About The Service This is an exciting opportunity to work in a vibrant and diverse city and to be part of a dynamic senior management team of a leading public sector organisation with 15,000 employees delivering over 700 individual services to over 362,000 residents. A recent independent peer review found that Cardiff Council is a ‘good and ambitious Council’ with a ‘can-do and optimistic’ culture. About The Job Reporting to the Chief Executive, you will provide strategic leadership and direction on the integration of frontline services, including waste and Highways, provided to citizens across Cardiff, including the provision of analysis and robust advice to Cabinet Members and Councillors on the best options and methods to deliver relevant aspects of the administration’s Stronger, Fairer, Greener commitments and the Council's Corporate Plan. As a member of the Council’s Senior Management Team, you will play an integral strategic role in leading highly effective service delivery, reshaping the Council and driving performance to ensure continued focus on improvement. What We Are Looking for From You You will be able to perform at your best working at a strategic level in a large organisation. The role requires an individual who has an in-depth understanding of the services detailed in the role profile and is experienced in delivering services within a unionised environment. You will be articulate, credible and able to win respect through your leadership capabilities. You will have the ability to think strategically and handle complex issues with ease. A confident communicator, you will quickly establish effective professional relationships across the Council, as well as with the workforce and Trade Unions This post is politically restricted in accordance with the Local Government and Housing Act 1989 (as amended by Local Democracy, Economic Development and Construction Act 2009). Additional Information Further a confidential discussion, please contact Sandra Jones (07826 404091) or Gary Evans (07809 195593) of GatenbySanderson Closing date 9 th January 2026 at 11.59pm Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol a bod yn rhan o uwch dîm rheoli dynamig mewn sefydliad cyhoeddus arweiniol sydd â 15,000 o gyflogeion yn darparu dros 700 o wasanaethau unigol i dros 362,000 o breswylwyr. Canfu adolygiad annibynnol gan gymheiriaid yn ddiweddar fod Cyngor Caerdydd yn 'Gyngor da ac uchelgeisiol' gyda diwylliant 'cadarnhaol ac optimistaidd'. Ynglŷn â’r Swydd Gan adrodd i’r Prif Weithredwr, byddwch yn cynnig arweiniad a chyfeiriad strategol ar integreiddio gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys gwastraff a Phriffyrdd, a ddarperir i ddinasyddion ledled Caerdydd, gan gynnwys cynnig dadansoddiadau a chyngor cadarn i Aelodau Cabinet a Chynghorwyr ar y dewisiadau a’r dulliau gorau o gyflawni elfennau perthnasol ar ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y weinyddiaeth a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau hynod effeithiol, gan ail-lunio'r Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant. Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr. Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn sydd â dealltwriaeth fanwl o'r gwasanaethau y manylir arnynt yn y proffil rôl ac sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau mewn amgylchedd undebol. Byddwch chi'n gyfathrebwr effeithiol, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch trwy eich galluoedd arwain. Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol ac ymdrin â materion cymhleth yn rhwydd. Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda’r gweithlu ac Undebau Llafur. Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009). Gwybodaeth Ychwanegol Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â Sandra Jones (07826 404091) neu Gary Evans (07809 195593) o Gatenby Sanderson. To apply please click the Apply Now link below.