaeth a/neu lywio cynnyrch dadansoddol, gan gynnwys casglu, coladu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau. Cydweithio, ymgysylltu a gohebu ag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd, cynghorwyr cyfreithiol, achwynwyr, cyrff anllywodraethol a grwpiau lobïo. Dosbarthu gwybodaeth a gohebiaeth mewn ffordd briodol, e.e. papur, e-bost ac i’r rhan gywir o’r IMA. Cynnal gwybodaeth gywir am gwynion ar system rheoli achosion ac mewn cronfa ddata wybodaeth. Coladu, prosesu a neilltuo dogfennau sy’n gysylltiedig â gwybodaeth yn y gronfa ddata wybodaeth. Rhoi arweiniad a chymorth i’r gweinyddwyr gyda’r gwaith o asesu’r cwynion a’r wybodaeth sy’n dod i law. Paratoi, cynnal a choladu cofnodion cwynion, ffeiliau, a gwybodaeth reoli, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad. Nodi, casglu a chaffael gwybodaeth berthnasol a chredadwy y gellir ei datblygu i lywio cynnydd y gwaith. Cynnal a gwirio cronfeydd data sefydledig, systemau ffeilio ffisegol, a logiau gwybodaeth, gan ymateb o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a llunio adroddiadau yn ôl y gofyn. Gweithredu fel ysgrifennydd mewn cyfarfodydd yn ôl y gofyn, gan gynnwys trefnu agendâu, cymryd cofnodion a nodi camau gweithredu, a dosbarthu’r rhain. Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd ac ni fwriedir iddynt fod yn hollgynhwysfawr. Mae disgwyl i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol, mae’n bosibl y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf. Sgiliau Hanfodol Mynd ati’n rhagweithiol i nodi’r gweithgareddau a’r bobl sydd eu hangen i symud gwaith yn ei flaen, a dyrannu tasgau’n briodol. Meddu ar ddealltwriaeth glir o reoli gwybodaeth a chywirdeb data. Gallu cael hyd i wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau dibynadwy – gan gynnwys ymgysylltu ag eraill – i ganfod patrymau, tueddiadau ac opsiynau, er mwyn datblygu atebion ar gyfer problemau amlweddog a chymhleth. Gallu rheoli amser yn effeithiol, gosod nodau ac asesu llwythi gwaith, er mwyn cwblhau rhaglen waith. Sgiliau llafar ac ysgrifenedig cryf, yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o unigolion, gan ystyried y dulliau cyfathrebu gorau ar gyfer y cynulleidfaoedd bwriadedig. Rhoi sylw i fanylion wrth ddadansoddi ac ymchwilio er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Gallu gweithio’n hyblyg fel aelod o dîm i gyrraedd targedau perfformiad. Ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, yn ogystal â gallu gweithio ar eich liwt eich hun a chynorthwyo cydweithwyr lle bo angen. Sgiliau TG a rhifedd da, gan gynnwys gallu defnyddio MS Office Word yn fedrus, a sgiliau Excel sylfaenol. Meithrin perthnasoedd proffesiynol yn hyderus er mwyn gallu rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth. Profiad o fod yn rheolwr llinell neu barodrwydd i ddatblygu’r sgil a/neu’r profiad hwn. Parodrwydd i gwblhau hyfforddiant dadansoddi gwybodaeth. Ymddygiadau Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau canlynol yn ystod y broses ddethol: Cyflawni’n Chwim – Prif Ymddygiad Gwneud Penderfyniadau Effeithiol Cydweithio Cyfathrebu a Dylanwadu