Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Control room operator

Control room operator
Posted: 5 December
Offer description

Gweithredwr yr Ystafell Reoli Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, cadarnhaol a dibynadwy i ymuno â Thîm y Gwasanaethau Diogelwch a Diogelwch Cymunedol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod ein campws yn ddiogel ac yn rhedeg yn ddidrafferth, gan gynnig gwasanaeth monitro ac ymateb 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy Ystafell Reoli’r Brifysgol. Byddwch yn gallu cadw eich pen dan bwysau, a bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych er mwyn darparu gwasanaeth o safon ar gyfer ein rhanddeiliaid amrywiol. Byddwch yn dangos ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb a phroffesiynoldeb yn y swydd ac yn cael eich cefnogi gan dîm profiadol ac ymrwymedig. Byddwch yn gweithio sifftiau 12 awr, gan ddilyn patrwm sy’n cylchdroi o ddwy sifft yn ystod y dydd (07:00 tan 19:00), wedi’u dilyn gan ddwy sifft yn ystod y nos (19:00 tan 07:00), wedi’u dilyn gan bedwar diwrnod gorffwys. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau, diwrnodau pan fydd y Brifysgol ar gau a gwyliau banc. Mae wyth swydd amser llawn a phenagored ar gael, ac mae modd dechrau ar unwaith. Cyflog cychwynnol: £35,348.88 y flwyddyn Dadansoddiad: Tâl sylfaenol (pwynt 13 ar y raddfa gyflog) = £25,249 Lwfans sifft (17.5%) = £4,4185 Oriau ychwanegol dan g /> Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys lwfans gwyliau blynyddol hael (378 awr y flwyddyn), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith, cynllun benthyciadau tocyn tymor a chynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog. Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2025 Dyddiad cau: Dydd Sul, 4 Ionawr 2026 Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth traws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Mae modd cyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. DIBEN Y SWYDD Diben y swydd yw monitro systemau diogelwch y Brifysgol yn barhaus ac mewn ffordd effeithiol, gan ymateb i ddigwyddiadau a chyfathrebu’n glir â thimau patrôl, rhanddeiliaid y Brifysgol a’r gwasanaethau brys. Mae’r swydd yn cefnogi amgylchedd diogel a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer drwy reoli gwybodaeth mewn amser real, ymateb i larymau ac argyfyngau a dilyn gweithdrefnau gweithredu safonol. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn wyliadwrus ac yn broffesiynol a gallu cydweithio a chanolbwyntio ar fanylion er mwyn diogelu cymuned y Brifysgol a darparu gwasanaeth o safon ar gyfer cwsmeriaid. Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU Prif Ddyletswyddau Gweithrediadau’r Ystafell Reoli: Cydweithio ag ail Weithredwr yr Ystafell Reoli a staffio’r Ystafell Reoli 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gan sicrhau bod systemau diogelwch yn cael eu defnyddio’n broffesiynol a helpu’r goruchwyliwr ar ddyletswydd i gydlynu adnoddau ar y campws Mynd ati’n barhaus i fonitro a gweithredu systemau teledu cylch cyfyng, larymau tresmaswyr, systemau synhwyro tân, systemau rheoli mynediad a systemau electronig eraill – mae enghreifftiau'n cynnwys Salto, ISARR, SafeZone, PAC, Invida, BEMS a Coretech Ar adegau penodol, mynd ati i archwilio systemau teledu cylch cyfyng a phatrolio o bell drwy wylio ffrydiau camerâu, gan dalu sylw penodol i ymddygiad anarferol neu fannau sydd mewn perygl o niwed, difrod neu fynediad anawdurdodedig a rhoi gwybod am ddiffygion neu broblemau’n brydlon Cofnodi ac ymateb ar unwaith i achosion o ganu larwm Cadw cofnodion o fanylion, dyddiad ac amser unrhyw weithgarwch, gan gynnal tystiolaeth a dogfennau ategol yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol a deddfwriaeth berthnasol Rheoli Digwyddiadau: Bod ymhlith y pwyntiau cyswllt cyntaf ar gyfer argyfyngau a galwadau sy’n ymwneud â diogelwch Ymateb yn gyflym i rybuddion gan systemau, toriadau ac argyfyngau, gan ddilyn protocolau sefydledig i leihau risg ac unrhyw darfu Helpu’r goruchwyliwr ar ddyletswydd i gydlynu personél diogelwch y campws a’r gwasanaethau brys yn ôl yr angen Cofnodi digwyddiadau’n glir ac yn gywir i’w gwneud yn bosibl blaenoriaethu’n effeithiol, dyrannu adnoddau a chyflwyno adroddiadau i Dîm y Gwasanaethau Diogelwch a Diogelwch Cymunedol Cyfathrebu a Gwasanaethu Cwsmeriaid: Cyfathrebu â swyddogion dros y radio a’r ffôn, gan gadarnhau eu lleoliad, sicrhau eu bod yn ddiogel a defnyddio adnoddau ar unwaith os nad oes ymateb Cysylltu’n effeithiol â’r gwasanaethau brys, contractwyr a staff y Brifysgol sydd ar alwad Defnyddio SafeZone a phlatfformau cyfathrebu torfol eraill i roi arweiniad clir a thawelu meddyliau’r staff, y myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn ystod digwyddiadau, gan ddilyn gweithdrefnau argyfwng Rhoi sicrwydd empathig, arweiniad ystyriol a gwybodaeth glir i’r staff, y myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill bob amser Cefnogi gweithrediadau ehangach y Brifysgol drwy gysylltu â gwasanaethau mewnol yn ôl yr angen Cefnogi ymdrechion i atal troseddau a mentrau diogelwch cymunedol er mwyn gwella diogelwch a lles ein cymuned amrywiol (sy’n cynnwys aelodau o’r staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid) disgrifiad swydd wedi parhau mewn gwybodaeth ychwanegol disgrifiad swydd wedi parhau Cydymffurfiaeth