Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Prentisiaeth newyddiadurwr iau - lefel 5 - caerdydd/ journalist apprenticeship - l5 - welsh language

Cardiff
BBC
Journalist
€22,950 a year
Posted: 21 October
Offer description

This job is with BBC, an inclusive employer and a member of myGwork – the largest global platform for the LGBTQ+ business community. Please do not contact the recruiter directly.

Math o Gontract:

Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 24 mis
Lleoliad:

Caerdydd - 3 Sgwr Canolog
Cyflog:

£22,950
AI UN O BRENTISIAETHAU'R BBC YW'R SWYDD NESAF I CHI?

Ymunwch

ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd

hi. Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o'n darparwyr dysgu.

PAM YMUNO 'R CYNLLUN?

Mae'r

Brentisiaeth Newyddiadurwr Iau

yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy'n frwd dros adrodd straeon. Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu ar fin gorffen yr ysgol ac nad yw prifysgol yn addas i chi, mae'r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gyda'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.
Byddwch yn cael profiad ymarferol wrth weithio tuag at

Ddiploma NCTJ

mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5 - gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma. Cadw llygad ar ein rhestr chwarae gwe-dathliad ar Youtube yma.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A'CH DYLANWAD

Fel Prentis Newyddiadurwr Iau, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Byddwch yn:
Gweithio ochr yn ochr

thimau newyddion a materion cyfoes i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol, gan ddarparu cynnwys o safon ar gyfer y BBC
Byddwch yn rhan o holl weithgareddau'r ystafell newyddion, fel dod o hyd i gyfranwyr neu westeion difyr, ysgrifennu briffiau ar gyfer eich tîm, neu ffilmio a golygu ffilmiau
Canfod a chreu straeon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys meddwl am syniadau newydd, cynnal ymchwil fanwl, a chynorthwyo gyda chyfweliadau
Gweithio arbenigwyr yn y sefydliad darlledu gwasanaeth cyhoeddus mwyaf yn y byd, a dysgu ganddynt.
Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster prentisiaeth sy'n cael ei gydnabod yn y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, fel prentis, yn dilyn y safon Prentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 5 (cwricwlwm) ac yn gweithio tuag at gymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant, sef Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth. Caiff hyn ei asesu drwy arholiadau a gwaith cwrs.
I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith y brentisiaeth, ewch i'r ddolen hon. Mae rhagor o wybodaeth am Ddiploma NCTJ ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.
EICH SGILIAU A'CH CYMHWYSEDD

Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a'ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o'r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i'n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydym yn chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a'ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych chi rai o'r sgiliau a'r profiadau hyn, ynghyd

chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:
Yn chwilfrydig iawn am bobl a'r hyn sy'n digwydd yn y byd
Yn llawn syniadau creadigol a ffyrdd llawn dychymyg o adrodd straeon
Yn frwd dros gynhyrchu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar draws teledu, sain, ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
Mae ysgrifennu yn eich cyffroi
Agwedd hyblyg, llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder ystafell newyddion.
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd neu ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a'ch bod yn dymuno hyfforddi fel Newyddiadurwr yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 6.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD

Mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
Bod yn 18 oed neu'n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau'r brentisiaeth
Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio'n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy'n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.
I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni'r canlynol hefyd:
Nid ydych wedi cwblhau nac yn astudio ar gyfer diploma NCTJ neu gymhwyster newyddiaduraeth ar yr un lefel neu uwch
Mae gennych un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2; neu gymhwyster cyfatebol.
I gwblhau'r prentisiaeth, mae'n rhaid i chi gael Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Nifer o fewn y 12 mis cyntaf o'r prentisiaeth.
BAROD I YMGEISIO?

Peidiwch

cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch 'Ymgeisio Nawr'!
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi'n gymwys, byddwn ni'n eich tywys drwy'r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i'w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl cwblhau'r cynllun, byddwch chi'n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i'ch helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gyda'r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Junior journalist apprenticeship - level 5 - cardiff - extend
Cardiff
BBC
Journalist
€22,950 a year
Similar job
Journalist
Cardiff
RedCat Digital
Journalist
Similar job
Journalist
Newport (Newport)
RedCat Digital
Journalist
See more jobs
Similar jobs
BBC recruitment
BBC jobs in Cardiff
Media jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Media jobs > Journalist jobs > Journalist jobs in Cardiff > Prentisiaeth Newyddiadurwr Iau - Lefel 5 - Caerdydd/ Journalist Apprenticeship - L5 - Welsh Language

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save