Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Prentis rhent ac incwm / rent and income apprentice

Denbigh
Posted: 11h ago
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. ​ Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. ​ Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Byddwch yn c ynorthwyo’r tîm Cymdogaethau i uchafu incwm rhent a thâl gwasanaeth i Grŵp Cynefin. Byddwch yn g weinyddu systemau cyfrifiadurol, gan sicrhau cywirdeb a thrywydd archwilio cyfredol a chyson. Byddwch yn d arparu cefnogaeth gweinyddol i’r timoedd Casglu Incwm, Tai a Lles a d atblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid. Dyma gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl a chael blas ar waith rheolaeth tai mewn cymdeithas dai cefnogol a chyfeillgar. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Rhiannon Dafydd, Rheolwr Tai, neu Douglas Graham, Arweinydd Systemau Rheolaeth Tai, ar 0300 111 2122. ​ Y Pecyn Math o gytundeb: Cytundeb 2 flynedd Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol Lleoliad: Dinbych Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad Swydd DS Prentis Rhent ac Incwm - 04.2025.pdf JD Rent and Income Apprentice 0625.pdf ​ Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Datblygiad Personol: ​ Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! ​ ​ Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: 23.07.25 ​ ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Denbigh
jobs Denbighshire
jobs Wales
Home > Jobs > Prentis Rhent ac Incwm / Rent and Income Apprentice

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save