Role - Zero Hours Children's Resource Worker
Hours - variable and inconsistent including evenings and weekends
Salary - £12.77 per hour plus 15% Holiday Pay
Location - Applicants must be based in the South Wales area to be able to cover carers and children support within Llanelli in the west to Monmouthshire in the East and up towards Brecon area.
TACT Wales are looking for a children's resource worker to collaborate with them to support foster children and carers in the region. The ideal Children's Resource Worker will already have some experience in engagement and participation with vulnerable young people, care experienced children or have similar experience in child-facing settings. High level of flexibility required to cover weekends, evenings and bank holidays. Occasionally may be required to support with overnight residentials and night support within the foster home. Car driver and owning a car is essential. There will be opportunities for training and development for this role, as new workers join us at our organisation wide journey to become a fully trauma-informed organisation. The successful candidate will undertake essential duties that will impact positively on the long-term outcomes for the young people and children in our care. This role is an essential part of the wider team, working in close partnership with parents, carers, young people, local authorities and their social workers.
As a Zero Hours worker with TACT, you will be a part of our amazing team of professionals working with our organisational values at the heart of their everyday practice. You can review our values here.
Key duties and abilities for our Children's Resource Worker will include:
* Supporting interventions and activities to ensure stable placement arrangements
* Ability to transport children and young people to events, appointments and meetings (mileage reimbursed)
* Occasional participation in virtual and face to face events and occasional residential meet ups
* Ability to attend and assist with organising events and activities
* Understanding and maintaining knowledge of safeguarding and child protection policies and procedures
* Use of IT for email and communication
* Willingness to work flexibly, according to deadlines and needs of our families
Please see the Job Description and Information Pack for full details of the role.
An enhanced DBS clearance is required for this role, which TACT will undertake on your behalf.
Closing: Midnight on Sunday 3rd August 2025
Interviews: Tuesday 12th August 2025 (via Microsoft teams)
Safeguarding is everyone s business and TACT believe that only the people with the right skills and values should work in social work. As part of TACT s commitment to safeguarding, we properly examine the skills, experience, qualifications and values of potential staff in relation to our work with vulnerable young children. We use rigorous and consistent recruitment approaches to help safeguard TACT s young people. All our staff are expected to work in line with TACT s safeguarding policies.
TACT does not accept unsolicited CVs from external recruitment agencies nor accept the fees associated with them. TACT reserves the right to close the vacancy once we have received sufficient applications, so we advise you to submit your application as early as possible to prevent disappointment.
Swydd - Gweithiwr Adnoddau Plant Dim Oriau
Oriau - amrywiol ac anghyson gan gynnwys gyda r nos ac ar benwythnosau
Cyflog - £12.77 yr awr a Thâl Gwyliau o 15%
Lleoliad - Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yn Ne Cymru i allu darparu cefnogaeth i ofalwyr a phlant, o Lanelli yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y Dwyrain ac i fyny tuag at ardal Aberhonddu.
Mae TACT Cymru yn chwilio am weithiwr adnoddau plant i gydweithio â nhw i gefnogi plant maeth a gofalwyr yn y rhanbarth. Bydd gan y Gweithiwr Adnoddau Plant delfrydol rywfaint o brofiad o ymgysylltu a chyfranogi gyda phobl ifanc agored i niwed a phlant sydd â phrofiad o ofal, neu bydd gan yr unigolyn brofiad tebyg mewn lleoliadau sy n delio â phlant. Mae angen lefel uchel o hyblygrwydd i weithio ar benwythnosau, gyda'r nos ac ar wyliau banc. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd gofyn i chi gynorthwyo gyda digwyddiadau preswyl dros nos a chymorth gyda r nos yn y cartref maeth. Mae'n hanfodol eich bod yn gallu gyrru car ac yn berchen ar gar. Bydd cyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu yn y swydd hon, wrth i weithwyr newydd ymuno â ni ar ein taith i ddod yn sefydliad sy n gwbl ystyriol o drawma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â dyletswyddau hanfodol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau hirdymor y plant a r bobl ifanc yn ein gofal. Bydd deiliad y swydd hon yn rhan hanfodol o r tîm ehangach, gan weithio mewn partneriaeth agos â rhieni, gofalwyr, pobl ifanc, awdurdodau lleol a u gweithwyr cymdeithasol.
Fel gweithiwr Dim Oriau gyda TACT, byddwch yn rhan o n tîm anhygoel o weithwyr proffesiynol sy n gweithio gyda gwerthoedd ein sefydliad wrth galon eu hymarfer bob dydd. Gallwch weld ein gwerthoedd yma.
Bydd prif ddyletswyddau a galluoedd ein Gweithiwr Adnoddau Plant yn cynnwys:
* Cefnogi ymyriadau a gweithgareddau i sicrhau trefniadau lleoliadau sefydlog
* Gallu cludo plant a phobl ifanc i ddigwyddiadau, apwyntiadau a chyfarfodydd (ad-delir costau teithio)
* Cymryd rhan o bryd i w gilydd mewn digwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb a chyfarfodydd preswyl achlysurol
* Gallu mynychu a helpu i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau
* Deall a chynnal gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant
* Defnyddio TG ar gyfer e-bost a chyfathrebu
* Parodrwydd i weithio n hyblyg, yn unol â dyddiadau cau ac anghenion ein teuluoedd
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd a r Pecyn Gwybodaeth i gael gweld manylion llawn y swydd.
Mae angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rôl hon, a bydd TACT yn gwneud hyn ar eich rhan.
Dyddiad cau: Hanner nos, nos Sul 3 Awst 2025
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 12 Awst 2025 (drwy Microsoft Teams)
Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae TACT yn credu mai dim ond y bobl sydd â r sgiliau a r gwerthoedd iawn ddylai weithio ym maes gwaith cymdeithasol. Fel rhan o ymrwymiad TACT i ddiogelu, rydym yn archwilio sgiliau, profiad, cymwysterau a gwerthoedd darpar staff mewn perthynas â n gwaith gyda phlant ifanc agored i niwed. Rydym yn defnyddio dulliau recriwtio trwyadl a chyson i helpu i ddiogelu pobl ifanc TACT. Disgwylir i n holl staff weithio yn unol â pholisïau diogelu TACT.
Nid yw TACT yn derbyn dogfennau CV digymell gan asiantaethau recriwtio allanol nac yn derbyn y ffioedd sy n gysylltiedig â nhw. Mae TACT yn cadw r hawl i newid dyddiad cau r swydd ar ôl i ni gael digon o geisiadau, felly rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.