Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Small repairs operative / gweithiwr man addasiadau (gt041)

St Asaph
Posted: 11 September
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod efo Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych Byddwch yn cynnig gwasanaeth man addasiadau i bobl hyn a bregus hefo anableddau o fewn Conwy a Sir Ddinbych. ​ Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd. ​ Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth. ​ Llinell strap ein Asiantaeth yw: “ Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd ” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:- “I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel” ​ Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:- “ Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus ” Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu. ​ Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. http://www.grwpcynefin.org/en/eich-cymuned/denbighshire-care-repair/ ​ Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog Spot: £30,244 y flwyddyn Oriau gwaith: 40 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn pro rata yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol - Defnydd o Fan Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn drwy’r National Employment Savings Trust ( NEST) Cyflog salwch : Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu Lwfansau Absenoldebau: ​ 5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol ​ Y Swydd ​ Job Description: DS Gweithiwr Atgyweiriadau Bach 09.25.pdf JD Small Repairs Operative 09.25.pdf ​ ​ Canllawiau cwblhau cais.pdf ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs St Asaph
jobs Denbighshire
jobs Wales
Home > Jobs > Small Repairs Operative / Gweithiwr Man Addasiadau (GT041)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save