Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Professional rugby competitions manager

Pontyclun
WRU - Welsh Rugby Union
Manager
£36,000 - £40,000 a year
Posted: 4 October
Offer description

The Professional Rugby Competitions Manager is responsible for the strategic planning, operational management, and overall delivery of all professional rugby competitions under the WRU's remit, including the International, URC, EPCR, Celtic Challenge and Super Rygbi Cymru competitions. This role will link directly to the One Wales Strategy
Deliver inspiring, competitive Clubs and National teams
.
The role requires a deep understanding of rugby regulatory requirements, strong organizational skills, and the ability to collaborate effectively with various stakeholders to ensure the smooth and successful execution of competitions.

Closing Date:
16 October 2025

Salary:
£36,000 to £40,000 per annum

Location:
WRU National Centre of Excellence, Hensol

Hours of work:
35 per week. Monday to Friday.

Our working hours are generally 9am – 5pm but our approach to hybrid working - '
Team Tactics'
means you can flex your hours and attendance in the office to support a sustainable work-life balance

Responsible to:
Head of Performance Rugby

Contractual status:
Permanent, full time. Subject to 6-month probationary period

The Person
Knowledge, Skills And Experience

* Bachelor's degree in Sports Management, Business Administration, or a related field.
* Minimum of 5-7 years of experience in sports administration or event management, with a significant focus on professional sports competitions.
* Prior experience in rugby at a professional or high-performance level is highly desirable.
* Excellent IT skills, specifically Microsoft package
* Strong interpersonal skills
* Excellent written and verbal communication skills are essential
* Strong interpersonal and relationship management
* Excellent knowledge and understanding of regulatory compliance
* Ability to communicate and work through the medium of Welsh is desirable

The Role
Key Responsibilities, Tasks And Activities

* Oversee the implementation and compliance with World Rugby Regulation 9
* Manage Medical sign-in/sign-out procedures for international players and assist with insurance claims
* Manage World Rugby Regulation 8 (Eligibility), Regulation 4, (Player status, Contracts and Movement) and Regulation 23 (Anti-Doping).
* Oversee GBE process for NWQP
* Ensure compliance of professional clubs with relevant competition rules and regulations
* Coordinate RMB meetings between professional clubs and WRU and ensure compliance with requirements of PRA & Rugby Operating Manual
* Provide administrative support to WRU Boards and Committees as required
* As directed by the SRC Governance Committee, develop, maintain, and deliver all operational aspects of SRC, including scheduling, logistics, season coordination, events, and meetings
* Ensure adherence by all SRC Clubs to their SRC Licence agreements and support license holders in developing the SRC product.
* Manage and oversee the governance framework for the Super Rygbi Cymru and competition, ensuring compliance with established rules and regulations.
* Working with the WRU Competitions department, facilitate player registration, transfers, permits, the SRC Salary Cap, and compliance with regulations of all pathways competitions
* Ensure strict adherence to all relevant rugby laws, regulations, and disciplinary codes.
* Liaise with World Rugby and other governing bodies to stay updated relevant on regulatory changes.
* Build and maintain strong relationships with clubs, players, coaches, referees, broadcasters, sponsors, suppliers, WRU Departments, partners, and other key stakeholders.
* Coordinate post-match and post-tournament reporting data.
* Work with relevant stakeholders to produce key obligations documents setting agreed standards for each match or event.
* Manage budget and financial planning of the agreed SRC, ensuring cost-effectiveness, efficiencies, and adherence to financial targets.

Key Relationships

* DOR & Elite Performance
* Head of Performance Rugby
* World Rugby Regulatory Committee
* Representatives of URC & EPCR & Celtic Challenge
* WRU Discipline and Integrity team
* Members of the SRC Governance Committee and 10 Licence Holder/Teams
* WRU Competitions, Officiating, and Analysis teams
* Team Management of Senior National Teams
* Sponsors and competition partners

WRU Requirements
The WRU require that individuals are proficient in IT skills, specifically Microsoft packages. Excellent written and verbal communications are essential, along with the ability to build strong relationships with internal and external stakeholders.

Ability to communicate through the medium of Welsh and a Valid UK Driver's License is desirable. This role is subject to a basic/enhanced DBS check.

The Perks
As a permanent member of the WRU Group, you will have access to our full range of employee benefits, including:

* Salary Sacrifice Pension (5% employee contribution, matched by WRU)
* Life assurance scheme
* WRU Group Ticket Allocation
* Employee assistance programme
* Team Tactics – hybrid working arrangements
* Free stadium parking and gym
* WRU Group store and tour discounts
* WRU Group partnership offers
* Eye Care Voucher Scheme
* Cycle to Work Scheme

Our Values
The WRU Group are committed to developing a culture whereby all employees are equally valued and respected. Our aims, together with our vision and mission, are underpinned by our core values and beliefs which embrace: Integrity, Excellence, Success, Courage, Family & Humour.

