Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Senior fundraising manager

Cardiff
Wales Millennium Centre
Fundraising manager
€60,000 - €80,000 a year
Posted: 11 May
Offer description

TNi yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Uwch Reolwr/wraig Codi Arian

Cyflog: £39,567 - £41,651

Oriau Gwaith: 35 awr (Llawn Amser)

Math o Gytundeb: Parhaol

Dyddiad Cau: 16/05/2025

Dyddiad Cyfweld: wythnos yn cychwyn 19 Mai

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae'r adran codi arian yn gyfrifol am bob maes yn ymwneud â rhoddion dyngarol, gan sicrhau arian ar gyfer ein gwaith gyda phobl greadigol, pobl ifanc a chymunedau. Rydym newydd ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed ac yn edrych ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf. Rydym yn chwilio am berson sy’n llawn syniadau creadigol ar gyfer ariannu i ymuno â’n tîm.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Uwch Reolwr/wraig Codi Arian uchelgeisiol chwarae rhan ganolog yn nhwf yr adran codi arian. Bydd gennych hanes cryf o godi arian yn llwyddiannus gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a byddwch yn rhannu angerdd CMC i arddangos pŵer trawsnewidiol y Celfyddydau.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gallu gweithio'n hyblyg, gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy lefel uchel mewn meysydd allweddol o ymchwil datblygu ac ysgrifennu cymhellol ynghyd â phrofiad amlwg o sicrhau cefnogaeth ariannol pump a chwe ffigwr aml-flwyddyn. Byddwch yn gweithio gyda'r Pennaeth Codi Arian i ddatblygu ffyrdd mwy creadigol o gyflwyno ein hachos dros gefnogaeth ac adrodd yn effeithiol i helpu i dynnu sylw at CMC.

Bydd yr Uwch Reolwr/wraig Codi Arian yn adrodd i’r Pennaeth Codi Arian a bydd yn cefnogi’r tîm ehangach ar draws pob maes dyngarwch, gan gynnwys Rhoddion Unigol, Aelodaeth, Cymynroddion a rhoddwyr mawr. Bydd y rôl hon yn cael ei chynnig ar sail gweithio hybrid.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

·Profiad o ysgrifennu, cyflwyno a sicrhau buddsoddiadau aml-flwyddyn o tua £100K+ gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau.

·Yn hunan-gymhellol gyda'r gallu i weithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser tynn.

·Chwaraewr tîm cryf sy'n gallu gweithio'n hyblyg ar draws prosiectau lluosog a chyda nifer o adrannau.

·Profiad helaeth o godi arian yn gyffredinol, gan gynnwys llywodraethu a GDPR.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

* 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
* Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
* Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
* Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
* Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
* Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
* Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
* CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
* NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
* Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
* Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
* Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Senior fundraising manager
Cardiff
Welsh Centre For International Affairs (wcia)
Fundraising manager
€60,000 - €80,000 a year
Similar job
Fundraising manager - south east wales/rheolwr codi arian - de cymru
Cardiff
British Heart Foundation
Fundraising manager
Similar job
Fundraising manager - south east wales/rheolwr codi arian - de cymru
Cardiff
Permanent
British Heart Foundation
Fundraising manager
See more jobs
Similar jobs
Charity jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Charity jobs > Fundraising manager jobs > Fundraising manager jobs in Cardiff > Senior Fundraising Manager

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save