Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Athro/ athrawes dosbarth ( ady 1)- ysgol gymraeg cwm derwen

Blackwood
€32,433 - €49,944 a year
Posted: 15 June
Offer description

Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (Dosbarth anghenion Dysgu ychwanegol arbennigol) - Parhaol gyda Lwfans ADY 1 ychwanegol Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys ar gyfer swydd llawn amser, parhaol fel Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (dosbarth arbennigol Anghenion Dysgu Ychwanegol). Mae Corff Llywodraethol yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i apwyntio athro / athrawes sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth gyda phrofiad a dealltwriaeth helaeth o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys anawsterau ymddygiad. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn ein dosbarth arbenigol fel rhan o dîm profiadol i gefnogi dysgwyr gydag amrywiaeth o anawsterau dysgu/ cymdeithasol. Cyniga'r swydd yma gyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus: fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd datblygiadol, cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr, osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau, cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr, arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau, dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu, sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach, cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol. Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol ofalgar a hapus, lle rhoddir blaenoriaeth ar les disgyblion a staff er mwyn sicrhau cyfleodd orau i’n disgyblion. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd. I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau. Dylid dychwelyd ffurflenni gais at y Pennaeth: Mrs K Matthews - Pennaeth, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 3UP neu trwy e-bost: ysgolgymraegcwmderwen@sch.caerphilly.gov.uk Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Eteach, neu gofynnwch am ffurflen gais trwy’r e-bost uchod. Am fanylion pellach, ffoniwch 01495 226062 Cyfweliadau: WyD 2 Gorffennaf 2025 Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006. Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Blackwood
jobs Caerphilly
jobs Wales
Home > Jobs > Athro/ Athrawes Dosbarth ( ADY 1)- Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save