Inclusion At The WRU
The WRU Group are committed to building diverse, high-performing and engaged teams across Welsh Rugby. We are ambitious about providing a people first culture where everyone can belong, be heard and respected. We are happy to talk to you about our Crys I Bawb EDI Strategy and you can also read more about our commitment in our Equality, Diversity and Inclusion Policy.

Diversity monitoring
We know that we deliver better services when our workforce reflects the full range of backgrounds and experiences in the society we serve.

To continue to do this we need your help in filling out a short monitoring form.

None of the information you provide will be visible as part of your application. It will only be used anonymously to monitor the inclusivity of our selection processes.

You can select 'prefer not to say' if you would rather not answer any question.

Rheolwr Cystadlaethau Rygbi Proffesiynol
Mae'r Rheolwr Cystadlaethau Rygbi Proffesiynol yn gyfrifol am gynllunio strategol, rheoli gweithredol, a darpariaeth gyffredinol yr holl gystadlaethau rygbi proffesiynol o fewn cylch gorchwyl URC, gan gynnwys cystadlaethau Rhyngwladol, URC, EPCR, Celtic Challenge a Super Rygbi Cymru. Bydd y rôl hon yn cysylltu'n uniongyrchol â Strategaeth Cymru'n Un:
Cyflwyno
Clybiau a thimau Cenedlaethol ysbrydoledig a chystadleuol. Mae'r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn o ofynion rheoleiddio rygbi, sgiliau trefnu cryf, a'r gallu i gydweithio'n effeithiol ag amrywiol randdeiliaid i sicrhau bod cystadlaethau'n cael eu cynnal yn llyfn ac yn llwyddiannus.

Dyddiad Cau:
16 Hydref 2025

Cyflog:
£36,000 i £40,000 y flwyddyn

Lleoliad:
Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol URC, Hensol

Oriau gwaith:
35 awr yr wythnos. Dydd Llun i ddydd Gwener.

Ein horiau gwaith yn gyffredinol yw 9am – 5pm ond mae ein hagwedd at weithio hybrid - '
Tactegau
Tîm' - yn golygu bod eich oriau a'ch presenoldeb yn y swyddfa yn hyblyg er mwyn cefnogi cydbwysedd cynaliadwy rhwng bywyd a gwaith.

Yn atebol i:
Pennaeth Rygbi Perfformiad

Statws cytundebol:
Parhaol, llawn amser. Yn amodol ar gyfnod prawf o 6 mis

Y PERSON
Gwybodaeth
,
Sgiliau a Phrofiad

* Gradd Baglor mewn Rheoli Chwaraeon, Gweinyddu Busnes, neu faes cysylltiedig.
* Isafswm o 5-7 mlynedd o brofiad mewn gweinyddu chwaraeon neu reoli digwyddiadau, gyda ffocws sylweddol ar gystadlaethau chwaraeon proffesiynol.
* Mae profiad blaenorol mewn rygbi ar lefel broffesiynol neu berfformiad uchel yn fanteisiol iawn.
* Sgiliau TG rhagorol, yn enwedig pecyn Microsoft
* Sgiliau rhyngbersonol cadarn
* Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol
* Rheolaeth ryngbersonol a pherthnasau cadarn
* Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gydymffurfiaeth reoleiddiol
* Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio yn y Gymraeg yn fanteisiol

Y RÔL
Cyfrifoldebau
, Tasgau a Gweithgareddau Allweddol

* Goruchwylio gweithrediad a chydymffurfiaeth â Rheoliad 9 Rygbi'r Byd
* Rheoli gweithdrefnau mewngofnodi/allgofnodi meddygol ar gyfer chwaraewyr rhyngwladol a chynorthwyo gyda hawliadau yswiriant
* Rheoli Rheoliad 8 (Cymhwysedd), Rheoliad 4, (Statws chwaraewyr, Contractau a Symudiad) a Rheoliad 23 (Gwrth Gyffuriau) Rygbi'r Byd.
* Goruchwylio'r broses GBE ar gyfer NWQP
* Sicrhau cydymffurfiaeth clybiau proffesiynol â rheolau a rheoliadau cystadlaethau perthnasol
* Cydlynu cyfarfodydd RMB rhwng clybiau proffesiynol ac URC a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y PRA a'r Llawlyfr Gweithredu Rygbi
* Darparu cefnogaeth weinyddol i Fyrddau a Phwyllgorau URC yn ôl yr angen
* Yn ôl cyfarwyddyd Pwyllgor Llywodraethu'r SRC, datblygu, cynnal a chyflawni pob agwedd weithredol ar y SRC, gan gynnwys amserlennu, logisteg, cydlynu tymhorau, digwyddiadau a chyfarfodydd
* Sicrhau bod pob Clwb SRC yn glynu wrth eu cytundebau Trwydded SRC a chefnogi deiliaid trwyddedau i ddatblygu'r cynnyrch SRC.
* Rheoli a goruchwylio'r fframwaith llywodraethu ar gyfer Super Rygbi Cymru a'r gystadleuaeth, gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau sefydledig.
* Gan weithio gydag adran Cystadlaethau URC, hwyluso cofrestru chwaraewyr, trosglwyddiadau, trwyddedau, Cap Cyflog SRC, a chydymffurfiaeth â rheoliadau holl gystadlaethau llwybrau
* Sicrhau glynu'n gaeth wrth holl gyfreithiau, rheoliadau a chodau disgyblu rygbi perthnasol.
* Ymgysylltu â Rygbi'r Byd a chyrff llywodraethu eraill i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau rheoleiddiol.
* Meithrin a chynnal perthnasau cryf â chlybiau, chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, darlledwyr, noddwyr, cyflenwyr, Adrannau URC, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill.
* Cydlynu data adrodd ar ôl gemau ac ar ôl twrnameintiau.
* Gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i gynhyrchu dogfennau rhwymedigaethau allweddol sy'n gosod safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer pob gêm neu ddigwyddiad.
* Rheoli cyllideb a chynllunio ariannol y SRC y cytunwyd arno, gan sicrhau cost-effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, a glynu wrth dargedau ariannol.

