Cydlynydd Prosiect Cymraeg Hanfodol
Caerdydd a Llandudno, Cymru
Amdanom ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.
Rydym nawr yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i ymuno â ni am gyfnod penodol tan 31 Awst 2026. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.
Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.
Y Manteision
* Cyflog o £29,651 - £32,061
* 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
* Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
* Cynllun pensiwn llywodraeth leol
* Polisi gwaith hyblyg
* Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Cydlynydd Prosiect, byddwch yn cefnogi amrywiaeth o feysydd gwaith gwella a datblygu, prosiectau, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Gan ddarparu gwasanaeth gweinyddol hollbwysig, byddwch yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynorthwyo gyda datblygu a chyflwyno prosiectau a chwarae rôl gefnogol hanfodol wrth gydlynu cyfarfodydd mewnol ac allanol.
Yn ogystal, byddwch yn casglu ac yn dadansoddi data ac yn adeiladu argymhellion ar gyfer amcanion a blaenoriaethau yn y dyfodol, yn ogystal â sefydlu a chynnal systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.
Amdanoch Chi
Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Gydlynydd Prosiect, bydd angen:
* Profiad mewn gweinyddu busnes
* Profiad o baratoi digwyddiadau e.e. gweithdai, cynadleddau neu gyrsiau ymarfer
* Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys cymryd cofnodion
* Profiad o weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
* Gwybodaeth am y sector cyhoeddus a dealltwriaeth o rôl Llywodraeth Cymru yng ngwaith Gofal Cymdeithasol Cymru
* Rheoli amser a blaenoriaeth effeithiol
* Ruglder yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys gwrando, ysgrifennu a siarad
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 30 Mehefin 2025.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Gweinyddol, Swyddog Prosiect, Cynorthwy-ydd Cefnogi Rhaglen, neu Weinyddwr Rhaglen.
Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Felly, os ydych am ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cydlynydd Prosiect, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
#J-18808-Ljbffr