Are you a disabled person passionate about disability rights and equality?
Can you bring fresh ideas to the table to help drive our organisation forward and give a greater voice to disabled people across Wales?
The future is exciting here at Disability Wales, and you could be a part of it by applying to join the Board as DW's new Treasurer.
Disability Wales (DW) / Anabledd Cymru is the national association of Disabled People's Organisations (DPOs) striving to achieve the rights and equality of disabled people in Wales.
By applying to become DW's Treasurer, you could help shape our future and support our work on financial planning and sustainability.
Once appointed, the successful candidate will have a year to shadow our serving Treasurer before taking over the role during the Autumn of 2026. Opportunities for learning and development and full support will be provided.
As a Disabled People's Organisation, we aim to demonstrate good practice in governance. We strive to provide a supportive and fully inclusive environment which enables Directors to flourish, as well as maximise their talents through a range of opportunities.
Further information
Role title:
Treasurer (Director / Trustee)
Accountable to:
Chairperson and Board of Directors
Term of Office
: Up to three years
Role purpose
:
* To have general oversight of all DW financial matters and take a lead role in financial planning and budgeting and to ensure that funding is spent on the items for which it is given
* Together with fellow Directors/Trustees to be responsible for developing DW's policy and work; managing the organisation including its money and people; and serving the best interests of DW at all times
Commitment
:
* To report to the Board on a regular basis including through the preparation and presentation of budgets ensuring that it is appropriately informed about DW's financial situation
* To participate in discussion and decision making; to read papers in advance of the meetings; to attend and participate in Board Induction and other Training as required; to participate in Annual Appraisal and personal development interviews with the Chairperson
Expenses:
This is a voluntary position. Any out-of-pocket expenses will be paid in line with DW's policy.
Closing date:
12 noon on 26 September 2025
Are you interested in joining us to strive for a more inclusive Wales for disabled people? Apply today by downloading and returning the application form on our website We can't wait to hear from you
If you have any questions, please email: Leandra Craine
*
Ydych chi'n berson anabl sy'n frwd dros hawliau a chydraddoldeb anabledd?
Allwch chi gynnig syniadau newydd i helpu i symud ein sefydliad yn ei flaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl ledled Cymru?
Mae'r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono drwy wneud cais i ymuno â'n Bwrdd fel Trysorydd.
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl sy'n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru. Drwy wneud cais i fod yn Drysorydd Anabledd Cymru, gallech chi helpu i lunio ein dyfodol a chefnogi ein gwaith ar gynllunio ariannol a chynaliadwyedd.
Ar ôl cael ei benodi, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael blwyddyn i gysgodi ein Trysorydd presennol cyn ymgymryd â'r rôl yn ystod hydref 2026. Darperir cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu a bydd yn cael ei gefnogi'r llwyr.
Fel Sefydliad Pobl Anabl, ein nod yw dangos arferion llywodraethu da. Rydyn ni'n ymdrechu i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy'n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu a manteisio i'r eithaf ar eu doniau drwy amrywiaeth o gyfleoedd.
Rhagor o wybodaeth
Teitl y rôl:
Trysorydd (Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr)
Yn atebol i'r:
Cadeirydd a Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Cyfnod yn y Rôl:
Hyd at dair blynedd
Pwrpas y rôl:
* Goruchwylio holl faterion ariannol Anabledd Cymru yn gyffredinol ac arwain y gwaith o gynllunio a chyllidebu ariannol, yn ogystal â sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario ar yr eitemau priodol
* Ynghyd â chyd-Gyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr, bod yn gyfrifol am ddatblygu polisi a gwaith Anabledd Cymru; rheoli'r sefydliad gan gynnwys ei arian a'i bobl; a gwasanaethu buddiannau gorau Anabledd Cymru bob amser
Ymrwymiad:
* Adrodd i'r Bwrdd yn rheolaidd gan gynnwys drwy baratoi a chyflwyno cyllidebau, gan sicrhau bod y Bwrdd yn cael yr wybodaeth briodol am sefyllfa ariannol Anabledd Cymru.
* Cymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau; darllen papurau cyn y cyfarfodydd; mynychu a chymryd rhan yn Sesiynau Cynefino'r Bwrdd a Hyfforddiant arall yn ôl yr angen; cymryd rhan mewn Arfarniad Blynyddol a chyfweliadau datblygiad personol gyda'r Cadeirydd
Treuliau:
Rôl wirfoddol yw hon. Bydd unrhyw fân dreuliau'n cael eu talu'n unol â pholisi Anabledd Cymru.
Dyddiad cau:
Hanner dydd, 26 Medi 2025
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ac ymdrechu i gael Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw. Mae ffurflen gais ar gael ar ein gwefan Rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed gennych chi
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Leandra Craine –