Academy Coach (Ladies Multi Sports)
(Netball, Football, Rugby)
Salary Details: Scale BS18-BS21 (£26,452 - £28,707 pro rata)
Fractionalised posts are paid in equal amounts over 12 months, and the appropriate element of holiday pay will be incorporated into the calculation.
Contract Type: Permanent
Hours of work: Term Time Only - approximately 9 hours per week, 38 weeks per year
Qualifications: Hold a minimum Level 1 Coaching qualification
Ideally hold Level 2 Coaching qualification
Ideally hold a valid First Aid Certificate
Experience: Experience of coaching, and Knowledge of the sporting environment in which the academies operate would be an advantage.
Details: The successful candidate will have excellent communication skills and experience of working with young people and ideally players U19. You will be required to maintain accurate records and produce reports as well as complying with health and safety procedures/policies.
You will be part of the Sports Academies Team, leading in a variety of sports and physical activities which includes, netball, football, rugby and a multi-sport girls academy.
As part of the role, you will be required to transport learners to off-site sporting events at various locations using college-provided and approved vehicles.
Working pattern based on current fixtures: Monday 9am-12pm, Wednesday (home games) 12pm-3pm and Friday 9am-12pm (away game) timings would vary for away games
Applicants with Welsh language verbal communication skills at intermediate/advanced/fluent level are particularly welcome.
Closing Date: Midnight, Sunday 19th April 2026
Hyfforddwr Academi (Chwaraeon Merched)
(Pêl-rwyd, Pêl-droed, Rygbi)
Manylion Cyflog: Graddfa BS18-BS21 (£26,452 - £28,707 pro rata)
Telir swyddi ffracsiynol mewn symiau cyfartal dros 12 mis, a bydd yr elfen briodol o dâl gwyliau yn cael ei hymgorffori yn y cyfrifiad.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau gwaith: Yn ystod y Tymor yn Unig - tua 9 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn
Cymwysterau: Cymhwyster Hyfforddi Lefel 1 o leiaf
Yn ddelfrydol, cymhwyster Hyfforddi Lefel 2
Yn ddelfrydol, Tystysgrif Cymorth Cyntaf ddilys
Profiad: Byddai profiad o hyfforddi, a gwybodaeth am yr amgylchedd chwaraeon y mae'r academïau'n gweithredu ynddo yn fantais.
Manylion: Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad o weithio gyda phobl ifanc ac yn ddelfrydol chwaraewyr dan 19. Bydd gofyn i chi gynnal cofnodion cywir a chynhyrchu adroddiadau yn ogystal â chydymffurfio â gweithdrefnau/polisïau iechyd a diogelwch.
Byddwch yn rhan o'r Tîm Academïau Chwaraeon, gan arwain mewn amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau corfforol sy'n cynnwys pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi ac academi merched aml-chwaraeon.
Fel rhan o'r rôl, bydd gofyn i chi gludo dysgwyr i ddigwyddiadau chwaraeon oddi ar y safle mewn gwahanol leoliadau gan ddefnyddio cerbydau a ddarperir ac a gymeradwywyd gan y coleg.
Patrwm gwaith yn seiliedig ar y gemau cyfredol: Dydd Llun 9am-12pm, Dydd Mercher (gemau cartref) 12pm-3pm a Dydd Gwener 9am-12pm (gêm oddi cartref) byddai'r amseroedd yn amrywio ar gyfer gemau oddi cartref.
Mae croeso arbennig i ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar yn y Gymraeg ar lefel ganolradd/uwch/rhugl.
Dyddiad Cau: Hanner nos, Nos Sul 19eg Ebrill 2026