Yn eisiau erbyn Medi 2025
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig ac ymroddgar i ymgymryd â swydd CALU llawn amser a pharhaol yn yr ysgol. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi yn y dosbarth Meithrin yn llawn amser.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr feddu ar Lefel 4 CGC neu gymwysterau cyfatebol.
Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol gynradd fawr, hynod lwyddiannus, gyda 370 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw’r plant atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a’i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae’r nodau hyn yn treiddio’n gryf iawn trwy holl weithgareddau’r ysgol. Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy’r ysgol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol.
Am sgwrs bellach neu i dderbyn mwy o fanylion am y swydd mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Gareth James trwy e-bostio JamesG19@hwbcymru.net neu ffonio 01970 617613.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr