Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Dadansoddwr gwella parhaus a newid

Carmarthen
www.findapprenticeship.service.gov.uk - Jobboard
Posted: 19 August
Offer description

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Uned Gwella Gwasanaethau
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd E/F
Cyflog £31,296 - £39,813
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 17 Medi 2025
Dyddiad cau 28/08/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Dadansoddwr Gwella Parhaus a Newid yn Uned Gwella Gwasanaethau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cymryd cyfrifoldeb am ddadansoddi data ar draws pob maes busnes sy’n ymwneud â Gwella Parhaus a Newid. Datblygu templedi priodol ar gyfer cofnodi modelau gweithredu busnes/dylunio sefydliadol a strwythurau sefydliadol cysylltiedig, a datblygu gallu dadansoddol strategol i hysbysu Gwella Parhaus a Newid.

Ymgymryd â, dadansoddi, ac ymchwilio lle mae angen gwella parhaus, ail-lunio prosesau a newid.

Ffurfio adroddiadau a mathau eraill o adborth ar y gwaith a gyflawnir

Cyflwyno canfyddiadau ar ymchwil/gwella parhaus/adolygiadau/rhag-archwiliadau ar ffurf ysgrifenedig, ystadegol a graffigol, gan wneud argymhellion ar gyfer gwella.

Hwyluso, llunio a chyflawni arolygon a mathau eraill o ymgynghori ansoddol a meintiol, gan gynnwys hwyluso gwaith grŵp ac ymgynghori yn nigwyddiadau a seminarau’r heddlu.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Cyfweliadau i'w cynnal ar neu o amgylch: 17/09/2025

Mae deunydd arweiniol ychwanegol i'w gael yma:

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Senior manager learning and development
Carmarthen
Www.Findapprenticeship.Service.Gov.Uk
Manager
€60,000 - €80,000 a year
See more jobs
Similar jobs
jobs Carmarthen
jobs Carmarthenshire
jobs Wales
Home > Jobs > Dadansoddwr Gwella Parhaus a Newid

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save