Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth / Welcome & Service Assistant - Beddgelert Summary Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, chi fydd yr wyneb cyfeillgar a fydd yn cyfarch ein hymwelwyr, gan roi croeso cynnes a llon iddynt, a rhannu gwybodaeth am ein safleoedd a’r gwaith pwysig a wnawn. Byddwch yn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael ymweliad difyr a chofiadwy. Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio ar draws pedwar maes parcio arfordirol ym Mhorthor, Porthdinllaen, Llanbedrog ac Aberdaron, yn ogystal ’n canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol hyd at 21/09/25, a bydd disgwyl ichi weithio o 10am i 4pm, hyd at bum diwrnod yr wythnos. Noder, mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal thrafnidiaeth ddibynadwy i bob lleoliad, yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. The English translation of this advert is available in an attached PDF. Ar gyfer y swydd hon, bydd angen ichi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio C.V. neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn o gymorth i ni ddeall rhagor am eich cryfderau a rhoi ichi ragor o wybodaeth am y swydd. What it's like to work here Mae Pen Ll n yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, sy'n gyfoeth o ddiwylliant, hanes a bywyd gwyllt. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o fod yn diogelu dros 20 milltir o’r arfordir hwn, gan sicrhau bod ei harddwch a’i dreftadaeth yn cael eu diogelu am genedlaethau i ddod. Mae ein pedwar maes parcio arfordirol yn hybiau hanfodol, sy'n cynnig mynediad rhwydd i ymwelwyr at draethau arbennig, Llwybr Arfordir Cymru, a thrysorau di-ri’r ardal ehangach. Yn ychwanegol, mae ein canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt, yn borth croesawus, sy'n ysbrydoli ymwelwyr i grwydro Ll n. Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, byddwch yn atebol i’r Rheolwr Croeso ac yn gweithio fel rhan o d m ymroddgar ar draws y lleoliadau hardd hyn. Gyda’ch gilydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad anhygoel. What you'll be doing Yn y swydd hon, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Byddwch yn ymdrin ag ymholiadau yn rhwydd, yn cyfeirio ymwelwyr at bopeth sydd ei angen arnynt a’u helpu i gael diwrnod cofiadwy. Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian hanfodol i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni targedau recriwtio aelodaeth a rheoli prosesau talu yn y meysydd parcio. Yn ychwanegol, byddwch yn cynnal safon uchel o lendid a chyflwyniad ar draws ein safleoedd, gan gynnwys glanhau’r toiledau a chynnal casgliadau sbwriel rheolaidd. Byddwch yn fodlon gweithio ar y rhan fwyaf o benwythnosau a gwyliau banc. Who we're looking for unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n deall pwysigrwydd gwasanaeth gwych yn gallu gweithio mewn t m, ond hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol hynod drefnus ac yn gallu addasu rhywun sy’n barod i ddysgu sgiliau newydd gydag agwedd gadarnhaol The package Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr arwyddair 'I bawb, am byth' wrth ei gwraidd. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu’r amrywiaeth o gymunedau a chynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu, ac yn eu cynrychioli. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau croesawu pawb i’n timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i leoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i chi, gwestai, a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Cynllun prydlesu car trydan Gostyngiadau buddion y gweithle megis aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas hyd y gwasanaeth, yn ogystal chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo gweithwyr Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoedd yr Ymddiriedolaeth Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y buddion a gynigiwn i’ch cefnogi chi.