a Safonau: Cadw at weithdrefnau gweithredu safonol sy’n ymwneud â deddfwriaeth a pholisïau perthnasol, gan gynnwys y Polisi Diogelu Data a Chôd Ymarfer Teledu Cylch Cyfyng y Brifysgol, a gweithdrefnau ar gyfer argyfyngau/digwyddiadau mawr Cefnogi arolygiadau, archwiliadau a gwaith adfer tystiolaeth drwy adolygu a chadw ffilmiau teledu cylch cyfyng a chofnodion yn briodol Gweinyddu: Cynnal gwybodaeth gywir er mwyn gallu trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng sifftiau Cyfrannu at archwiliadau o systemau ac adolygiadau o brosesau diogelwch Gweinyddu systemau rheoli a systemau eiddo coll allweddol Cyflawni tasgau gweinyddol eraill i gefnogi’r Tîm Systemau Diogelwch ehangach (e.e. cofnodi gwybodaeth am reoli mynediad, diweddaru hawliau mynediad cardiau adnabod) Dyletswyddau Cyffredinol Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol Rhoi cymorth cyntaf yn ôl yr angen (bydd hyfforddiant ‘Cymorth Cyntaf yn y Gwaith’ Lefel 3, ynghyd â hyfforddiant diweddaru, yn cael eu rhoi’n rheolaidd) Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch, asesu risg a diogelu bob amser Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd Sicrhau bod camau gweithredu’n cyfrannu at roi profiad cadarnhaol i’r cwsmer ac arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol bob amser Cefnogi a chymryd rhan mewn mentrau i wella gwasanaethau’n barhaus GWYBODAETH YCHWANEGOL Mae Gweithredwyr yr Ystafell Reoli’n gweithio patrwm sifftiau sy’n cylchdroi, sy’n cynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc, gan gynnwys Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan. Y patrwm yw: x2 sifft 12 awr yn ystod y dydd (07:00 tan 19:00), wedi’u dilyn gan x2 sifft 12 awr yn ystod y nos (19:00 tan 07:00), wedi’u dilyn gan x4 diwrnod gorffwys Cyn cynnig contract, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. SUT Y BYDDWN YN EICH HELPU I GYFLAWNI’R SWYDD HON Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd. Felly, byddwn yn defnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial: Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell – efallai mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes Cynllun mentora staff Cymorth i ddysgu Cymraeg neu loywi eich sgiliau iaith Gwiriadau lles gwirfoddol Manyleb Unigolyn Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm, a fydd yn cydweithio ag eraill i ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer y staff a’r myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd. Gall y swydd hon fod yn gyfle i chi gael mwy o brofiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch potensial i fod yn llwyddiannus yn y swydd. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. Bydd eich cais yn cael ei asesu’n unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau, bywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd. Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD a'i atodi i’ch cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma. Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau). Meini Prawf Hanfodol Sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol Gwybodaeth am ddefnyddio systemau diogelwch (e.e. systemau teledu cylch cyfyng, systemau rheoli mynediad, systemau larwm, systemau radio-gyfathrebu) Sgiliau TG cryf, gan gynnwys profiad o ddefnyddio pecynnau TG a ddefnyddir yn aml mewn swyddfeydd (e.e. Microsoft Office, rhaglenni e-bost) Y gallu i roi sylw i fanylion a chadw cofnodion clir, cywir a darllenadwy o ddigwyddiadau (a allai gael eu defnyddio’n dystiolaeth) Y gallu i gyfathrebu ag ystod eang ac amrywiol o bobl mewn modd effeithiol a chwrtais (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ond cynnal safonau proffesiynol, gan addasu eich iaith a’ch dull o gyfathrebu gan ddibynnu ar bwy rydych yn cyfathrebu ag ef Y gallu i gymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan ddod o hyd i'r ateb gorau a'i gynnig Y gallu i gadw eich pen, gan ddilyn protocolau sefydledig o dan bwysau ac mewn sefyllfaoedd anodd Sgiliau arsylwi cryf a’r gallu i flaenoriaethu a chanolbwyntio Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan fod ymhlith y pwyntiau cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid a cheisiadau am gymorth Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith Meini Prawf Dymunol Profiad o weithio mewn amgylchedd diogelwch, yn ddelfrydol ym maes gweithrediadau’r ystafell reoli Trwydded gan Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) ar gyfer gweithredu systemau gwyliadwriaeth mewn mannau cyhoeddus Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3 Dealltwriaeth o ddiogelu data, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a gofynion o ran trin a thrafod systemau teledu cylch cyfyng Profiad o weithio ym myd addysg uwch, yn y sector cyhoeddus a/neu mewn amgylchedd diwylliannol amrywiol

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Security control room operator
Salford
Permanent
Sodexo
Control room operator
€27,500 a year
Similar job
24/7 security control room operator — cctv & support
Cambridge
Dardan Security Ltd
Control room operator
Similar job
Control room operators
Dartford
Advance TRS
Control room operator
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Security jobs > Control room operator jobs > Control Room Operator

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save