Uwch Newyddiadurwr / Gohebydd - EXTEND, Cardiff
Pecyn Swydd
Cyflog: £39,800-£48,367 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen i ddarparu cyfleoedd i bobl anabl. I wneud cais am y rôl hon, dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol, ac mae'n rhaid i chi fodloni un o'r diffiniadau o anabledd os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol, hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy ein gwefan neu gyfeiriad arall.
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i’n gwefan.
Cyflwyniad i'r Swydd
Mae adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn chwilio am newyddiadurwr/wraig uchelgeisiol a chreadigol i weithio fel Uwch Newyddiadurwr yn ardal Abertawe, am o leiaf 6 mis. Byddwch yn rhan o dîm o ohebwyr sy'n darganfod ac yn cyflwyno straeon o gymunedau yn un o ardaloedd mwyaf amrywiol a bywiog y wlad. Disgwylir i chi gynhyrchu cynnwys digidol, radio a theledu, sy'n apelio at ein holl gynulleidfaoedd, yn y ddwy iaith.
Mae'r rôl gyffrous a heriol hon yn cynnwys cyflawni blaenoriaethau digidol a darparu cynnwys ar draws gwasanaethau teledu a radio, gan gynnwys darlledu'n fyw yn Gymraeg a Saesneg. Bydd angen i chi gynhyrchu straeon ac ideiau gwreiddiol, a gallu gweithio ar draws sawl llwyfan a defnyddio amrywiaeth o offer i adrodd y stori’n y ffordd fwyaf priodol. Darperir hyfforddiant lle bo angen.
Ai chi yw'r ymgeisydd iawn?
Bydd angen i chi allu gweithio’n annibynnol ac heb oruchwyliaeth mewn awyrgylch brysur. Bydd gennych ddiddordeb cryf mewn newyddion a gwybodaeth am y cymunedau y byddwch yn gweithio ynddynt. Disgwylir i chi gyfrannu’n rheolaidd at ein holl wasanaethau newyddion a bod yn fedrus wrth reoli amrywiaeth o alwadau. Mae’r gallu i weithio’n gyflym dan bwysau, a bod yn hyderus wrth ddarlledu’n fyw, yn hanfodol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Bydd angen i chi weithio’n dda fel rhan o dîm a chyfrannu at wneud yr adran newyddion yn lle gwych i weithio ynddi.
#J-18808-Ljbffr