Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweinyddydd efo Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych Byddwch yn y mgymryd â thasgau gweinyddol sy’n sicrhau fod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn llyfn a ch ysylltu gyda chleientiaid, contractwyr ac asiantaethau cyfeirio i sicrhau fod y gwasanaeth yn cael ei gyflenwi yn effeithlon ac effeithiol. Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd. Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth. Llinell strap ein Asiantaeth yw: “ Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd ” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:- “I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel” Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:- “ Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus ” Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. http://www.grwpcynefin.org/en/eich-cymuned/denbighshire-care-repair/ Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: Band B, £22,432 - £24,213 y flwyddyn Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn pro rata yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn drwy’r National Employment Savings Trust ( NEST) Cyflog salwch : Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu Lwfansau Absenoldebau: 5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol Y Swydd Disgrifiad Swydd: DS Gweinyddydd - 08.2025.pdf Job Description: JD Administrator - 08.2025.pdf Canllawiau cwblhau cais.pdf Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.