Perthnasau
Allweddol

* DOR a Pherfformiad Elît
* Pennaeth Rygbi Perfformiad
* Pwyllgor Rheoleiddio Rygbi'r Byd
* Cynrychiolwyr URC ac EPCR a Celtic Challenge
* Tîm Disgyblaeth ac Uniondeb URC
* Aelodau Pwyllgor Llywodraethu SRC a 10 Deiliad Trwydded/Tîm
* Timau Cystadlaethau, Dyfarnu, a Dadansoddi URC
* Rheolwyr Timau Cenedlaethol Uwch
* Noddwyr a phartneriaid cystadlaethau

GOFYNION URC
Mae URC yn mynnu bod gan unigolion sgiliau TG, yn benodol pecynnau Microsoft. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a Thrwydded Yrru Ddilys y DU yn ddymunol. Mae'r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS sylfaenol/manwl.

Y MANTEISION
Fel aelod parhaol o Grŵp URC, bydd gennych fynediad at ein hystod lawn o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:

* Pensiwn Aberth Cyflog (cyfraniad cyflogai o 5%,cyfraniad cyfatebol gan URC)
* Cynllun yswiriant bywyd
* Dyraniad Tocyn Grŵp URC
* Rhaglen cymorth i weithwyr
* Tactegau Tîm – trefniadau gweithio hybrid
* Parcio stadiwm a champfa am
* Gostyngiadau siop a theithiau Grŵp URC
* Cynigion partneriaeth Grŵp URC
* Cynllun Talebau Gofal Llygaid
* Cynllun Beicio i'r Gwaith
* Gostyngiadau Gwestai'r Celtic Collection

Ein Gwerthoedd
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant lle mae pob gweithiwr yn cael ei werthfawrogi a'i barchu'n gyfartal. Mae ein nodau, ynghyd â'n gweledigaeth a'n cenhadaeth, wedi'u tanategu gan ein gwerthoedd a'n credoau craidd sy'n croesawu: Uniondeb, Rhagoriaeth, Llwyddiant, Dewrder, Teulu a Hiwmor.

Cynhwysiant yn URC
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddarparu Jyrsi i Bawb. Mae hyn yn cynnwys y bobl sy'n gweithio i ni a gyda ni. Rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â darparu diwylliant sy'n rhoi pobl yn gyntaf, lle gall pawb fod yn perthyn a chael eu clywed a'u parchu. Rydym yn hapus i siarad â chi am ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a gallwch hefyd ddarllen rhagor am ein hymrwymiad yn ein Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Monitro amrywiaeth
Gwyddom ein bod yn darparu gwasanaethau gwell pan fo ein gweithlu'n adlewyrchu'r ystod lawn o gefndiroedd a phrofiadau yn y gymdeithas a wasanaethwn. Er mwyn parhau i wneud hyn mae angen eich help arnom i lenwi ffurflen fonitro fer. Ni fydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn weladwy fel rhan o'ch cais. Dim ond i fonitro cynwysoldeb ein prosesau dethol yn ddienw y caiff ei defnyddio. Gallwch ddewis 'gwell gennyf beidio â dweud' os byddai'n well gennych beidio ag ateb unrhyw gwestiwn.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Conveyancing manager
Cardiff
TSR Legal
Manager
£50,000 a year
Similar job
Boning hall manager
Merthyr Tydfil
VIBE
Manager
£55,000 a year
Similar job
Senior case management developer
Cardiff
InterQuest Group (UK) Limited
Manager
£65,000 a year
See more jobs
Similar jobs
Management jobs in Pontyclun
jobs Pontyclun
jobs Rhondda Cynon Taf
jobs Wales
Home > Jobs > Management jobs > Manager jobs > Manager jobs in Pontyclun > Professional Rugby Competitions Manager

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save