Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Swyddog maes adref o'r ysbyty / case worker hospital to home

Penygroes (LL54 6)
Posted: 29 January
Offer description

​ Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Canllaw. Mae’r swydd yma gyda’r tîm Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn. ​ Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin. Nod ' Canllaw ' yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. 'Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn ' – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. ​ Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. ​ ​ ​ Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. ​ ​ Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. ​ ​ ​ Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. ​ ​ Fel aelod o’r Tîm byddwch yn gweithio gyda a chefnogi staff ysbytai, cleifion a’u teuluoedd i adnabod a datrys problemau tai ac amgylcheddol a fyddai fel arall yn atal rhyddhau o ysbyty. ​ Gwella llif cleifion drwy ysbytai a gostwng nifer o achosion sy’n gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty ​ Darparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl i drwsio, addasu a chynnal eu cartrefi, gan fod yn sensitif i'w anghenion a'u dymuniadau, i'w grymuso i fyw yn annibynnol a diogel yn eu cartrefi. ​ Gweithio tuag at ddarpariaeth lwyddiannus o wasanaeth Gofal a Thrwsio yng Ngwynedd a Môn. ​ Mae’r swydd yn bartneriaeth rhwng Care & Repair Cymru, Canllaw a BCUHB ac yn weithredol yn bennaf yn Ysbyty Gwynedd ond hefyd yn gallu rhoi cymorth i gleifion sydd mewn ysbytai llai ar draws Gwynedd a Môn. ​ ​ ​ Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. ​ ​ Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. ​ ​ Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Wynn Roberts, Rheolwr, ar 01286 889360. ​ ​ ​ Y Pecyn ​ Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £28,911 - £32,539 (pro rata) Lleoliad: Penygroes neu Llangefni / Ysbyty Gwynedd / Gweithio o Gartref Oriau Gweithio: 21 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata) Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon ​ ​ Disgrifiad Swydd ​ DS Adref or Ysbyty 0126.pdf ​ JD Hospital to Home 0126.pdf ​ ​ Buddiannau ​ Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf ​ ​ Datblygiad Personol: ​ Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! ​ ​ Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol ​ Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf ​ Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf ​ ​ Dyddiad y cyfweliadau: 02.03.26 ​ Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno. ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Gwynedd
jobs Penygroes (LL54 6)
jobs Wales
Home > Jobs > Swyddog Maes Adref o'r Ysbyty / Case Worker Hospital to Home

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save