Oriau a chyfnod
Oriau Gwaith: 30 awr yr wythnos - rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener 09:00-17:00
Contract: Cyfnod penodol hyd at fis Mehefin 2026
Ynglŷn â The Wallich
Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich. Dysgwch fwy am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru.
Oes gennych chi brofiad uniongyrchol o gamddefnyddio sylweddau, o ddigartrefedd neu o iechyd emosiynol bregus?
Ydych chi’n teimlo eich bod chi’n unigolyn dewr, penderfynol, didwyll a thrugarog, a bod gennych chi ymdeimlad o gymuned?
Yn The Wallich chwilio’r rydym am y bobl iawn, nid am y bobl sydd â’r hanes gwaith iawn.
Disgrifiad o'r Prosiect
Mae BOOST Gwent yn bwynt canol mewn prosiect pum mlynedd a ariennir gan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Nod y gwasanaeth yw gwneud digartrefedd yn rhywbeth prin, a’i atal rhag digwydd dro ar ôl tro.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng The Wallich, Ymddiriedolaeth St Giles, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Tai Pawb. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau i roi cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd gael hyfforddiant, ennill cymwysterau gwerth chweil, gwirfoddoli a chael gwaith cyflogedig. Mae hefyd yn bwriadu hyrwyddo arferion mwy cynhwysol, defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar seicoleg ac yn mabwysiadu egwyddorion cyd-gynhyrchu.
Pwrpas y Swydd
Bydd deiliad y swydd yn cael ei reoli gan The Wallich a bydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r partneriaid i helpu i redeg y Prosiect Boost, yn benodol ein menter gymdeithasol The Re;Store.
Mae The Re;Store yn Fenter Gymdeithasol gan Gwmni Buddiannau Cymunedol sydd wedi’i leoli ym Mhont-y-pŵl. Yma, rydyn ni’n darparu amrywiaeth eang o weithgareddau a gweithdai. Mae'r gofod, y gweithdai a'r gweithgareddau wedi cael eu cydgynhyrchu, gan ddiwallu anghenion unigolion a'r gymuned leol, sydd i gyd yn cyd-fynd â gwerthoedd ac ethos BOOST.
Yn y swydd, byddwch yn hwyluso'r gwaith o gyflwyno'r gweithdai a'r gweithgareddau hyn yn uniongyrchol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag Arloeswyr eraill a'n cydlynydd mentrau cymdeithasol. Yma cewch gyfleoedd i ddysgu sgiliau, ac ennill profiad a gwybodaeth. Byddwch yn sicrhau bod y gofod yn cydymffurfio’n llawn, bod yr holl dasgau sydd wedi’u gosod yn cael eu cwblhau, gan ddod â chysur a phroffesiynoldeb i The Re;Store.
Byddwch yn darparu cefnogaeth ar sail eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad bywyd i alluogi unigolion i fynd i’r afael â’r materion cymhleth sy’n ymwneud â digartrefedd. Yn ogystal â hyn, byddwch yn mynd i'r afael â stigma, ac yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac integreiddio, gan gefnogi unigolion a'r gymuned leol ehangach ar yr un pryd.
Drwy eich swydd, byddwch yn ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, gyda’r cyfle i gael mynediad at ystod eang o hyfforddiant.
Mae’r swydd hon yn gofyn am Ddatgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae wedi’i neilltuo ar gyfer unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd neu o sefyllfa debyg.
Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi'r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda llenwi'r swydd hon.
Yn The Wallich, rydym wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosib. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y swydd hon yw 15 Medi 2025 am 09:00am.
Mae The Wallich yn cadw’r hawl i ddod â’r broses ymgeisio i ben yn gynnar os ydym yn derbyn digon o geisiadau. Felly, mae’n syniad da i chi gyflwyno eich cais yn gynnar.
#J-18808-Ljbffr