Investigative Journalist Duration : Two-year post with aspirations for permanent position. Full-time : £28,000 Closing Date of application : Monday 5th January 2025, 5:00pm Interview Date : Thursday 8th January 2025 Location of Work – Working from home and on location across Wales following story leads. Also, at INCC’s head office: Science Centre, c/o National Botanic Garden of Wales, Carmarthenshire. About INCC INCC is a charity founded in 2018 in response to the growing need for an independent nature conservation organisation in Wales. We do not accept government funding so that we can speak out and challenge environmental decision makers for wildlife without fear of financial reprisal. We balance campaigning and litigation with practical nature conservation delivery which involves community conservation, research and large-scale species and habitat restoration. INCC is also home to the all-Wales nature conservation journal, Natur Cymru, which is a nonpartisan publication designed to celebrate Welsh wildlife and to bring groups and individuals together to share nature conservation news, issues and solutions. INCC has been successful with fundraising to increase its capacity to challenge environmental decision makers in Wales by developing its own investigations team and increasing the organisation’s ability to deliver effective campaigns for nature. Over the next three years we want to pioneer a fundamental shift in the nature conservation sector that will see greater emphasis being placed on holding environmental decision makers to account. We want to achieve this by exposing and challenging their attitudes, inaction, and decision making, where it has the potential to impact wildlife and the nature conservation sector in Wales. We are now looking for a talented investigative journalist to help with our mission, and to lead coverage of environmental and nature-related stories across Wales. About the Role As the Investigative Journalist for INCC, you will be at the heart of our new nature investigations team. We are dedicated to producing high-quality, impactful journalism that informs, challenges, and inspires change in Wales for the betterment of nature. Our work holds power to account and amplifies the unheard voices of nature and the places they call home. You will uncover and report on the key environmental challenges facing Wales – from biodiversity loss and land management to climate change, pollution, and importantly the politics that shapes nature conservation. You’ll produce in-depth investigations, data-driven analysis, and compelling storytelling that brings complex issues to life for a wide audience. You will be involved in promoting investigations on TV, radio social media, online and in print. Newyddiadurwr Ymchwiliol Hyd : Swydd dwy flynedd gyda dyhead am swydd barhaol. Llawn amser : £28,000 Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau : Dydd Llun 5ed Ionawr 2025, 5:00pm Dyddiad y Cyfweliadau : Dydd Iau 8fed Ionawr 2025 Lleoliad Gwaith – Gweithio o gartref ac ar leoliad ledled Cymru yn dilyn straeon. Hefyd, ym mhrif swyddfa INCC: Y Ganolfan Wyddoniaeth, d/o Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin. Am INCC Mae INCC yn elusen a sefydlwyd yn 2018 mewn ymateb i'r angen cynyddol am sefydliad cadwraeth natur annibynnol yng Nghymru. Nid ydym yn derbyn cyllid gan y llywodraeth fel ein bod yn gallu codi llais a herio pobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol dros fywyd gwyllt heb ofni dial ariannol. Rydym yn sicrhau cydbwysedd rhwng ymgyrchu ac ymgyfreitha a chyflawni cadwraeth natur ymarferol sy'n cynnwys cadwraeth gymunedol, ymchwil ac adfer rhywogaethau a chynefinoedd ar raddfa fawr. Mae INCC hefyd yn gartref i'r cylchgrawn cadwraeth natur ar gyfer Cymru gyfan, Natur Cymru, sef cyhoeddiad amhleidiol gyda’r nod o ddathlu bywyd gwyllt Cymru a dod â grwpiau ac unigolion at ei gilydd i rannu newyddion, materion ac atebion cadwraeth natur. Mae INCC wedi bod yn llwyddiannus gyda chodi arian i gynyddu ei allu i herio pobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol yng Nghymru drwy ddatblygu ei dîm ymchwiliadau ei hun a chynyddu gallu'r sefydliad i gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol dros fyd natur. Dros y tair blynedd nesaf rydym eisiau arloesi gyda newid sylfaenol yn y sector cadwraeth natur a fydd yn gweld mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddal pobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol i gyfrif. Rydym eisiau cyflawni hyn drwy ddatgelu a herio eu hagweddau, eu diffyg gweithredu a'u prosesau gwneud penderfyniadau, lle mae gan hynny'r potensial i effeithio ar fywyd gwyllt a'r sector cadwraeth natur yng Nghymru. Rydym nawr yn chwilio am newyddiadurwr ymchwiliol talentog i helpu gyda'n cenhadaeth, ac i arwain y sylw sy’n cael ei roi i straeon amgylcheddol a straeon sy'n gysylltiedig â byd natur ledled Cymru. Am y Rôl Fel Newyddiadurwr Ymchwiliol INCC, byddwch wrth galon ein tîm ymchwiliadau natur newydd. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu newyddiaduraeth o ansawdd uchel ac effeithiol sy'n sail i, yn herio ac yn ysbrydoli newid yng Nghymru er lles byd natur. Mae ein gwaith yn dal pŵer i gyfrif ac yn cryfhau llais byd natur nad oes neb yn ei glywed, a'r llefydd mae bywyd gwyllt yn eu galw'n gartref. Byddwch yn datgelu ac yn adrodd ar yr heriau amgylcheddol allweddol sy'n wynebu Cymru - o golli bioamrywiaeth a rheoli tir i newid hinsawdd, llygredd, ac yn bwysig iawn hefyd, y wleidyddiaeth sy'n dylanwadu ar gadwraeth natur. Byddwch yn cynhyrchu ymchwiliadau manwl a dadansoddiadau sy'n seiliedig ar ddata ac yn adrodd straeon grymus sy'n dod â materion cymhleth yn fyw i gynulleidfa eang. Byddwch yn ymwneud â hyrwyddo ymchwiliadau ar y teledu, y radio, cyfryngau cymdeithasol, ac ar-lein ac mewn print