Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Prentis (lefel 2): gweinyddu busnes

Neath
€14,567 a year
Posted: 7h ago
Offer description

Ydych yn chwilio am eich cam cyntaf i gychwyn ar yrfa? Oes gennych ddiddordeb mewn gweinyddu busnes? Dyma gyfle ffantastig i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau o fewn i’n hadran Gweinyddu Busnes yng Ngrwp Colegau NPTC. Cyflog: £ 14,567 y flwyddyn neu’n unol â goblygiadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol) 37 awr yr wythnos (gan gynnwys ambell fore cynnar, nosweithiau a phenwythnosau). Contract: Amser llawn cyfnod penodol nes i chi gwblhau’r Fframwaith Prentisiaid, yn cynnwys FfCCh (NVQ gynt) a Sgiliau Hanfodol. 66 wythnos yw’r cyfnod hiraf posibl ar gyfer cwblhau pob lefel FfCCh. Ynglyn â chi: Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni cymhwyster Lefel 2 FfCCh mewn Gweinyddu Busnes (darparir hyfforddiant). Rhaid bod ymgeiswyr yn meddu ar gymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Ni fydd modd ymgeisio os oes gennych gymhwyster (Lefel 2 neu uwch) mewn Gweinyddu Busnes. Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig. Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill. Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol fel prentis. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith! Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae’n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim. Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd. Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Prentis (lefel 2): gweinyddu busnes
Neath
€14,567 a year
Similar job
Prentis (lefel 2): gweinyddu busnes
Neath
€14,567 a year
See more jobs
Similar jobs
jobs Neath
jobs Neath Port Talbot
jobs Wales
Home > Jobs > Prentis (Lefel 2): Gweinyddu Busnes

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save